Y lefi prentisiaeth a busnesau adeiladu

Menter newydd gan y llywodraeth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Haf 2015 yw'r lefi prentisiaeth. Dyma rai ffeithiau allweddol i gyflogwyr adeiladu am y lefi prentisiaeth newydd.

Mae canllawiau diweddaraf CITB ar gyfer y diwydiant adeiladu ar gael isod.

Diweddarwyd y canllawiau hyn ym mis Hydref 2016 i adlewyrchu'r cynigion yn ymateb y Llywodraeth i'w hymgynghoriad ar gyllid.

  1. Beth yw'r lefi prentisiaeth?
  2. Pwy fydd angen talu'r lefi prentisiaeth?
  3. Faint o gwmnïau adeiladu fydd angen talu'r lefi prentisiaeth?
  4. A fydd angen i gwmnïau adeiladu dalu'r lefi prentisiaeth a Lefi CITB? 
  5. Sut y bydd y lefi prentisiaeth yn cael ei gasglu?
  6. Sut mae'r taliad lefi yn cael ei gyfrifo?
  7. Beth fydd cyflogwyr yn ei gael yn ôl o'r lefi?
  8. Beth y gall arian y lefi dalu amdano?
  9. Pwy sy'n pennu cost yr hyfforddiant?
  10. Sut y bydd cwmnïau y tu allan i'r lefi prentisiaeth yn ariannu prentisiaethau?
  11. Sut y bydd hyfforddiant ar gyfer prentisiaid rhwng 16 a 18 oed yn cael ei ariannu?
  12. A fydd unrhyw daliadau eraill gan y Llywodraeth?
  13. A all cyflogwr drosglwyddo arian yn ei gyfrif digidol i ddarparwr hyfforddiant neu gyflogwr arall?
  14. Sut y bydd y lefi'n gweithio yng Nghymru a'r Alban?
  15. Sut y bydd CITB yn rhoi cymorth i gyflogwyr mewn perthynas â phrentisiaethau?
  16. Beth fydd yn digwydd os bydd cyflogwr yn dechrau cyflogi prentis cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno?

 

1. Beth yw'r lefi prentisiaeth?

Y Llywodraeth sy'n cyflwyno'r lefi prentisiaeth. Y lefi, yn hytrach na chyllid y trethdalwyr, fydd yn ariannu'r holl brentisiaethau ar gyfer cwmnïau o bob maint. Bydd yn dechrau ym mis Ebrill 2017 ar gyfradd o 0.5% o fil cyflog cyflogwr, a chaiff ei dalu drwy drefniadau Talu Wrth Ennill (TWE). 

2. Pwy fydd angen talu'r lefi prentisiaeth?

Bydd pob cwmni yn cael lwfans gwrthbwyso o £15,000, sy'n gyfwerth â 0.5% ar gyflogres o £3 miliwn. Bydd unrhyw gyflogwr â chyflogres uwch na hyn yn atebol i dalu'r lefi.

Enghraifft 1: cyflogwr a fyddai'n talu'r lefi  

Cyflogwr â bil cyflog blynyddol o £5 miliwn:

  • Swm y lefi: 0.5% x £5,000,000 = £25,000
  • Lwfans: £25,000 – 15,000 = taliad blynyddol o £10,000

Enghraifft 2: cyflogwr na fyddai'n talu'r lefi

Cyflogwr â bil cyflog blynyddol o £2 filiwn:

  • Swm y lefi: 0.5% x £2,000,000 = £10,000
  • Lwfans: £10,000 – £15,000 = taliad blynyddol o £0

Yn achos cwmnïau sy'n gysylltiedig â'i gilydd, dim ond un lwfans o £15,000 y gellir ei rannu rhyngddynt. Rhaid i'r ffordd y caiff y lwfans ei rannu rhyngddynt gael ei benderfynu ar ddechrau'r flwyddyn dreth. Felly, yn ystod y flwyddyn, os bydd cyflogwr yn dod yn gysylltiedig â chwmni sydd eisoes yn talu'r lefi, byddai'r cyflogwr cyntaf dod yn atebol ar unwaith am dalu'r lefi ar ei gyflogres lawn.

Gall cwmnïau cysylltiedig hefyd gronni eu harian lefi i dalu am hyfforddiant prentisiaeth.

