Rydym yn defnyddio grantiau a chyllid i helpu diwydiant adeiladu'r DU i gynnal yr hyfforddiant sydd arno ei angen i ddiwallu ei ofynion sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein hadnoddau nid yn unig yn cefnogi cyflogwyr â'u hanghenion sgiliau o ddydd i ddydd, gan eu helpu i ddatblygu eu pobl bresennol a pharatoi talent newydd i weithio. Maent hefyd ar gael i helpu'r diwydiant i ganfod atebion creadigol ac arloesol i heriau ehangach, tymor hwy.
Rydym yn anelu at ymateb yn gyflym i anghenion diwydiant sy'n datblygu ac rydym yn eu nodi trwy ein tystiolaeth a'n hymchwil. Mae hyn yn caniatáu i ni dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf a chael yr effaith gadarnhaol fwyaf parhaus ar draws y sector.
Gallwch chi roi eich adborth i ni ar unrhyw adeg cysylltwch â ni neu cysylltwch â'ch ymgynghorydd CITB lleol.