Y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi

Mae'r pwyllgor Cyllid Buddsoddi yn cynghori Bwrdd CITB ar weithredu strategaeth a pholisi Cyllid Buddsoddi CITB ac yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fod y cyllid buddsoddi yn cael ei weithredu'n effeithiol.

Yn arbennig, bydd y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi'n cynghori'r Bwrdd ar gyfeiriad y strategaeth yn y dyfodol, gan gynnwys diwygio'r Cynllun Grantiau trwy asesu'r effaith o benderfyniadau cyllido a thrwy achosion eithrio y gofynnir amdanynt gan y tîm rheoli gweithredol.

Aelodau cyfredol y Pwyllgor (ym mis Ebrill 2018) yw:

  • Karen Jones - Cadeirydd ac ymddiriedolwraig CITB

  • Maria Pilford - ymddiriedolwraig CITB

  • Julia Evans - Prif Swyddog Gweithredol BSRIA Cyfyngedig

  • Chris Jones - Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu gyda BAM Construct Cyf

  • Alison Lamplough - Pennaeth Hyfforddiant a Phrentisiaethau Gweithredol, Laing O'Rourke

  • Rupert Perkins - Cyfarwyddwr Contracts, John Perkins Construction Cyfyngedig.

Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym Mawrth, Gorffennaf, Medi a Thachwedd 2018.

Presenoldeb yng nghyfarfodydd Pwyllgor Cyllid Buddsoddi CITB 2018

 

Mawrth

Gorffennaf

Medi

Tachwedd

Karen Jones

X

 

 

 

Maria Pilfold

 

 

 

Julia Evans

 

 

 

Chris Jones

 

 

 

Alison Lamplough

 

 

 

Rupert Perkins

 

 

 

Crynodeb o drafodaethau'r pwyllgor

22 Tachwedd 2017

  1. Croesäwyd dau aelod newydd o'r pwyllgor, Alison Lamplough a Rupert Perkins, i'r cyfarfod.

  2. Derbyniodd y pwyllgor gynigion mewn perthynas ag opsiynau ariannu, ffenestri ariannu, cyflwyno a mynegi diddordeb ar gyfer ariannu hyblyg, comisiynu, ymgysylltu ag ariannu a rhestr o gomisiynau ffenestr 9.  Roedd nifer y ceisiadau am arian hyblyg a strwythuredig wedi gostwng, roedd y galw am arian Sgiliau a Hyfforddiant yn parhau i fod yn uchel ac roedd y meintiau am yr holl arian hyblyg a strwythuredig ar gyfer yr Alban a Chymru yn gwella. Cytunodd y pwyllgor ar y cynigion ar gyfer y canlynol: symleiddio opsiynau ariannu; tynnu ffenestri ariannu i ffwrdd; cyflwyno mynegiant o ddiddordeb am gyllid ymatebol; ymagwedd fwy heini tuag at ariannu; a newid o ran ymgysylltu - gan nodi arweinwyr mewn sefydliadau sy'n gweithio ar strategaeth ac arloesedd.  Roedd pecyn cymorth ar gael i gyfeirio ymgeiswyr at ymyriadau ariannu.

  3. Trafododd y pwyllgor ystyriaethau i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer 2018.  Tra bod y Cynllun Grantiau newydd yn cael ei ymgorffori, ni ragwelwyd newidiadau sylweddol i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant cyn Mawrth 2019.

  4. Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o gyfanswm cyllid cyflogwyr ar Grantiau, y Pecyn Trosglwyddo a Chyllid Seiliedig ar Raglen.  Parhaodd gwariant i ddilyn tuedd ar i fyny; roedd nifer y micro-gyflogwyr sy'n hawlio grant wedi gostwng ychydig yn 2017 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016; Nid oedd awtomeiddio hawliadau grant ar waith eto.  

12 Medi 2017

  1. Cyflwynwyd dogfennaeth Diwygio'r Cynllun Grantiau i'r pwyllgor gan nodi materion i'w trafod, sef: cyfraddau grant ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant tymor byr; ymagwedd haenog at gyfraddau hyfforddi tymor byr; cynnig ar gyfer cymorth tymor byr ad hoc; Hyfforddiant Cymorth Cyntaf a chynigion ar gyfer capio.  Cynigiodd y Cynllun Grantiau osod cap fesul cyflogwr fesul blwyddyn yn seiliedig ar faint gweithlu'r cyflogwyr x nifer uchaf o gyrsiau fesul gweithiwr mewn perthynas â Chyrsiau Hyd Byr.

