Yn ffodus, rhoddodd amser yn y Peirianwyr Brenhinol gipolwg i Rob Cawley ar brosiectau peirianneg sifil, logisteg a'r math o set sgiliau sefydliadol sydd ar hyn o bryd mewn yn creu galw mawr yn y diwydiant adeiladu.
Y prosiect
"Nid yn unig fy mhrosiect diwydiant adeiladu cyntaf oedd e," meddai Rob, cydlynydd sgiliau prosiect â'r cwmni peirianneg sifil, Griffiths. "Hefyd dyma ein prosiect cyntaf erioed â'r statws Academi Cenedlaethol ar gyfer Sgiliau Adeiladu (NSAfC).
"Roedden ni'n ystyried bod hynny'n llwyddiant mawr ynddo'i hun, ond roedd yn golygu mwy hefyd. Hefyd dyma'r NSAfC cyntaf yng Nghanolbarth Cymru a'r cyntaf erioed i CITB am brosiect o dan £100 miliwn."
Y gwaith oedd adeiladu ffordd osgoi 6.5km o amgylch y Drenewydd ym Mhowys, tra'n uwchsgilio staff presennol, hyfforddi a recriwtio pobl leol, a datblygu cadwyn gyflenwi leol.
Nod arall oedd hyrwyddo peirianneg sifil ac adeiladu i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Ddim yn rhywbeth hawdd.
Rhoi cychwyn ar y gwaith
Yn ddiofn, aeth Rob ati'n gyflym i ymchwilio ei rôl. "Fe wnes i ddefnyddio fy holl gysylltiadau i ddeall beth oedd rhaid ei wneud. Siaredes i â chydlynwyr sgiliau prosiect eraill, ymweles i â safleoedd adeiladu eraill, fe wnes i ffurfio perthnasoedd â busnesau lleol, colegau, sefydliadau gyrfaoedd a darparwyr hyfforddiant.
"Fe wnes i astudio'n fanwl y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs), gan roi cynllun ar waith i'w cyflawni.
"Yn gyflym fe wnaethon ni ddatblygu partneriaethau effeithiol fel y gallen ni gael hyfforddiant a chymorth recriwtio oedd arnom ei angen a'i gynnig mewn ffyrdd arloesol.
"Yn fuan, roedd gennym y prentisiaethau, profiad gwaith, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau gyrfaoedd ac ati ar waith."
Ond roedd lleoliad anghysbell y prosiect yn heriol. "Roedd hi'n anodd iawn i rai o'n pobl ar leoliadau gwaith fynd gyrraedd y safle oherwydd ei leoliad gwledig a diffyg cysylltiadau cludiant," meddai Rob.
Creu llwyddiant
Er hynny, fe wnaethon nhw ragori ar 13 o 14 o'u targedau KPI. "Roedd gennym fwy na 50 o leoliadau gwaith, roedden ni'n cefnogi 20 o brentisiaethau ac yn creu mwy na 30 o swyddi newydd," medd Rob.
"Roedd busnesau lleol yn cyflenwi oddeutu traean o'n gweithlu, a rhoddon ni hyfforddiant ar y safle iddyn nhw i leihau costau teithio ac amser i ffwrdd.