Facebook Pixel
Skip to content

Cofrestru eich busnes gyda CITB.

Mae'n ofynnol i CITB osod lefi ar gyflogwyr sy'n ymwneud yn gyfangwbl neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu ac mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich busnes i gwblhau Ffurflen Lefi blynyddol. Gofynnir i chi ddarparu manylion eich bil cyflogau, er mwyn i ni asesu unrhyw atebolrwydd lefi.

Canfod manylion pellach cyfraddau Lefi cyfredol, gostyngiadau a therfynau eithriadau.

Sut i gofrestru eich busnes

Darllenwch y wybodaeth ganlynol cyn cwblhau'r Ffurflen Gofrestru Cyflogwr

Adolygwch y rhestrau o weithgareddau adeiladu a nad ydynt yn adeiladu isod yn ofalus. Os credwch fod eich busnes yn gyflogwr sy'n ymwneud yn llwyr neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu, cwblhewch ein Ffurfen Gofrestru Cyflogwr ar-lein.

Rydym yn anelu at ymateb i'ch ymholiad cofrestru cyn pen 10 diwrnod gwaith. Gallai hyn gynnwys gwneud cais am ragor o wybodaeth i asesu eich dilysrwydd i gofrestru.

Unwaith y bydd eich busnes wedi'i gofrestru gyda CITB, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd Ffurflen Lefi flynyddol i CITB waeth beth yw'r swm rydych wedi'i dalu i'ch gweithwyr.

Help gyda chofrestru

  • Holwch gwestiwn i ni trwy ddefnyddio'r blwch sgwrsio ar waelod eich sgrin
  • Cysylltwch â'n tîm lefi ar neu drwy ffonio 0344 99 444 55.