"Byddech chi'n meddwl na fyddai llawer yn gyffredin rhwng y sector cyllid a gosodiad traffordd gall ar yr M1," meddai.
"Ond yn y banc fe wnes i ddatblygu digon o brofiad mewn hyfforddiant, chwilio am fylchau mewn sgiliau a dod o hyd i ddulliau o'u llenwi. A dyna oedd y gefndir berffaith ar gyfer y swydd hon. "
Y prosiect
Roedd y prosiect yn fenter ar y cyd rhwng BAM Nuttall a Morgan Sindall (yn gweithredu gyda'i gilydd fel bmJV) i wella seilwaith ar yr M1 a'r M62 ger Leeds. Mae gosod traffordd gall yn caniatáu i yrwyr ddefnyddio'r ysgwydd galed fel lôn redeg a mae'n defnyddio terfynau cyflymder amrywiol i reoli llif traffig ar adegau prysur.
Y broblem
Fodd bynnag, y drafferth oedd bod prinder sgiliau'n gwaethygu ac roedd hyn yn bygwth cyflenwi'r prosiect a chyflenwi prosiectau tebyg eraill ar draws y sector.
"Gallen ni weld yr effaith roedd y dirywiad economaidd yn ei chael," meddai Susan. "Roedd pobl yn gadael y diwydiant a doedd dim recriwtiaid newydd yn dod yn eu lle."
Yr ateb
Yr ateb oedd strategaeth ddwy flynedd i ddefnyddio model Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau'r Academi Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Adeiladu (NSAfC) fel llwyfan hyfforddi - un o'r cyntaf ar brosiect Highways England.
Y targedau
Tasg Susan oedd diwallu targedau (dangosyddion perfformiad allweddol neu KPI) a gytunwyd â CITB fel rhan o'r fframwaith NSAfC, gan gynnwys profiad gwaith, recriwtio graddedigion, prentisiaethau yn dechrau, a hyfforddiant arbenigol ar gyfer isgontractwyr.
Cydlynu sgiliau
"Roedd yr wythnos gyntaf yn ymwneud â dod i adnabod y rhanddeiliaid, rheolwyr prosiect, isgontractwyr a'r gadwyn gyflenwi," medd Susan. "Roedd cydweithiwr yn Llundain a oedd wedi'i wneud o'r blaen wedi siarad â fi drwy'r jargon ac wedi esbonio popeth i mi - roedd hynny'n werthfawr.
Tasg Susan oedd diwallu targedau (dangosyddion perfformiad allweddol neu KPI) a gytunwyd â CITB fel rhan o'r fframwaith NSAfC, gan gynnwys profiad gwaith, recriwtio graddedigion, prentisiaethau yn dechrau, a hyfforddiant arbenigol ar gyfer isgontractwyr.
"Datblygais raglen o ddigwyddiadau hyfforddi undydd ar gyfer goruchwylwyr is-gontractwyr, arweinwyr a rheolwyr. Roedd y cyrsiau'n cwmpasu popeth o reoli straen i gyfraith gyflogaeth i iechyd a diogelwch. Mae hyrwyddo arfer gorau ar y lefel uchaf yn ei helpu i hidlo i lawr i'r gweithlu ehangach."