  2. Cyflwynwyd y data ariannu ar gyfer 2017 hyd yn hyn, wedi'i rannu'n Grantiau, Pecyn Pontio a Chyllid Seiliedig ar Raglen i'r pwyllgor.  Roedd y Taliadau Pecyn Pontio cyntaf wedi'u gwneud ym mis Gorffennaf 2017. Roedd y sefyllfa gyffredinol mewn perthynas â Chyllid Cyflogwyr yn gadarnhaol.  Roedd y gyfradd lwyddiant ar gyfer Cyllid Hyblyg a Strwythuredig yn parhau'n isel. Roedd camau ar y gweill i newid yr ymagwedd gomisiynu, i weithio â sefydliadau a grwpiau yn gynnar a chynyddu marchnata.  Roedd monitro ceisiadau'n gwella. Roedd yr Alban wedi gwella o ran nifer y ceisiadau Sgiliau a Hyfforddiant.

6 Gorffennaf 2017

  1. Sefydlwyd Fforwm y Comisiwn ac fe wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2017.  Fe gafodd ei fynychu'n dda gan gyflogwyr a chynrychiolwyr Ffederasiynau.  Roedd papur yn cael ei baratoi ar gyfer Gweithrediaeth CITB i adolygu'r broses a strwythur arfaethedig ar gyfer comisiynu wrth symud ymlaen.  Yr amcan oedd i'r broses ddechrau i'w ddiwedd sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu'n llawn yn y broses.

  2. Sefydlwyd y Seilwaith Strwythuredig (Seilwaith Asesu) o ganlyniad i'r galw am asesiadau gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau.  Byddai'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau yn canolbwyntio ar sgiliau arbenigol a rhai sy'n dod i'r amlwg (ei phwrpas craidd) felly y cynllun oedd comisiynu cyflogwyr a ffederasiynau i sefydlu eu canolfannau asesu eu hunain.  Byddai'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau yn cefnogi'r ceisiadau llwyddiannus hynny yn y cyfnodau creu a sefydlu; byddai'r elw yn cael ei ddychwelyd i'r diwydiant trwy fuddsoddi yn ôl i'r canolfannau a'r aseswyr hyn. 

  3. Roedd y Cymhellion Datblygedig Hyblyg - (Seilwaith Aseswyr) yn barhad yn dilyn y prosiect a gomisiynwyd yn ffenestri 6 a 7 mewn perthynas ag aseswyr hyfforddiant ac NVQs.  Roedd y galwedigaethau hynny na chafodd eu cymryd yn y rownd gynharach honno yn cael eu codi yn y ffenestr bresennol.

  4. Roedd gan y prosiect Ymgysylltiad Addysgol Strwythuredig (Addysg Uwch) ddwy elfen ar wahân: (1) Gwella profiad y myfyriwr, a gymerwyd o safbwynt myfyriwr.  Yr amcan oedd i'r comisiwn hwn ddarparu adnoddau i addysg uwch megis astudiaethau achos bywyd go iawn i ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn wybyddus i mewn i'r diwydiant adeiladu.  Trwy'r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion ac ymagwedd gyson, bydd adnoddau'n cael eu datblygu i'w defnyddio gan sefydliadau addysg uwch; (2) Ymyrraeth i addysg uwch o safbwynt y cyflogwr.  Y nod yw sicrhau bod gan yr athrawon addysg uwch y sgiliau cywir (e.e. trwy hyfforddi'r hyfforddwr) ac adnoddau i ddarparu cyfleoedd adeiladu.  Fe wnaeth ymchwil nodi'n glir y prinder sgiliau rheoli/proffesiynol/peirianneg felly roedd yn bwysig bod darparwyr hyfforddiant yn ymwybodol o'r technolegau presennol sydd ar gael ynghyd ag astudiaethau achos i hyrwyddo'r meysydd penodol hyn. 

