Mae Cynllun Grantiau CITB yn darparu grantiau i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu hyfforddi eu gweithwyr.
Mae'r cynllun yn helpu i gynnal safonau iechyd a diogelwch ar safleoedd adeiladu ac i sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael i'r diwydiant dyfu.
Pwy all wneud cais am grant
Gallwch wneud cais am grantiau os ydych yn gyflogwr sydd wedi'i gofrestru â CITB a'ch bod yn anfon ffurflen Lefi wedi'i llenwi'n gywir i CITB erbyn 30 Tachwedd bob blwyddyn. Gall cyflogwyr bach nad oes angen iddynt dalu'r lefi wneud cais am grantiau hefyd.
Nid yw grantiau'n cael eu talu i gyflogeion unigol. Os ydych chi'n gyflogai, gallwch ofyn i'ch cyflogwr a ydynt wedi'u cofrestru â CITB fel y gallant gael grant ar gyfer eich hyfforddiant.
Sut mae grantiau'n gweithio
Bwriedir grantiau ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau a gwblheir yn ystod blwyddyn y Cynllun Grantiau (1 Ebrill eleni hyd at 31 Mawrth y flwyddyn nesaf).
Rydych yn gwneud cais am grantiau cwrs Byr a grantiau Cymwysterau ar ôl i'ch cyflogai orffen ei hyfforddiant neu ennill ei gymhwyster.
Mae grantiau ar gyfer prentisiaethau a chymwysterau cyfnod hwy yn gweithio ychydig yn wahanol: gallwch wneud cais am grant ar gyfer hyfforddiant eich dysgwr cyn gynted â bod ei hyfforddiant yn dechrau - nid oes angen i chi aros i'r brentisiaeth neu'r cymhwyster ddod i ben.
Egwyddorion y Cynllun Grantiau
Mae'r Cynllun yn dilyn yr egwyddorion hyn:
- Annog hyfforddiant sy'n ymwneud yn benodol â'r diwydiant adeiladu.
- Alinio i Orchymyn Cwmps CITB.
- Canolbwyntio grantiau i gefnogi cyflogwyr i hyfforddi eu gweithlu hyd at safonau a gytunwyd gan y diwydiant, fel bod y sgiliau a gyflawnir yn cael eu cydnabod yn gyffredinol ac yn gludadwy.
- Cefnogi'r holl gyflogwyr wedi'u cofrestru ar gyfer Lefi a'u gweithlu isgontractwyr llawn, gan gyflenwi sgiliau ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan.
- Defnyddio cyllid wedi'i dargedu i gefnogi blaenoriaethau'r diwydiant, a gwella'r gefnogaeth i'r ardaloedd lle mae'r angen mwyaf.
- Blaenoriaethu buddsoddi mewn meysydd lle mae ymrwymiad hirdymor ac elw ar fuddsoddi.
Sut i wneud cais am grant
Mae gan bob grant reolau sydd ychydig yn wahanol. Gallwch ganfod gwybodaeth am sut i wneud cais ar y tudalennau grant unigol.
Pryd fyddwch yn derbyn eich grant
Fel arfer byddwch yn derbyn arian eich grant o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno cais, os yw'n llwyddiannus. Telir grantiau trwy drosglwyddiad banc.
Os nad ydym yn dal eich manylion banc cyfredol, cwblhewch a chyflwyno Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol Bacs diogel ar-lein i dderbyn taliadau grant.
Cymorth a rhagor o wybodaeth
Os hoffech drafod eich opsiynau grant, cysylltwch â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0344 994 4455 neu e-bostiwch levy.grant@citb.co.uk.
Telerau ac amodau
Mae Telerau ac Amodau'r Cynllun Grantiau'n ateb rhagor o gwestiynau am bwy a gaiff neu na chaiff wneud cais. Cyn i chi wneud cais, cyn i chi ddarllen a deall y telerau a'r amodau.
Ydych chi wedi llofnodi ar gyfer gwasanaeth grantiau ar-lein CITB?
Trwy lofnodi ar gyfer gwasanaeth grantiau ar-lein CITB cewch wneud y canlynol:
- gweld eich datganiad grant
- gwneud cais am adroddiad grant
- awdurdodi hawliadau grant
Oes gennych gyfrif eisoes? Gallwch fewngofnodi nawr.