Robert Williams MBE
Cadeirydd, WRW Construction Cyf.
Robert Williams MBE yw sylfaenydd a Chadeirydd y BBaCh o Gymru, WRW Construction Cyf. Sefydlodd Robert y cwmni 33 o flynyddoedd yn ôl, gan ddechrau'r busnes o'i gartref ym 1985. Yn gyn-ddarlithydd coleg mewn Methodoleg Adeiladu, yn flaenorol bu Robert yn eistedd ar nifer o fforymau a byrddau yn gysylltiedig â CITB a'r llywodraeth. Mae WRW Construction wedi chwarae rhan ganolog mewn nifer o brosiectau cymunedol ledled Cymru a de-Orllewin Lloegr, ac maent yn parhau i gefnogi prentisiaethau, ynghyd â gwella sgiliau gweithwyr adeiladu trwy ei Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Adeiladu (NSAfC). Dyfarnwyd ei MBE i Robert yn 2013 am wasanaethau i hyfforddiant a sgiliau yn y diwydiant adeiladu.
Perthynas gytundebol: Fel busnes a gofrestrir am ardoll, mae WRW yn cyrchu grantiau i hyfforddi ac uwchsgilio ei weithlu a chyflogi prentisiaid.
Mae WRW yn aelod o Gymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyf. (CCTAL) ac maent wedi bod yn rhan o gynllun rhannu prentisiaeth Cyfle ers 1965, gyda'r ddau ohonynt yn elwa o gymorth ariannol CITB. Mae WRW wedi derbyn statws Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu ar draws nifer o'i brosiectau, ac mae'n derbyn cyllid cysylltiedig gan CITB.
Mae WRW hefyd wedi derbyn cyllid i arwain prosiect a gomisiynwyd gan CITB ar ddysgu drwy brofiad mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid.