Gallwch ail-drefnu neu ganslo prawf:
Ail-drefnu neu ganslo ar-lein
I ganslo neu aildrefnu prawf, mae angen i chi fewngofnodi i'r system archebu profion Pearson VUE. Bydd arnoch angen yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair a ddefnyddioch pan wnaethoch gofrestru i ddefnyddio'r system yn y lle cyntaf.
Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif i reoli eich archeb am brawf.
Aildrefnu'r prawf
Mae'n rhaid i chi aildrefnu eich prawf o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf:
- mae'n rhad ac am ddim i newid i ddyddiad prawf gwahanol ar-lein os gwnewch hynny o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf
- ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.
Canslo'r prawf
I ganslo eich prawf a chael ad-daliad llawn o'ch ffi prawf, mae angen i chi wneud hyn ar-lein o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf.
Ni fydd eich ffi prawf yn cael ei had-dalu os byddwch yn canslo'ch prawf lai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf.
Gwneir ad-daliadau:
- i'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
- drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.
Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf.
Aildrefnu neu ganslo dros y ffôn
I aildrefnu neu ganslo eich prawf, ffoniwch 0344 994 4488. Mae'r llinell ar agor 8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am i 12pm ar ddyddiau Sadwrn Mae'r llinell ar gau yn ystod Gwyliau Banc.
Aildrefnu'r prawf
- Os byddwch yn aildrefnu dros y ffôn o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf, codir tâl o £5 arnoch i newid y dyddiad.
- Ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.
Canslo'r prawf
- Os byddwch chi'n canslo dros y ffôn o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf, byddwch yn cael ad-daliad, llai ffi weinyddol o £10.
- Os byddwch yn canslo dros y ffôn llai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf, ni fyddwch yn cael unrhyw ad-daliad o'ch ffi prawf.
Gwneir ad-daliadau:
- i'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
- drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.
Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf (gweler aildrefnu'r prawf dros y ffôn uchod).
Mae manylion llawn y telerau ac amodau archebu ar gael i'w lawrlwytho (PDF, 181KB)