3. Faint o gwmnïau adeiladu fydd angen talu'r lefi prentisiaeth?

Yn seiliedig ar ddata cyfredol, bydd angen i tua 1% o gyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB (750 o gwmnïau ar lefel grŵp) dalu. Fodd bynnag, bydd y diwygiadau i brentisiaethau yn effeithio ar gyflogwyr adeiladu o bob maint.

4. A fydd angen i gwmnïau adeiladu dalu'r lefi prentisiaeth a Lefi CITB? 

Y diwydiant adeiladu fydd yn penderfynu pa fath o gymorth sydd ei angen ar gyfer sgiliau a hyfforddiant gan CITB yn y dyfodol.

I hwyluso hyn, mae CITB wedi sefydlu Gweithgor Lefi newydd a arweinir gan gyflogwyr er mwyn cwmpasu'r opsiynau o ran sut y gallai Lefi CITB weithio ochr yn ochr â'r Lefi Prentisiaeth, tuag at Orchymyn Lefi CITB newydd posibl ar gyfer 2018.

Mae hyn yn golygu, am flwyddyn yn unig (blwyddyn ariannol 2017/2018), y bydd yn rhaid i gwmnïau â chyflogres o fwy na £3m sydd o fewn cwmpas Lefi CITB dalu'r ddau lefi.

Mae CITB wedi cytuno ar Becyn Pontio dros dro gyda'r diwydiant, ar gyfer cwmnïau a fydd yn talu'r ddau lefi y flwyddyn honno. O dan y trefniant hwn, bydd y cwmnïau hyn yn gallu hawlio cyllid CITB ar gyfradd uwch sydd wedi'i chapio ar lefel eu cyfraniad Lefi Prentisiaeth. 

5. Sut y bydd y lefi prentisiaeth yn cael ei gasglu?

Bob mis, bydd y lefi prentisiaeth yn cael ei gasglu drwy system TWE, ochr yn ochr â Threth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dim ond un lwfans a fydd gan gyflogwyr unigol sydd â mwy nag un cynllun TWE.

Bydd y lefi a godir mewn perthynas â chyflogres eu cyflogeion sy'n byw yn Lloegr ar gael i ariannu prentisiaethau. Bydd yr arian a godir mewn perthynas â chyflogeion sy'n byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn mynd tuag at drethiant cyffredinol.

6. Sut mae'r taliad lefi yn cael ei gyfrifo?

Bydd gan bob cyflogwr lwfans gwrthbwyso o £15,000 (sy'n gyfwerth â 0.5% o £3 miliwn). Ni fydd cyflogwyr â bil cyflog misol sy'n llai na £250,000 (sy'n gyfwerth â bil cyflog blynyddol o £3m) yn talu'r lefi prentisiaeth o gwbl.

Caiff y lwfans o £15,000 ei rannu'n 12 lwfans misol o £1,250. Os bydd 0.5% o'r bil cyflog misol yn uwch na'r lwfans o £1,250, bydd y cyflogwr yn talu'r lefi prentisiaeth. Fodd bynnag, os bydd 0.5% o'r bil cyflog misol yn llai na £1,250, bydd y lwfans sy'n weddill yn cael ei gario ymlaen i'r mis nesaf.

Mae hyn yn golygu y gallai rhai cwmnïau ond dalu'r lefi mewn misoedd pan mae'r gyflogres yn uwch nag arfer.

Fodd bynnag, pe baent o dan y lwfans £1,250 mewn misoedd blaenorol, byddai'r hyn sy'n weddill yn cael ei gario ymlaen a'i ddidynnu o unrhyw daliad sy'n ddyledus ar gyfer y mis pan mae'r gyflogres yn uwch.

7. Beth fydd cyflogwyr yn ei gael yn ôl o'r lefi?

Bydd cyflogwyr yn Lloegr yn gallu adennill eu cyfraniadau lefi prentisiaeth fel talebau digidol i dalu am hyfforddi prentisiaid. Ni fydd y system dalebau hon yn gymwys yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd arian heb ei wario yng nghyfrif digidol cyflogwr yn dod i ben ar ôl 24 mis. Felly, er enghraifft, bydd arian sy'n mynd i mewn i'r cyfrif ym mis Mai 2017 yn dod i ben ym mis Ebrill 2019 os na fydd y cyflogwr wedi'i wario.

