Cynlluniwyd y cwrs rhyngweithiol un-diwrnod hwn ar gyfer Cyfarwyddwyr cwmni â'r nod o nodi goblygiadau dynol ac ariannol peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Trosolwg
Bydd y cwrs yn darapru crynodeb o sut i hyrwyddo diwylliant sefydliadol positif ar gyfer iechyd a diogelwch. Bydd ymarferion gweithdy drwy gydol y dydd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr drafod eu meddyliau ynghylch iechyd a diogelwch a'u cyfrifoldebau mewn fforwm agored.
Ar ddiwedd y cwrs bydd cynrychiolwyr yn gallu:
- nodi'r costau/goblygiadau moesol, economaidd a chyfreithiol o benderfyniadau a wneir yn yr ystafell fwrdd sy'n gwneud eu busnes yn atebol
- deall y pwysigrwydd o reolaeth strategol ar risgiau
- gwerthfawrogi'r canlyniadau o fethu â rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
- deall y pwysigrwydd o ddeiliaid dyletswydd cymwys yn cydweithredu, cyfathrebu a chydgysylltu iechyd a diogelwch trwy gydol yr holl brosiect
- nodi'r angen i benodi cymorth cymwys ar gyfer iechyd a diogelwch a chyfyngiadau'r fath benodiad
- nodi'r offer sylfaenol ar gyfer cyflwyno diwylliant rhagweithiol ar gyfer iechyd a diogelwch i'w sefydliad
Mae ardystiad ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I aros ag ardystiad yn y maes hwn, bydd angen ichi ailwneud y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.
Dysgwch ragor am gael cymeradwyaeth i gyflenwi'r cwrs hwne
Mae gwybodaeth bellach am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau'r Cynllun
Chwiliad lleoliad cwrs
Bydd ein hofferyn lleoli Cwrs yn eich helpu i ganfod y cwrs cywir ar yr amser cywir yn agos i chi
Gwiriwr Cerdyn Ar-lein
Mae'r Gwiriwr Cerdyn Ar-lein yn eich galluogi i chwilio a gweld manylion Cerdyn a Phrawf am unigolion ar gyfer aelodaethau a phrofion cynllun a roddir gan CITB [Construction Industry Training Board].
Chwilio am yr NCC [National Construction College]?
Mae tudalennau'r National Construction College [Coleg Cenedlaethol Adeiladu] (NCC) wedi symud i ran wahaol o'r wefan. Mynd at eu hafan.