Facebook Pixel
Skip to content

Sut mae CITB yn penderfynu a yw cwrs, cymhwyster neu brentisiaeth yn gymwys am grant?

Mae CITB yn ariannu nifer fawr o gyrsiau, cymwysterau a phrentisiaethau sy'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu. Mae'n defnyddio meini prawf penodol i ystyried pa rai o'r rhain a all gael eu cefnogi gan grant. 

Os ydych yn meddwl y dylai cwrs, cymhwyster neu brentisiaeth sy'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu ac nad yw ar y rhestr fod yn gymwys am grant, edrychwch ar y meini prawf isod. Gallwch awgrymu cwrs, cymhwyster neu brentisiaeth drwy lenwi'r ffurflen berthnasol.

Mae sawl cam i'r broses o asesu cyrsiau sy'n cael eu hawgrymu.

Mae cyrsiau sydd wedi'u hawgrymu yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod ar gyfer bod yn gymwys am grant.

Asesu'r pwnc

Cam 1: Rhaid i'r hyfforddiant barchu un o'r pum egwyddor isod:

  1. Annog hyfforddiant sy'n ymwneud yn benodol â'r diwydiant adeiladu ac sy'n cyd-fynd â Gorchymyn Cwmpas CITB
  2. Alinio cyllid â blaenoriaethau a safonau
  3. Cefnogi pob cyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB at ddibenion y Lefi a'i is-gontractwyr
  4. Defnyddio cyllid wedi'i dargedu i gefnogi blaenoriaethau'r diwydiant adeiladu
  5. Blaenoriaethu buddsoddi mewn meysydd lle mae ymrwymiad hirdymor a budd o fuddsoddi

Cam 2: Rhaid i'r hyfforddiant fod yn benodol i'r diwydiant adeiladu neu fod wedi'i roi yng nghyd-destun y diwydiant adeiladu.

Cam 3: Rhaid i CITB allu ateb tri o'r cwestiynau dilynol yn gadarnhaol:

  • A yw'r hyfforddiant yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu'n unig?
  • A fydd yr hyfforddiant yn cael ei roi mewn ffordd ffurfiol a strwythuredig ac yn sicrhau canlyniad diffiniedig o ran sgiliau?
  • A yw'r hyfforddiant yn diweddaru sgiliau presennol sy'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu?
  • A yw'r hyfforddiant yn gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth yn unig?
  • A yw'r hyfforddiant yn bodloni mwy na gofynion gorfodol (h.y. deddfwriaethol)?
  • A oes angen adnewyddu'r hyfforddiant yn rheolaidd?

Amgylchiadau eithriadol

Gellir hepgor Camau 2 a 3 o dan amgylchiadau eithriadol, sydd wedi'u diffinio fel:

"hyfforddiant wedi'i safoni ac sydd newydd gael ei ddatblygu ar bwnc lle mae angen y gellir ei ddangos am hyfforddiant, wedi'i ysgogi gan y canlynol:

  • deddfwriaeth
  • Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu
  • y Llywodraeth
  • tystiolaeth CITB

ond nad yw wedi'i ymgorffori'n eang neu ei nodi fel blaenoriaeth gan y diwydiant ar hyn o bryd."

Haenau'r grant

Mae CITB yn penderfynu pa haen sy'n addas ar sail nifer y pwyntiau a enillwyd ar ôl ateb y chwe chwestiwn dilynol:

1. Beth yw hyd yr hyfforddiant?

Beth yw hyd yr hyfforddiant?
Hyd Pwyntiau
0.5 i 1.5 diwrnod 1
2 i 3 diwrnod 2
4 i 5 diwrnod 3
6 diwrnod neu fwy 4

2. Beth yw lefel yr hyfforddiant?

Beth yw lefel yr hyfforddiant?
Lefel Pwyntiau
Mynediad 1
Canolradd neu uwch 2

3. A yw'r pwnc wedi'i ddiffinio'n benodol fel un sydd o fewn y cwmpas?

A yw'r pwnc wedi'i ddiffinio'n benodol fel un sydd o fewn y cwmpas?
O fewn y cwmpas? Pwyntiau
Ydy  1

4. A oes asesiad ffurfiol ar ôl yr hyfforddiant?

A oes asesiad ffurfiol ar ôl yr hyfforddiant?
Asesiad ffurfiol? Pwyntiau
Oes 1

5. Pa fath o safon ydyw?

Pa fath o safon ydyw?
Math Pwyntiau
Wedi'i sicrhau  0
Wedi'i chydnabod 1
Cynnyrch CITB   

1

6. A yw o leiaf 50% o'r hyfforddiant yn ymarferol (defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau fel rhan o'r gweithgareddau dysgu)?