Mae'r cyfrif digidol yn gweithio ar sail ‘cyntaf i mewn, cyntaf allan’ felly bydd taliadau'n dod yn awtomatig o'r arian a aeth i mewn i'r cyfrif yn gyntaf.

Bydd cyflogwyr sy'n talu'r lefi prentisiaeth hefyd yn cael taliad o 10% gan y Llywodraeth yn ychwanegol at gyfanswm eu cyfraniadau misol yn Lloegr. Felly, am bob £1 y bydd cyflogwr yn ei thalu i mewn, gall dynnu £1.10 i lawr i'w wario ar hyfforddiant prentisiaeth drwy ei gyfrif digidol.

Gall cwmnïau cysylltiedig gronni eu harian mewn un lefi er mwyn talu am hyfforddiant prentisiaeth. Ond nid yw cyflogwyr nad ydynt wedi'u cysylltu â'r grŵp – er enghraifft, cwmnïau ar wahân yn y gadwyn gyflenwi – yn gallu ymuno â'r gronfa.

8. Beth y gall arian y lefi dalu amdano?

Gall arian yn y cyfrif digidol dalu am hyfforddi ac asesu prentisiaid (gyda darparwr a sefydliad asesu cymeradwy, hyd at uchafswm ei fand cyllido).

Ni all yr arian hwn dalu am gyflogau, costau teithio na chostau atodol, costau rheoli, lleoliadau gwaith, hyfforddeiaethau, na chostau sefydlu rhaglen brentisiaeth.

Gall cyflogwyr ddefnyddio arian mewn cyfrifon digidol i symud cyflogeion ymlaen i brentisiaeth lefel uwch, neu brentisiaeth ar lefel gyfatebol neu is sy'n addysgu set newydd o sgiliau.

Enghraifft 3: cyflogai sydd am ddechrau prentisiaeth lefel uwch

Byddai cyflogwr yn gallu defnyddio ei arian prentisiaeth er mwyn talu i gyflogai sydd eisoes yn meddu ar brentisiaeth Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau ddechrau ar brentisiaeth Lefel 3 yn yr alwedigaeth hon.

Os bydd cyflogai am ddysgu sgiliau newydd sy'n wahanol i'w gymwysterau presennol, ar yr un lefel neu ar lefel is, gall cyflogwr ddefnyddio'r arian yn ei gyfrif digidol i dalu am hyn.

Enghraifft 4: cyflogai sydd am ddysgu sgiliau newydd drwy brentisiaeth ar lefel is na'i hyfforddiant presennol

Byddai cyflogwr yn gallu talu i gyflogai sydd eisoes yn meddu ar brentisiaeth Lefel 3 mewn galwedigaethau pren ddilyn prentisiaeth Lefel 2 mewn peiriannu pren. 

9. Pwy sy'n pennu cost yr hyfforddiant?

Rhaid i bob cyflogwr ddewis darparwr hyfforddiant a negodi cost yr hyfforddiant.

Bydd capiau cyllido'r Llywodraeth yn cael eu pennu ar gyfer pob prentisiaeth. Hwn yw'r uchafswm o gyllid y Llywodraeth y gellir ei ddefnyddio i dalu am hyfforddiant prentis.

Mae'r 15 band cyllido newydd arfaethedig yn amrywio o £1,500 i £27,000. Mae dadansoddiad llawn o'r bandiau cyllido dros dro ar gyfer prentisiaethau adeiladu i'w weld ar y daflen ffeithiau ar y lefi prentisiaeth (PDF, 280 KB).

Mae'r bandiau newydd yn disodli cyfraddau'r hen fframwaith prentisiaeth, a oedd yn amrywio yn ôl oedran. Mae'r bandiau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar y gyfradd bresennol i oedolion, gyda chynnydd wedi'i gymhwyso i alwedigaethau STEM, sy'n cynnwys prentisiaethau adeiladu. Bydd cynnydd o 40% i gyllid ar Lefel 2, a chynnydd o 80% ar Lefel 3. Mae hyn yn gymwys i Fframweithiau, ond ni fydd yn gymwys i Safonau, nad yw'r cyfraddau cyllido wedi'u pennu ar eu cyfer eto.

Ni ellir defnyddio cyllid gan y Llywodraeth, naill ai drwy gyfrif digidol y lefi prentisiaeth neu gyd-fuddsoddi ar gyfer cyflogwyr nad ydynt yn talu'r lefi (gweler eu manylion isod), i dalu costau prentisiaeth uwchben y cap cyllido.