  5. Cyhoeddwyd y prosiect comisiynu Ymgysylltiad Addysgol Strwythuredig (Cwricwlwm Cyd-destunol) ym Mai 2016 ac roedd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru. Nid oedd yr ymatebion mor gryf yn Lloegr a'r Alban. Roedd CITB yn awyddus i ail-redeg yr ymgysylltiad â chyflogwyr gan fod arwyddion y byddai galw digonol.

  6. Cafodd y comisiynu Arloesedd Hyblyg (Cynhyrchiant) ei ddiweddaru i'r pwyllgor.  Roedd CITB wedi cynnal gweithdy â ffederasiynau a chyflogwyr posibl sy'n dymuno gwneud cais i helpu yn eu dealltwriaeth a sicrhau eu bod yn glir ynghylch sut y gallent gyflawni eu nodau.  Byddai'r ffenestr yn agor ym mis Gorffennaf 2017 ac yn cau ym mis Medi 2017.  Roedd ail weithdy wedi'i gynllunio. 

  7. Roedd calendr comisiynu tymor hir wedi'i gylchredeg (mewn drafft) a fyddai'n cael ei gwblhau yn fuan a'i rannu yn y Fforwm Comisiynu ac ar y wefan CITB.  Byddai hyn yn helpu sefydliadau â chynllunio yn y dyfodol ac yn dangos bod CITB yn gwrando ar eu hadborth. 

16 Mai 2017

  1. Cadarnhawyd i'r pwyllgor fod cyfanswm o 96 o brosiectau cronfa hyblyg a strwythuredig.  Hysbyswyd y pwyllgor fod CITB yn gweithio'n rhagweithiol â ffederasiynau i gynyddu ymgysylltiad.  Awgrymoddodd 'Hawliad Ardolladwy Mewn Cwmpas v Grant Heb ei Hawlio' fod ychydig dros 50% yn hawlio grant.  Nodwyd nad oedd rhai cwmnïau yn hyfforddi, ar gyfer rhai roedd yn ormod o ymdrech ac nid oedd eraill, yn arbennig y v bach a micro-gwmnïau, yn ymwybodol o'r hyn oedd ar gael.  Roedd angen gyrrwr i hyrwyddo pa arian oedd ar gael.

  2. Cyflwynwyd y farn ddiweddaraf ar yr ardoll a'r tirlun ariannu a cheisiwyd barnau ar ei argymhellion.  Roedd rhagolygon costau'r Pecyn Pontio wedi'u cynyddu i adlewyrchu data o'r asesiadau ardoll a'i nod oedd galluogi cwmnïau i gynnal gwariant ar hyfforddiant.  Trafododd y pwyllgor dynnu'r Grant Atodol i ffwrdd; a gafodd ei fanylu yn nigwyddiadau consensws CITB.  Cytunodd y pwyllgor â chael gwared â'r Grant Atodol ac eithrio prentisiaethau, gan fod llawer o gwmnïau eisoes wedi cyllidebu ar gyfer oes prentis yn dechrau ym mis Medi 2017.  Roedd awtomatiaeth taliadau grant a chyflwyno Cyfeirlyfr Hyfforddiant wedi'u derbyn yn dda.  Y meysydd pryder a oedd yn codi oedd: cyflwyno'r Cyfeiriadur Hyfforddiant/Cofrestr Gymhwysedd; angen mwy o fanylion ar weithrediadau'r broses achredu a'r effaith mewn perthynas â hyfforddiant mewnol; roedd y Cynllun Grantiau presennol yn gweithio'n dda ac nid oedd angen iddo newid; mater tegwch, yr ardoll a delir ar bob cyflogai ond grant ar gael i gefnogi hyfforddiant ar gyfer sgiliau adeiladu craidd yn unig.   Cytunodd y pwyllgor fod polisi cyfathrebu clir yn hollbwysig.  Dylai'r Cynllun Grantiau fynd i'r afael â meysydd anghenion sgiliau yn y diwydiant; efallai y bydd meysydd lle gallai cyflogwyr arddangos gofynion adeiladu penodol.  Hysbyswyd y pwyllgor o'r angen i weithredu rheolaethau ar gyllid grant â'r Cynllun Grantiau newydd.  Cynigiwyd cynnal y rheolaeth bresennol lle na all cyflogwr (ac eithrio ar gyfer prentisiaeth) hawlio grant o fewn y flwyddyn gyntaf o gofrestru.  Cytunodd y pwyllgor â'r cynnig hwn a'r rheolaethau eraill a gynigiwyd. Cytunodd y pwyllgor â'r bwriad i symud tuag at raniad o arian a ddyrennir ag 80% i Weithgaredd Comisiynu gan adael 20% i gefnogi mentrau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y gorwel cynllunio ac yn cyd-fynd ag amcanion CITB.  Roedd y pwyllgor yn dymuno i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant barhau i fod ar gael am 12 mis arall, a phryd hynny byddai'n cael ei adolygu.