A yw o leiaf 50% o'r hyfforddiant yn ymarferol (defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau fel rhan o'r gweithgareddau dysgu)?
Hyfforddiant ymarferol? Pwyntiau
Nac ydy 0
Ydy 2

Mae tair haen y grant yn seiliedig ar nifer y pwyntiau a enillwyd.

 

three levels or tiers of grant

Mae’r grant ar gyfer cwrs diweddaru'n werth 50% o werth haen y rhiant-gwrs. Er enghraifft, pan fydd y rhiant-gwrs yn gwrs Haen 3 (£120), bydd y grant ar gyfer y cwrs diweddaru'n werth £60.

Asesu'r safon

Os bydd y safon yn bodloni'r meini prawf hyn, bydd yn cael ei hanfon i'r Tîm Datblygu Safonau at ddibenion ei gwerthuso.

Ar y cyd â'r Gweithgor Galwedigaethol, bydd y tîm yn gwneud un o'r penderfyniadau canlynol:

  1. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gwmpasu gan safon sydd eisoes wedi'i rhestru.
  2. Nid yw'r hyfforddiant yn cael ei gwmpasu gan safon, ond dylai gael ei restru.
  3. Ni ddylai'r hyfforddiant gael ei restru, gan nad yw'n bodloni gofynion y Gweithgor Galwedigaethol o ran ansawdd neu ddwyster y dysgu neu'r dull asesu.

Awgrymu cwrs

Mae cymwysterau a phrentisiaethau'n gymwys am grant os ydynt yn bodloni pob maen prawf ar gyfer bod yn gymwys am grant wrth iddynt gael eu hasesu yn ei erbyn. Mae saith cam i’r broses asesu:

Cam 1:

A yw corff dyfarnu'n rheoleiddio'r cymhwyster neu'r brentisiaeth (er enghraifft, y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau, Awdurdod Cymwysterau'r Alban neu Cymwysterau Cymru yn achos cymwysterau neu, yn achos prentisiaethau, y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol, Apprenticeships Frameworks Online neu Skills Development Scotland)?

  • RHAID ateb YDY – os mai NAC YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

Cam 2:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth ar Lefel 2 neu uwch yng Nghymru a Lloegr neu ar Lefel 5 neu uwch yn yr Alban?

  • RHAID ateb YDY – os mai NAC YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

Cam 3:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth mewn pwnc y gellid ystyried ei fod 'o fewn y cwmpas' ac yn cyd-fynd â Gorchymyn Cwmpas CITB?

  • Os mai YDY yw'r ateb, mae'n gymwys am grant yn awtomatig. Os mai NAC YDY yw'r ateb, rhaid symud ymlaen i Gam 4.

Cam 4:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth wedi'i (d)diffinio'n benodol fel un sydd 'y tu allan i’r cwmpas' yng Ngorchymyn Cwmpas CITB?

  • RHAID ateb NAC YDY – os mai YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

Cam 5:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn un 'perthnasol, cysylltiedig neu gynorthwyol' i wneud y prif weithgareddau sydd o fewn y cwmpas, fel y'u diffinnir yng Ngorchymyn Cwmpas CITB?

  • RHAID ateb YDY – os mai NAC YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

Cam 6:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth o leiaf 51% yn benodol i'r diwydiant adeiladu*, ac a yw'r cynnwys wedi'i gynllunio ar gyfer y diwydiant adeiladu'n unig?

  • RHAID ateb YDY – os mai NAC YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

Cam 7:

A yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn ymwneud â phrosiectau yn y diwydiant adeiladu'n rheolaidd?

  • RHAID ateb YDY – os mai NAC YDY yw'r ateb, nid yw'r cymhwyster neu'r brentisiaeth yn gymwys am grant.

*Er mwyn penderfynu a yw cymhwyster neu brentisiaeth o leiaf 51% yn benodol i'r diwydiant adeiladu, mae CITB yn ystyried cynnwys y cymhwyster neu'r brentisiaeth gyfan ac yn nodi canran y cynnwys sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau sy'n benodol i'r diwydiant adeiladu.  

Awgrymu cymhwyster neu brentisiaeth

A ydych wedi cofrestru ar gyfer CITB Ar-lein?

Drwy gofrestru ar gyfer CITB Ar-lein, gallwch wneud y canlynol:

  • gweld eich datganiad grant
  • gwneud cais am adroddiad grant
  • awdurdodi ceisiadau am grantiau

Cyfrif gennych eisoes? Gallwch fewngofnodi nawr