Enghraifft 5: Capiau Cyllido ar gostau prentisiaeth – talwyr y lefi prentisiaeth

Mae cyflogwr A (sy'n talu'r lefi prentisiaeth) yn hyfforddi prentis yng ngalwedigaeth Y. Mae'r Llywodraeth wedi pennu cap cyllido o £5k y flwyddyn ar gyfer yr hyfforddiant hwn, ond mae'r cyflogwr yn negodi cost o £4k gyda'r darparwr.

Mae'r gost o fewn terfyn y band cyllido, felly bydd £4k yn cael ei ddidynnu o gyfrif digidol y cyflogwr drwy gydol cyfnod y brentisiaeth.

NEU

Mae cyflogwr B (sy'n talu'r lefi prentisiaeth) yn hyfforddi prentis yng ngalwedigaeth Y, sydd hefyd â chap cyllido o £5k. Y pris a gaiff ei negodi â'r darparwr hyfforddiant yw £6k, sy'n uwch na'r cap cyllido.

Mae hyn yn golygu y bydd £5k yn cael ei ddidynnu o gyfrif digidol y cyflogwr drwy gydol cyfnod y brentisiaeth, a'r cyflogwr fydd yn gyfrifol am dalu'r £1k sy'n weddill.

Os bydd costau hyfforddi prentis yn uwch na'r cap cyllido, ni all y cyflogwr ddefnyddio arian y lefi prentisiaeth i dalu'r gwahaniaeth. Rhaid iddo ariannu'r gost ychwanegol hon ar wahân.

Os bydd cwmni wedi defnyddio'r holl arian yn ei gyfrif digidol, bydd unrhyw hyfforddiant pellach yn cael ei ariannu drwy'r model ‘cyd-fuddsoddi’ sy'n cael ei esbonio isod. 

Fodd bynnag, ni ellir defnyddio cyd-fuddsoddiad gan y Llywodraeth i dalu costau hyfforddi uwchben y cap cyllido.

10. Sut y bydd cwmnïau y tu allan i'r lefi prentisiaeth yn ariannu prentisiaethau?

Ni fydd angen i gyflogwyr nad ydynt yn talu'r lefi prentisiaeth ddefnyddio talebau digidol i dalu am hyfforddi ac asesu prentisiaid tan o leiaf 2018, gan fod darparwyr hyfforddiant yn dal i gael eu talu'n uniongyrchol gan y Llywodraeth.

Ond bydd angen iddynt ddewis darparwr hyfforddiant o'r rhestr gofrestredig, negodi cost yr hyfforddiant a chydymffurfio â'r capiau cyllido ar gyfer gwahanol gymwysterau, yn yr un modd â chwmnïau mwy sy'n talu'r lefi prentisiaeth.

Rhaid i gyflogwyr nad ydynt yn talu'r lefi gyfrannu 10% o gyllid tuag at gost eu hyfforddiant prentisiaeth.

Yr enw ar hyn yw ‘cyd-fuddsoddi’, a bydd y cyflogwr yn gwneud taliad cychwynnol i'r darparwr hyfforddiant. Wedyn, bydd y Llywodraeth yn talu ei chyfran hyd at derfyn y cap cyllido ar gyfer y brentisiaeth honno.

Mae disgwyl i'r lefi prentisiaeth godi i £2.5bn y flwyddyn, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer holl gyfraniadau'r Llywodraeth at hyfforddiant prentisiaeth yn Lloegr.

Enghraifft 6: Cyllid cyd-fuddsoddi – cyflogwyr nad ydynt yn talu'r lefi prentisiaeth

Mae cyflogwr A (nad yw'n talu'r lefi prentisiaeth) yn hyfforddi prentis yng ngalwedigaeth Y. Y cap cyllido ar gyfer yr hyfforddiant hwn yw £4k y flwyddyn, ond mae'r cyflogwr yn negodi cost o £3k gyda'r darparwr.

Mae'r gost o fewn terfyn y band cyllido, felly bydd y £3k yn cael ei dalu drwy gyfraniad o £300 gan y cyflogwr a chyd-fuddsoddiad o £2,700 gan y Llywodraeth.

