Facebook Pixel
Skip to content

Telerau ac amodau'r Cynllun Grantiau

Dyma delerau ac amodau'r Cynllun Grantiau.

Mae'r telerau ac amodau hyn mewn grym o 1 Ebrill 2020 (cyf: Telerau ac amodau'r Cynllun Grantiau, Fersiwn 1).

Amcan y Cynllun Grantiau yw sicrhau bod CITB yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn sgiliau presennol a chwrdd â'r galw am sgiliau yn y dyfodol. Mae'r grantiau wedi'u hariannu gan Lefi CITB, a nod CITB yw sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu (Diwydiant).

Mae galw mawr am grantiau ac, er mwyn cyflawni amcan y Cynllun Grantiau, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y canlynol:

  • Mae blwyddyn y Cynllun Grantiau'n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021 (Blwyddyn y Cynllun Grantiau).
  • Rhaid i bob cais am grant fod ar gyfer presenoldeb wrth wneud hyfforddiant a/neu ar gyfer gorffen yr hyfforddiant hwnnw yn ystod Blwyddyn y Cynllun Grantiau, a rhaid i'r cais gael ei gyflwyno’n unol â gofynion penodol y math o grant, sydd i'w gweld ar y dudalen hon.
  • Er mwyn i'r Cynllun Grantiau weithio'n effeithiol, rhaid i CITB ragweld yn gywir y Lefi y bydd yn debygol o'i gael yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Mae hyn er mwyn iddo allu bodloni gofynion hyfforddiant y Diwydiant. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng swm y Lefi a dalwyd gan y Diwydiant a swm y grantiau sydd ar gael yn ystod unrhyw flwyddyn Cynllun Grantiau. Am fod y swm hwn yn cael ei nodi bob blwyddyn, dim ond mewn perthynas â chyfanswm y Lefi a gafwyd gan y Diwydiant y bydd ceisiadau am grantiau'n cael eu hystyried.
  • Er mwyn gwneud a pharhau i wneud y gwaith rhagweld hwn, ni fydd CITB yn ymdrin ag unrhyw geisiadau am grantiau ar gyfer blynyddoedd cynharach, gan y bydd hyn yn debygol o arwain at fwlch yn y Lefi. Ni fydd ceisiadau am grantiau ar gyfer hyfforddiant a wnaed y tu allan i Flwyddyn y Cynllun Grantiau (ceisiadau ôl-weithredol) neu ar ôl y dyddiad cau perthnasol yn cael eu hystyried, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn llwyr CITB.
  • Er mai'r gyfradd a nodir yng ngofynion penodol y math o grant yw'r gyfradd y bydd CITB yn talu'r grant arni ar y sail bod y Senedd yn parhau i gymeradwyo'r cynigion ar gyfer y Lefi, ceidw CITB yr hawl i leihau'r gyfradd hon.
  • Nid bwriad y Cynllun Grantiau yw bod yn gynnig gan CITB, ac ni fydd chwaith yn arwain at unrhyw gytundeb ffurfiol neu'n rhan o unrhyw gytundeb ffurfiol.
  • Ar unrhyw adeg, caiff CITB adolygu telerau ac amodau'r Cynllun Grantiau a gofynion penodol pob math o grant yn gyfan gwbl neu'n rhannol heb rybudd. Bydd parhau i wneud ceisiadau am grantiau ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu gwneud yn golygu bod y newidiadau hyn wedi'u derbyn.
  • Mae penderfyniad CITB ynghylch materion sy'n ymwneud â dehongli'r Cynllun Grantiau yn derfynol.

Yn amodol ar y canlynol, mae gan gyflogwr yn y Diwydiant sydd wedi cofrestru â CITB (Cyflogwr) yr hawl i wneud cais am grant yn ystod Blwyddyn y Cynllun Grantiau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw Gyflogwr nad oes angen iddo dalu'r Lefi oherwydd yr eithriad rhag talu'r Lefi i fusnesau bach.

4.1 Cyflogwyr sydd newydd gofrestru

Caiff Cyflogwr sy'n cofrestru â CITB yn ystod Blwyddyn y Cynllun Grantiau wneud ceisiadau am grantiau prentisiaethau ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad y gwnaeth gofrestru ac unrhyw grantiau eraill o'r dyddiad cofrestru hwnnw ymlaen.