  3. Roedd nifer o amcanion wedi'u gosod ar gyfer y Cyfeiriadur Hyfforddiant, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hyfforddiant ariannu CITB yn unig a oedd yn bodloni blaenoriaethau a gytunwyd gan y diwydiant; a gyflwynid hyd at safonau a lefel ansawdd y cytunwyd arnynt ac a oedd yn drosglwyddadwy rhwng cyflogwyr; roedd cynnyrch o ansawdd cyson rhwng darparwyr hyfforddiant; roedd gan gyflogwyr welededd o'r hyfforddiant a gwblhawyd gan eu gweithlu.  Byddai'r cyfeiriadur yn cwmpasu sbectrwm eang yn amrywio o hyfforddiant mewnol i ddarparwyr hyfforddiant â chyrsiau heb eu hachredu; cyrsiau a gymeradwyir gan ffederasiwn; cyrsiau heb eu harchwilio gan y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC); cyrsiau wedi'u hachredu gan gorff ardystio i gymhwyster (rheoliadau wedi'u cynnal a'u gosod gan Qfqual, Scottish Qualifications Authority neu Gymwysterau Cymru).  Darparwyd manylion o'r llwybrau arfaethedig wrth osod safonau, sef bod CITB yn cipio'r angen am safonau; Cytunodd CITB â'r diwydiant ar y safonau i'w datblygu'r; gweithiodd CITB â diwydiant a sefydliadau dyfarnu i ddatblygu safonau, cynnwys ac argaeledd grantiau; dilyswyd safonau â diwydiant; meysydd llafur hyfforddi wedi'u halinio â safonau a lefel cyrhaeddiad â sefydliadau; cyhoeddodd CITB safonau, meysydd llafur ac alinio i gymwysterau ar y cyfeirlyfr.

31 Mawrth 2017

  1. Trafodwyd a oedd y ddwy thema gomisiynu a gynigiwyd ar gyfer ffenestr ariannu Mai 2017 yn briodol ar gyfer mabwysiadu'r ymagwedd gomisiynu.  Cytunodd y pwyllgor y dylai'r ffocws o fewn y comisiwn ar gyfer cynhyrchiant, o ran cyfathrebu a chynnwys, fod ar hyrwyddo ymagweddau da.  Dylai'r comisiwn bwysleisio mynediad at hyfforddiant a fyddai'n gweithio. Byddai'r comisiwn yn rhedeg dros ddwy ffenestr.  Y cam cyntaf fyddai cwmpasu ystod o brosiectau i ganfod sut i fesur cynhyrchiant a hyfforddiant priodol mewn perthynas â meysydd trafferthus hysbys.  Byddai cam dau yn edrych ar ganlyniadau a datblygu hyfforddiant a mwy o waith.  Argymhellodd y pwyllgor y dylid cynnal adolygiad o'r ymchwil sy'n bodoli eisoes ynghyd â phrosiectau a gynhaliwyd â chymorth CITB, gan gasglu gwersi a ddysgwyd er mwyn llywio comisiynau'r dyfodol yn ymwneud â chynhyrchiant.  Cytunodd y pwyllgor fod y ffocws ar gynhyrchiant wedi'i gyflwyno'n dda ac y dylid ei symud ymlaen, â phwyslais ar Effeithlonrwydd a Diffygion. 

