"Fe gawson ni gychwyn gwych wrth gael ein hachrediad NSAfC yn ei le," medd Margaret Milton, Cydlynydd Buddion Cymunedol Canolbwynt y De Orllewin.
"Roedd ein Rheolwraig Datblygu Academi Sgiliau, Charlotte McDonnell, yn gweithio yn flaenorol i CITB ac roedd hi'n gwybod yn union sut i helpu busnesau lleol i reoli lleoliadau gwaith, rhaglenni prentisiaeth, cyfleoedd recriwtio a hyfforddi.
"Felly, pan ddaeth i'n prosiect cyntaf gan ddefnyddio'r ymagwedd seiliedig ar gleientiaid (CBA), sef Campws Cymunedol Garnock £36.6 miliwn yn North Ayrshire, roedden ni'n gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ardal leol.
O nerth i nerth
"Ar ôl Garnock, fe wnaethon ni gefnogi prentisiaethau, gweithdai a seminarau, cwblhau cymwysterau galwedigaethol, a chreu swyddi, ymhlith llawer o bethau eraill.
"Fe wnaethon ni redeg rhaglen gyflogadwyedd 4 wythnos, a oedd yn anelu'n arbennig at bobl ddi-waith hirdymor a oedd eisiau ailsgilio ym maes adeiladu. Roedd partneriaid cyflenwi'n cynnwys: Y Lluoedd Arfog, JCP, DWP, Coleg Ayrshire, y contractwr Haen1 a BBaChau
"Ers hynny rydyn ni wedi parhau i fwyafu ac optimeiddio ein cyfraniad tuag at adfywio a datblygu economaidd lleol â 28 o brosiectau CBA eraill."
Cael pobl at ei gilydd
"Fel y gallech chi ei ddisgwyl gan ganolbwynt, ein prif nod yw helpu i gysylltu pobl - gyda'i gilydd ac i ba gymorth bynnag sydd arnyn nhw ei angen," medd Margaret.
"Fel arfer, byddwn ni'n dechrau prosiectau â chymhorthfa ddydd cynghori ar y safle, lle gallwn ni wirio bod gan gontractwyr gynlluniau hyfforddi addas ar waith, a rhoi cyngor ynghylch ymgorffori unrhyw gyfleoedd hyfforddi, megis prentisiaethau.
"Mae'r contractwyr hefyd yn cwrdd â darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau cymorth eraill, gan gynnwys CITB, fel bod y gefnogaeth yno, lle bynnag y bydd arnyn nhw ei angen.
"Rydyn ni'n ymgysylltu ag ysgolion, colegau a chanolfannau gwaith lleol a byddwn ni'n eu cysylltu â'r contractwyr hefyd.
Rhaglenni a mentrau
"Ar ben hynny, rydyn ni'n trefnu amrywiaeth o raglenni a mentrau i gynnal y gwaith hwnnw. Mae rhai wedi'u teilwra i'r prosiect, megis gweithdai a chyfleoedd lleoliadau gwaith, tra rydyn ni'n gweithredu rhai eraill drwy'r amser i gyd-fynd.
"Mae ein rhaglen Adeiladu ar gyfer Twf, er enghraifft, yn dod â busnesau adeiladu lleol â'n prif gontractwyr at ei gilydd.