Roedd angen gwell ffordd i Gyngor Dosbarth Sedgemoor annog busnesau lleol i gyflogi pobl leol - ac roedd yr Academi Cenedlaethol ar gyfer Sgiliau Adeiladu yn berffaith i'r dasg.
Mae Cyngor Dosbarth Sedgemoor yng Ngwlad yr Haf am gael mwy o bobl leol i mewn i swyddi lleol. Pan yw busnesau'n gwneud ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiect adeiladu, mae'n sefydlu Cytundebau Llafur Lleol fel amod ar gyfer datblygu.
"Rwy'n helpu rheolwyr prosiect i gefnogi recriwtio a hyfforddi; ac yn mynd i ysgolion, colegau, canolfannau gwaith a'r lluoedd arfog i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a phosibiliadau gyrfaol yn y diwydiant adeiladu.
"Rwyf hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â CITB i roi gwybod iddyn nhw am y cynnydd. Mae fy nghynghorydd CITB, Karen Blacklaw, wedi bod yn gefnogol iawn - syfrdanol, mewn gwirionedd. "
Adeiladu ar lwyddiant
"Fe wnaethon ni sefydlu canolfan gyflogaeth a sgiliau, o'r enw "Dan Adeiladu", er mwyn darparu sgiliau, cymhelliant ac ethig gwaith i bobl leol, sy'n mapio'n dda â'r CBA.
"Erbyn hyn rydyn ni wedi defnyddio'r CBA ar amrywiaeth eang o brosiectau: ffyrdd newydd, tai, siopau, gwestai, hyd yn oed canolfan arloesi.
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar 20 o brosiectau byw gwerth £79 miliwn ac mae gennym 21 o brosiectau eraill ar y gweill.
"Trwy ein prosiectau CBA, rydyn ni wedi creu mwy na 180 o brentisiaethau, newydd-ddyfodiaid neu swyddi i raddedigion, a hefyd mwy na 230 o gymwysterau neu ardystiadau a enillwyd gan gontractwyr, a mwy na 600 o wythnosau hyfforddi ar y safle.
"Y peth gorau oll yw'r effaith mae'n ei chael ar ein cymuned. Mae busnesau lleol yn ennill y buddsoddiad mewn sgiliau a'r cyflenwad gwell o dalent.
"Ac os yw pobl leol yn ddi-waith, heb eu cyflogi'n ddigonol neu eisoes wedi'u cyflogi, gallan nhw weld bod cyfleoedd mawr i hyfforddi, ailsgiliou neu uwchsgilio i gael y swyddi maen nhw'n eu dymuno."