NEU

Mae cyflogwr B (nad yw'n talu'r lefi prentisiaeth) yn hyfforddi prentis yng ngalwedigaeth Y, sydd â chap cyllido o £6k. Y pris a gafodd ei negodi â'r darparwr hyfforddiant yw £7k, sy'n uwch na'r cap cyllido.

Mae'r gost uwchben terfyn y cap cyllido, felly bydd y cyflogwr yn talu £600 o'r £6k sydd o fewn terfyn y cap cyllido ar gyfer yr hyfforddiant, gyda chyd-fuddsoddiad o £5.4k gan y Llywodraeth. Y cyflogwr sy'n gyfrifol am dalu'r £1k sy'n weddill uwchben y cap cyllido.

11. Sut y bydd hyfforddiant ar gyfer prentisiaid rhwng 16 a 18 oed yn cael ei ariannu?

Er mwyn helpu cyflogwyr i addasu i'r lefelau cyllido newydd wrth iddynt symud i ffwrdd o Fframweithiau prentisiaeth a thuag at Safonau prentisiaeth newydd, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynnydd ychwanegol o 20% mewn cyllid i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed. Bydd y cynnydd hwn yn gymwys i gyllid ar gyfer Fframweithiau prentisiaeth yn unig, a bydd y lefelau cyllido ar gyfer Safonau prentisiaeth yn cael eu pennu drwy'r broses Arloesi. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei roi yn uniongyrchol i ddarparwyr hyfforddiant, yn hytrach na thrwy gyfrif digidol cyflogwr. 

Bydd y darparwr hyfforddiant hefyd yn derbyn cymhelliad o £1,000. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn dilyn prentisiaethau a chefnogi cyflogwyr gyda chostau ychwanegol.

Mae'r Llywodraeth hefyd yn cynnig cymhelliad i gyflogwyr sy'n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, sef taliad o £1,000 a fydd yn cael ei dalu ar ôl 3 mis a 12 mis o'r brentisiaeth.

Os bydd cyflogwr bach (llai na 50 o gyflogeion) yn cyflogi prentis rhwng 16 a 18 oed, bydd yn cael ei eithrio rhag talu'r cyd-fuddsoddiad gwerth 10%. Bydd y costau hyfforddi'n cael eu talu'n llawn gan y Llywodraeth (cyn belled â'u bod yn llai na'r cap cyllido).

12. A fydd unrhyw daliadau eraill gan y Llywodraeth?

Bydd y Llywodraeth yn rhoi £1,000 i gyflogwr a £1,000 i ddarparwr hyfforddiant er mwyn talu am y cymorth ychwanegol y bydd ei angen i gyflogi prentis rhwng 19 a 24 oed sydd wedi bod mewn gofal yn flaenorol neu sydd â Chynllun Addysg, Gofal ac Iechyd Awdurdod Lleol.

Er mwyn cefnogi prentisiaethau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, bydd ‘cynnydd anfantais’ o £600 ar gyfer y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, £300 ar gyfer y 10% nesaf, a £200 ar gyfer y 7% ar ôl hynny. Unwaith eto, dim ond i Fframweithiau y bydd hyn yn gymwys a bydd yn cael ei dalu drwy grant gan y Llywodraeth, nid o'r cyfrif digidol.

Bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu hawlio hyd at £150 y mis yn ychwanegol gan y Llywodraeth er mwyn cefnogi prentis ag anabledd dysgu. Gallai'r swm hwn gael ei gynyddu os bydd angen lefel uwch o gymorth dysgu.

Ar gyfer prentisiaid nad ydynt yn meddu ar y safon ofynnol mewn Mathemateg a Saesneg, bydd y darparwr hyfforddiant yn gallu hawlio cyfradd unffurf ychwanegol o £471 gan y Llywodraeth i ddarparu'r cymhwyster hwn.

13. A all cyflogwr drosglwyddo arian yn ei gyfrif digidol i ddarparwyr hyfforddiant neu gyflogwr arall?

O 2018 ymlaen, bydd cyflogwyr yn gallu trosglwyddo hyd at 10% o'r arian lefi yn eu cyfrifon digidol bob blwyddyn i gyflogwr arall sydd â chyfrif digidol. Bydd hyn yn galluogi cyflogwyr i gefnogi eu cadwyni cyflenwi neu gyflogwyr eraill yn eu sector neu gymuned.

Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu trosglwyddo hyd at 10% o werth blynyddol yr arian yn eu cyfrifon i Asiantaeth Hyfforddiant Prentisiaeth (ATA). Mae ATA yn recriwtio a chyflogi prentisiaid, ac yn trefnu hyfforddiant ar eu cyfer, ar ran cyflogwyr.

Bydd faint o arian y gellir ei drosglwyddo yn cael ei adolygu gan grŵp newydd o gyrff cyflogwyr gan gynnwys CBI, FSB, EEF a CFG.

14. Sut y bydd y lefi'n gweithio yng Nghymru a'r Alban?

Mae'r lefi prentisiaeth yn gymwys i gyflogwyr ledled y DU. Dim ond arian a godir mewn perthynas â chyflogeion y mae eu cyfeiriad cartref yn Lloegr a fydd yn ymddangos yn y cyfrif digidol. Dim ond ar brentisiaid y mae eu gweithle arferol yn Lloegr y bydd modd gwario'r arian.

Bydd Cymru a'r Alban yn derbyn cyllid sy'n gymesur â'r gwariant ychwanegol yn Lloegr drwy Fformiwla Barnett, gyda'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban yn penderfynu sut y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio.

Os bydd cwmni'n gweithio ar draws gwahanol wledydd, bydd faint o lefi sydd ar gael iddynt i'w wario drwy'r cyfrif digidol yn Lloegr yn adlewyrchu'r gyfran o'r bil cyflog a gaiff ei thalu i gyflogeion sy'n byw yno.

Caiff yr asesiad hwn ei gynnal ddechrau 2017, yn seiliedig ar y data sydd eisoes gan CThEM ar gyfeiriad cartref cyflogeion.

Er enghraifft:

  •  Os yw 100% o'r bil cyflog yn Lloegr, bydd 100% o'r taliad lefi yn y cyfrif digidol
  •  Os yw 80% o'r bil cyflog yn Lloegr, bydd 80% o'r taliad lefi yn y cyfrif digidol

Bydd cyflogwyr yn gallu defnyddio eu cyfrifon digidol neu gyllid cyd-fuddsoddi gan y Llywodraeth i hyfforddi prentis y mae ei brif weithle yn Lloegr, hyd yn oed os yw'r prentis yn byw yng Nghymru neu'r Alban.

Mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar drefniadau ariannu cyfatebol ar gyfer cyflogeion sy'n byw yn Lloegr ond yn gweithio mewn rhannau eraill o'r DU o bosibl. 

[System a ddefnyddir gan y Trysorlys yn y Deyrnas Unedig yw fformiwla Barnett, er mwyn addasu'n awtomatig faint o wariant cyhoeddus sy'n cael ei ddyrannu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i adlewyrchu newidiadau yn y lefelau gwariant sy'n cael eu dyrannu i wasanaethau cyhoeddus ledled Prydain Fawr.]

15. Sut y bydd CITB yn rhoi cymorth i gyflogwyr mewn perthynas â phrentisiaethau?

Mae faint o gymorth grant a roddir gennym yn debygol o gynyddu. Ein nod yw helpu cyflogwyr i dalu'r costau newydd sydd ynghlwm wrth hyfforddi prentis, a thalu grantiau yn gyflym er mwyn helpu cyflogwyr y mae'n ofynnol iddynt wneud taliad cychwynnol i ddarparwr hyfforddiant. Byddwn yn cydweithio â chi i ddatblygu manylion y cymorth.

Byddwn hefyd yn helpu cyflogwyr, yn enwedig cwmnïau llai, i negodi â darparwyr hyfforddiant er mwyn sicrhau'r cyfraddau gorau. Byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu safonau prentisiaeth perthnasol ar gyfer y diwydiant adeiladu a sicrhau ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael i'r diwydiant.

16. Beth fydd yn digwydd os bydd cyflogwr yn dechrau cyflogi prentis cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno?

Bydd cyflogwyr sy'n dechrau cyflogi prentis cyn mis Ebrill 2017 yn cael cyllid o dan y system newydd, a bydd y cyllid hwnnw'n parhau drwy gydol cyfnod y brentisiaeth.

Mae'r holl wybodaeth ar y dudalen hon ar gael i'w lawrlwytho yn y daflen ffeithiau ar y lefi prentisiaeth (PDF, 274 KB)

Web design by S8080