O dan Ddeddf Hyfforddi Diwydiannol 1982 a'r Gorchmynion Ardoll wedyn, mae'n rhaid i CITB godi asesiad ardoll ar bob cyflogwr yn y diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, gall y diwydiant adeiladu at ein dibenion ni fod yn wahanol iawn i'r hyn rydych yn ei ddychmygu. Cyflwynir gweithgareddau'r diwydiant adeiladu isod.
Rydych "ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â gweithgareddau yn y diwydiant adeiladu" pan yw gweithgareddau adeiladu yn cymryd mwy na hanner cyfanswm amser eich cyflogeion (gan gynnwys isgontractwyr). Os yw hynny'n wir mae angen i chi gofrestru'ch busnes gyda CITB and yn cwblhau Cofnod Ardoll blynyddol fel y gallwn ni gynnal asesiad ardoll.
Beth yw cyflogwr?
At ddibenion ardoll y diwydiant adeiladu, cyflogwr yw unigolyn neu gwmni ag un neu fwy o gyflogeion, gan gynnwys staff ar y gyflogres ac isgontractwyr.
Beth yw cyflogai?
Diffinnir "cyflogai" yn Neddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982 fel term sy'n cynnwys "person a gyflogir o dan gontract ar gyfer gwasanaethau". Mae hyn yn golygu, yn ogystal â chyflogeion uniongyrchol ar y gyflogres, a gyflogir o dan gontractau gwasanaeth, ei fod yn cynnwys isgontractwyr (boed yn unigolion, cwmnïau neu gwmnïau cyfyngedig) a gyflogir o dan gontractau ar gyfer gwasanaethau.
Beth yw gweithgaredd y diwydiant adeiladu?
Gallwch weld rhestr lawn o weithgareddau adeiladu yn Atodlen 1 paragraff 1 Gorchymyn Hyfforddiant Diwydiannol (Bwrdd Adeiladu) 1964 (Diwygio) Gorchymyn 1992 ("Gorchymyn Cwmpas"). Rhestrir eithriadau penodol ym mharagraff 2.
Mae'r gweithgareddau dilynol yn golygu gweithgareddau adeiladu at ddibenion Ardoll CITB. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.