4.2 Cyflwyno Ffurflenni Lefi a thalu'r Lefi

Mae CITB yn gweithredu ar y sail Dim Lefi, Dim Grant, sy'n golygu, heb gyfyngiad, bod yn rhaid i Gyflogwr lenwi a chyflwyno Ffurflenni Lefi'n unol â'r dyddiadau a nodir a thalu, neu fod â Debyd Uniongyrchol yn ei le i dalu, unrhyw Lefi sy'n ddyledus cyn y bydd grant yn cael ei dalu. Bydd diffyg cydymffurfio'n arwain at atal y grant a/neu ei dynnu'n ôl.

Bydd Cyflogwr y mae ei gais am grant wedi bod yn llwyddiannus, sydd wedi talu ei Lefi ac sydd wedi llenwi a chyflwyno Ffurflen Lefi 2019 (ynghyd ag unrhyw Ffurflenni Lefi eraill sydd eu hangen) sy'n dod i law CITB cyn dechrau Blwyddyn y Cynllun Grantiau ar 1 Ebrill 2020 yn cael ei grant. Fel arall, bydd CITB yn atal talu'r grant nes bod y Ffurflen Lefi a nodir uchod wedi dod i law.

Yn gynnar yn ystod Blwyddyn y Cynllun Grantiau, bydd CITB yn anfon Ffurflen Lefi 2020 at y Cyflogwr. Rhaid i'r Cyflogwr ei llenwi a sicrhau ei bod yn dod i law CITB cyn 30 Mehefin 2020 er mwyn cael/parhau i gael ei grant. Eto, bydd methu â gwneud hyn yn arwain at atal unrhyw grant nes bod y Ffurflen Lefi wedi dod i law. Os na fydd Cyflogwr wedi cyflwyno Ffurflen Lefi 2020 erbyn 30 Tachwedd 2020, bydd pob grant ar gyfer Blwyddyn y Cynllun Grantiau yn cael ei dynnu'n ôl.

Gall Cyflogwr wneud cais am grant ar gyfer hyfforddiant sy'n cael ei wneud gan y canlynol:

  • ei gyflogeion uniongyrchol (gan gynnwys prentisiaid) ar y gyflogres
  • ei is-gontractwyr (sy'n derbyn cyflogau net a gros)

ar yr amod eu bod yn gweithio iddo adeg gwneud yr hyfforddiant ac nad ydynt wedi cael grant yn barod ar gyfer gwneud yr hyfforddiant hwnnw.

Caiff Cyflogwr awdurdodi darparwr hyfforddiant trydydd parti a/neu goleg sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer i wneud cais am grant ar ei ran. Pan fydd Cyflogwr yn gwneud hynny, y Cyflogwr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cais yn cael ei wneud yn unol â'r telerau ac amodau hyn ac ad-dalu grantiau a gafwyd yn anghywir oherwydd camgymeriad a wnaed gan y trydydd parti.

I wneud cais am grant, dylid mynd i wefan CITB. Dylid darllen gofynion penodol y math o grant cyn gwneud cais amdano, am fod cyfyngiadau'n gymwys i rai grantiau.

Mae grantiau ar gael ar gyfer:

  • prentisiaethau (presenoldeb a chyflawni)
  • cyrsiau hyfforddi (cyflawni)
  • cymwysterau (presenoldeb a chyflawni)

Dim ond hyfforddiant sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Diwydiant ac sydd wedi'i restru ar wefan CITB sy'n gymwys am grant. Mae cyrsiau iechyd a diogelwch a chyrsiau rheoli a goruchwylio sydd wedi'u teilwra'n benodol i'r Diwydiant wedi'u cymeradwyo, gan eu bod yn cyrraedd safonau y cytunwyd arnynt gan y Diwydiant, yn feysydd i'w blaenoriaethu wrth roi grantiau ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth hyfforddiant diwydiannol. Os nad yw CITB wedi rhestru cwrs, cymhwyster neu brentisiaeth ar ei wefan, gellir llenwi'r ffurflen berthnasol i'w (h)awgrymu.