  2. Roedd Newidwyr Gyrfa yn perthyn i ddau faes: y rhai hynny a oedd â sgiliau adeiladu trwy sectorau eraill ac y byddai gofynion uwchsgilio ar eu cyfer; a'r rhai hynny â sgiliau y gellid eu trosglwyddo i'r diwydiant adeiladu o sector arall.  Rhagwelwyd y gofynnid i'r ceisiadau o dan y comisiwn greu dewis o lwybrau clir ag ymagwedd gynaliadwy. Roedd setiau sgiliau megis rheoli prosiectau yn berthnasol ac yn gofyn am hyfforddiant cyd-destunol ar gyfer trosglwyddo a gweithredu ond byddai'n her fawr i'r diwydiant eu derbyn a'u mabwysiadu.  Roedd y ddau bwnc ar gyfer comisiynu yn briodol a chynigiwyd cyfarwyddyd ar ymagweddau i'w cymryd ynghylch eu datblygu.

  3. Cytunodd y pwyllgor fod y strwythur comisiynu yn briodol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy ac roedd eu cyfranogiad wedi bod yn amserol.  O gofio y byddai'n rhaglen dreigl o waith dros y ddwy flynedd nesaf ac y byddai lefelau uchel o gynllunio ac ymchwil yn ofynnol i lywio'r hyn y dylid ei gomisiynu am y gorau, byddai'r pwyllgor yn croesawu'r ymgysylltu hwn ond ag adolygiad o adborth/sylwadau ar y broses wedi'i datblygu.  Roedd yn berthnasol datblygu pynciau i'w hystyried ar gyfer comisiynu posibl ac i gynnwys y pwyllgor er mwyn llywio penderfyniadau yn well er budd y diwydiant.

21 Chwefror 2017

  1. Rhoddwyd diweddariad o'r Cynigion Cynllun Grantiau.  Cytunwyd ar brifsymiau y Cynllun Grantiau yng nghyfarfod olaf Grŵp Llywio'r Adolygiad Cyllid Buddsoddi.  Byddai'r ffocws ar rannu'r cynnig hwn ar draws y diwydiant.  Roedd systemau'n cael eu datblygu i integreiddio hyfforddiant yn y safonau.  Yna byddai'r rheolau ynghylch sut y byddai pob cynllun yn gweithio, i yrru cyfraddau cyllido a dyrannu, yn cael eu creu.  Y bwriad oedd cael rhan fwyaf o'r Cynllun Grantiau newydd ar waith erbyn Ebrill 2018, a rhoddid blaenoriaeth i'r meysydd a ddefnyddir yn drwm. Byddai'r grant, ardoll a'r flwyddyn ariannol CITB yn cael eu halinio, i gyd yn dechrau ar 1 Ebrill 2018.  Hysbyswyd y pwyllgor o feysydd gwaith eraill gan gynnwys cyfraddau ariannu, prentisiaethau arbenigol, y cyfle i gael profiad gwaith a'r defnydd o Daliadau Grant Cynnar (EGO), trefniant lle talwyd ardoll ar unwaith a rhyddhawyd taliadau grant yn gynharach.  Roedd mater y diffiniad o sefydliadau 'Mewn Cwmpas' yn dal i fod yn broblem oherwydd codid ardoll ar bob cyflogai, ond dim ond cyfran o'r grant y gellid ei hawlio yn ôl mewn grant, yn aml nid yw cyflogeion gwerthu/cymorth yn cael eu cynnwys.  

  2. Cynhelid ymgynghori â ffederasiynau er mwyn sefydlu sut y byddent yn ymgysylltu â'u pwyllgorau ac yn sicrhau y ceid barnau eu pwyllgorau ynglŷn â chonsensws a chyllid.

