Facebook Pixel
Skip to content

Canfod prentisiaeth

Gall dod yn brentis fod yn ddechrau gyrfa a all bara oes.

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw darganfod pa yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae dros 100 o brentisiaethau gwahanol ym maes adeiladu yn amrywio o bethau ymarferol fel gosod brics, plastro neu loriau i rolau mwy technegol, cynllunio neu oruchwylio.

Canllaw cyflym ar sicrhau prentisiaeth adeiladu

1. Edrychwch ar wefan Am Adeiladu i gael ysbrydoliaeth a rhagor o wybodaeth am dros 130 o rolau a darllen straeon bywyd go iawn am y rhai sydd eisoes yn y diwydiant. 
2. Cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein. Mae'r ffurflen yn un syml i'w chwblhau. Ar eich cais, cewch ddewis hyd at ddwy fasnach neu grefft yr hoffech chi wneud prentisiaeth ynddyn nhw, Os oes gennych chi gyflogwr eisoes ar gyfer eich prentisiaeth, mae angen i chi ychwanegu eu manylion at eich ffurflen gais. Wedyn bydd eich Swyddog Prentisiaethau CITB yn eu ffonio nhw ac yn cychwyn y trefniadau ar gyfer eich prentisiaeth chi. 
3. Bydd Swyddog Prentisiaethau CITB yn ffonio os daw ar draws lle gwag sy'n cyfateb i'ch sgiliau chi, ond dylech chi barhau i chwilio am gyfle hefyd.
4. Os cewch chi gynnig cyfweliad, ymchwiliwch i'r cwmni a meddwl am gwestiynau y gallech chi eu gofyn iddyn nhw. 
5. Gwisgwch yn smart i'ch cyfweliad ac anelwch i gyrraedd o leiaf 15 munud cyn amser eich cyfweliad i greu argraff dda ar eich darpar gyflogwr. 
6. Os byddwch chi'n llwyddiannus yn eich cyfweliad, bydd eich Swyddog Prentisiaeth CITB yn trefnu eich cofrestriad â choleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant ac yn cydlynu holl drefniadau eraill eich prentisiaeth.