Mae bod yn gymwys am grant prentisiaeth yn amodol ar gydymffurfio â phob cyfraith, statud, rheoliad a chod sy'n ymwneud â phrentisiaethau, yn ogystal â'r rheolau, y safonau, y manylebau a'r canllawiau presennol ar brentisiaethau sy'n gymwys yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.

7.1 Lloegr

Yn Lloegr, mae fframweithiau prentisiaethau (gan gynnwys fframweithiau prentisiaethau uwch) yn cael eu rheoli gan Fanyleb Safonau Prentisiaethau Lloegr  a rhaid iddynt gael eu cyflwyno'n unol â'r Rheolau Cyllido Prentisiaethau presennol .

Mae cynlluniau a dulliau o gyflwyno Safonau Prentisiaethau Lloegr (Trailblazers), yn ogystal â chanllawiau, i'w gweld ar wefan y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol .

7.2 Cymru

Yng Nghymru, mae fframweithiau prentisiaethau (gan gynnwys fframweithiau prentisiaethau uwch) yn cael eu rheoli gan Fanyleb Safonau Prentisiaethau Cymru .

7.3 Yr Alban

Yn yr Alban, mae fframweithiau prentisiaethau modern ac uwch yn cael eu rheoli gan y Canllawiau a'r Templed Cynnig a Scottish Apprenticeships .

Dim ond cyflogeion ar y gyflogres sy'n gymwys am grant prentisiaeth oherwydd natur hirdymor yr hyfforddiant ac i sicrhau patrwm cyflogaeth sefydlog drwy gydol yr hyfforddiant hwnnw.

Os bydd prentis yn newid Cyflogwr yn ystod ei brentisiaeth, bydd grantiau presenoldeb a chyflawni yn cael eu talu ar sail pro rata yn ôl cyfran yr hyfforddiant y mae wedi'i gwblhau gyda phob Cyflogwr.

Er mwyn osgoi amheuaeth, ceidw CITB yr hawl i gyfyngu ar y prentisiaethau y mae'n rhoi grantiau ar eu cyfer i'r rhai sydd, yn ei farn ef ac yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, o ansawdd briodol o ran cynnwys a hyd a lle bwriedir i'r prentis ddatblygu sgiliau newydd cadarn/pwysig.

Dylai unrhyw fodelau prentisiaethau y bwriedir iddynt fod yn gymwys am grant gan CITB ond sy'n gwyro oddi wrth y modelau prentisiaethau safonol yn y tair gwlad (lle mae'r holl hyfforddiant yn cael ei roi fel rhan o'r brentisiaeth tra bod y prentis mewn cyflogaeth barhaus) gael eu cyflwyno ymlaen llaw i CITB er mwyn iddo ystyried a ydynt yn gymwys am grant. Gall methu â gwneud hynny arwain at wrthod ceisiadau am grantiau.

Dim ond drwy cyfrif ar-lein y Cyflogwr  a/neu hysbysiad talu y bydd ceisiadau llwyddiannus am grantiau'n cael eu cadarnhau. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd unrhyw gadarnhad arall yn ddilys neu'n cael ei gydnabod gan CITB.

Bydd CITB yn talu grantiau'n unol â gofynion penodol y math o grant sydd i'w gweld ar ei wefan. Nid oes angen i CITB dalu grantiau'n syth.

Mae Lefi CITB a grantiau CITB yn ddau beth gwahanol. Mae system weithredu ariannol bresennol CITB yn gosod grantiau yn erbyn unrhyw Lefi sy'n ddyledus yn awtomatig. Pan fydd y system bresennol yn cael ei newid, ni fydd grantiau'n cael eu gosod yn erbyn y Lefi sy'n ddyledus, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae Shared Services Connect Limited wedi'i awdurdodi ar ran CITB i barhau i osod grantiau yn erbyn y Lefi sy'n ddyledus tra bod system weithredu ariannol bresennol CITB yn dal i gael ei defnyddio, ond bydd yn rhoi'r gorau i wneud hynny pan fydd y system hon wedi'i newid.

