Beth mae'r Gronfa hon ar ei gyfer?
Mae'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant yn helpu busnesau bach a microfusnesau yn y diwydiant adeiladu i roi profiadau dysgu a datblygu o ansawdd uchel i'w cyflogeion. Mae'n eu hysgogi ymhellach i wneud hyfforddiant sy'n gymwys am grant gan CITB. O 2020, mae hefyd yn cefnogi amrywiaeth ehangach o weithgareddau, gyda mwy o bwyslais ar arloesi a hyfforddiant rheoli ac arwain. Cyfeiriwch at y canllawiau (PDF 253KB) i gael rhagor o wybodaeth.
Mewn ymateb i COVID-19, rydym wedi ehangu cwmpas y Gronfa i helpu i wneud busnesau'n gynaliadwy, yn ogystal â'u gwella. Mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud i'w gweld yn y canllawiau.
Pwy sy'n gallu gwneud cais am gyllid?
Gallwch wneud cais os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych yn gyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB.
- Mae gennych lai na 100 o gyflogeion uniongyrchol ar y gyflogres.
- Mae unrhyw brosiect blaenorol y talwyd amdano gan y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant wedi’i nodi fel un sydd wedi’i gwblhau.
Gallwch wneud cais am gyllid unwaith bob 12 mis.
Faint y gallwch wneud cais amdano?
Gall cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB wneud cais am gyllid. Mae'r hyn y gallant ei gael yn dibynnu ar nifer y cyflogeion uniongyrchol sydd ganddynt.
- Gall cyflogwyr sydd â rhwng un a 49 cyflogai uniongyrchol gael hyd at £5,000.
- Gall cyflogwyr sydd â rhwng 50 a 74 o gyflogeion uniongyrchol gael hyd at £7,500.
- Gall cyflogwyr sydd â rhwng 75 a 99 o gyflogeion uniongyrchol gael hyd at £10,000.
Cyn i chi wneud cais
Sicrhewch eich bod wedi darllen y dogfennau canlynol a'ch bod yn eu deall:
Canllawiau (PDF 253KB)
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen ar gyfer gwneud cais i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant (Excel 369KB).
I lenwi'r ffurflen a'i chyflwyno, dylech wneud y canlynol:
- Lawrlwytho'r ffurflen gais i'ch cyfrifiadur a'i chadw arno
- Llenwi pob maes a chadw'r ffurflen yn rheolaidd ar hyd y ffordd er mwyn osgoi colli data
- Cadw'r ffurflen ar ôl ei llenwi a'i hanfon i skills.training@citb.co.uk