Rhaid i bob Cyflogwr lenwi a chyflwyno Ffurflenni Lefi'n unol â'r dyddiadau a nodir a thalu, neu fod â Debyd Uniongyrchol yn ei le i dalu, unrhyw Lefi sy'n ddyledus cyn y bydd grant yn cael ei dalu.

Bydd grantiau ar gyfer hyfforddiant sy'n para mwy na 12 mis yn cael eu talu ar y cyfraddau a roddir ar gyfer pob blwyddyn Cynllun Grantiau, ac eithrio grantiau prentisiaethau lle na fydd y cyfraddau'n newid o'r cyfraddau a roddwyd ar gyfer y flwyddyn y dechreuodd y brentisiaeth ynddi.

Bydd y grant yn cael ei dalu i gyfrif banc y Cyflogwr drwy gredyd uniongyrchol BACS, ni waeth pwy a gyflwynodd y cais. Cyfrifoldeb y Cyflogwr yw rhoi gwybod i CITB am unrhyw newidiadau i fanylion ei gyfrif banc.

O dan amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, gostyngiad mewn incwm statudol o'r Lefi), caiff CITB, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, leihau taliadau grant a/neu gyfraddau grantiau yn gymesur neu eu tynnu'n ôl yn llwyr i gyd-fynd â'r arian sydd ar gael. Mewn achosion o'r fath, bydd CITB yn gwneud pob ymdrech resymol i roi gwybod i bob Cyflogwr am y newidiadau hyn.

Gall grant gael ei leihau, ei atal neu ei adennill os nad yw CITB wedi'i sicrhau bod hyfforddiant digonol wedi'i roi neu os nad yw unigolyn y gwnaed y cais am y grant ar ei gyfer wedi'i gyflogi gan y Cyflogwr y mae'r cais am y grant yn berthnasol iddo.

Rhaid i unrhyw grant a ordalwyd gan CITB gael ei ad-dalu ar gais.

Rhaid i bob Cyflogwr gadw a chynnal cofnodion llawn a chywir o geisiadau a wnaed am grantiau am dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddynt, gan gynnwys:

  • tystiolaeth ei fod wedi nodi'r angen am yr hyfforddiant, trefnu'r hyfforddiant a derbyn cost yr hyfforddiant a thystiolaeth o dalu am yr hyfforddiant (pan fydd hynny'n gymwys)
  • cofnodion cyflogres ar gyfer pob cyflogai, gan gynnwys Cyflwyniadau Taliadau Llawn, ffurflenni P60 a ffurflenni P11
  • cofnodion o dalu pob is-gontractiwr, gan gynnwys ffurflenni CIS300, ffurflenni misol contractiwr a gyflwynwyd ar-lein ac anfonebau perthnasol
  • tystiolaeth o hyfforddiant a wnaed neu sy'n cael ei wneud (er enghraifft, cofnodion o bresenoldeb a thystysgrifau cwblhau

Gall fod angen cyflwyno tystiolaeth bellach i ategu cais am rai mathau o grant. Dylai'r Cyflogwr ddarllen gofynion penodol y math o grant cyn cyflwyno cais.

Rhaid i'r Cyflogwr drefnu bod y cofnodion hyn ar gael i CITB, ei gynrychiolwyr a'i archwilwyr pan fydd angen mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn ac adran 6 Deddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982. Bydd unrhyw Gyflogwr nad yw'n gwneud hyn yn atebol i ddirwy yn dilyn collfarn ddiannod.

Ceidw CITB yr hawl i wrthod unrhyw gais am grant nad yw, yn ei farn ef, yn bodloni'r telerau ac amodau hyn neu ofynion penodol y math o grant neu nad yw'n cyd-fynd â swyddogaeth statudol neu elusennol CITB neu'n ei datblygu.

Mae modd apelio os bydd cais wedi'i wrthod. Bydd Tîm y Cynllun Grantiau yn ystyried yr apêl ac yn rhoi gwybod am y canlyniad o fewn 28 diwrnod.

Dim ond drwy lythyr neu e-bost y gellir apelio, a hynny drwy anfon tystiolaeth ategol i 

neu

Tîm y Cynllun Grantiau
CITB Blwch 30
D/O SSCL
Tŷ Phoenix
Casnewydd
NP10 8FZ