  3. Cyflwynwyd crynodeb o'r cyllid hyblyg/strwythuredig a'r Cynllun Grantiau.  Eglurwyd bod unrhyw Eiddo Deallusol sy'n deillio o'r gweithgareddau hyn yn perthyn i CITB a allai gynnig yr hysbysrwydd/wybodaeth hon i gymuned ehangach trwy gronfa ddata chwiliadwy arfaethedig. Y cysyniad oedd ehangu'r llwyfan hwn er mwyn caniatáu i sefydliadau amlygu eu syniadau cychwynnol cyn cyflwyno cais i chwilio am bartneriaid i gydweithio â nhw.  Bu cryn dwf yn y maes Sgiliau a Hyfforddiant, a oedd wedi targedu sefydliadau bach a micro, gan gynnwys y rhai hynny a nodwyd fel rhai anodd eu cyrraedd.  Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried ehangu'r gronfa hon a chyflogwyr â hyd at 1,000 o weithwyr.  Cytunodd y pwyllgor, ac eithrio bod angen dull o flaenoriaethu ymgeiswyr.  Byddai'r Tîm Gwirio yn samplu'r rhaglenni a chynnal manylion cyfraddau methiant ymysg ystadegau eraill.  Byddai cyllid pellach yn cael ei wneud mewn dau randaliad.  Rhagwelwyd y byddai mwy o ymgeiswyr yn symud ymlaen trwy'r Cynllun Grantiau yn hytrach na'r gronfa hon. Roedd ymgeiswyr yr Alban a Chymru yn parhau i gynyddu.  Derbyniodd Llundain Fawr 60% o'r cyllid cenedlaethol, ond cydnabuwyd y gallai hyn fod wedi'i ystumio oherwydd bod gan nifer o sefydliadau brif swyddfa yn Llundain a gallai'r cyllid fod yn cefnogi cyflogeion yn y rhanbarthau. 

  4. Cyflwynwyd y gweithgareddau arfaethedig i'r pwyllgor ar gyfer 2017, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddau faes, Cyllid Comisiynu a Chyllid Targedu.  Cymeradwywyd y Dadansoddiad Rhanbarthol ar adroddiadau LFT LEP.  Roedd y pwyllgor o'r farn bod angen i'r ffenestri cynnig fod yn agored am fwy o amser na'r hyn a gynigiwyd, yn arbennig y bydd y ffenestr gynhyrchiant yn parhau'n agored tan fis Medi, OSAT tan fis Hydref a bydd Dadansoddiad Rhanbarthol yn agored ym mis Medi/Hydref.  Bydd ffenestri ariannu'n cael eu diwygio er mwyn adlewyrchu'r cyfnodau a nodwyd.  Cymeradwyodd y pwyllgor y tri maes a nodwyd ar gyfer Cyllid Targedu: 1) Cyllid Sgiliau a Hyfforddiant; 2) Ardoll Targedu Prentisiaeth sy'n talu cyflogwyr Mewn Cwmpas; a 3) cyfleoedd i Ffederasiynau gael cyllid.  Trafododd y pwyllgor y cyfleoedd ariannu ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn rhai adeiladu.  Cytunwyd y gallai goblygiadau ariannu prentisiaethau mewn cyd-destun ehangach fod yn bosibilrwydd ond byddai angen eglurder ynghylch yr hyn y gellid ei ariannu ac na ellid ei ariannu a phwy allai hawlio.  Roedd angen ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y llinellau hyfforddiant yn cael eu huchafu, fodd bynnag ni ddylid dyfarnu cyllid yn eglur os na fodlonwyd y meini prawf.

  5. Yn 2016 roedd nifer uchel o geisiadau wedi'u gwrthod dan Gyllid ar gyfer Ymgysylltu ag Addysg, yn bennaf oherwydd lefelau isel o gydweithredu yn y diwydiant a methiant i gyfrif am weithgareddau pan y'i dyfernir.  Felly, cynigiwyd gweithredu symudiad tuag at gomisiynu yn 2017, gan ddarparu prifsymiau a chanlyniadau clir o'r cychwyn cyntaf ac ymestyn y cyfle cydweithredu i gynnwys sefydliadau elusennol i gynorthwyo wrth ddarparu atebion.  Gofynnodd y pwyllgor y dylid ymchwilio ymhellach i adolygiad o gyfleoedd profiad gwaith cenedlaethol a chyllid.

24 Ionawr 2017

  1. Byddai ymgynghori ar y cynnig Ardoll yn cychwyn, ynghyd ag ymgysylltu ar gynnig CITB yn y dyfodol a'r Cynllun Grantiau.  Â'r Opsiwn Ardoll wedi'i benderfynu, byddai ymgysylltu ac ymgynghori yn canolbwyntio ar a oedd y cynnig a'r Cynllun Grantiau diwygiedig yn darparu gwerth am arian ar gyfer yr ardoll.  Awgrymodd y pwyllgor y dylai'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a gefnogir gan yr ardoll CITB a'r Ardoll Brentisiaeth gael ei wneud yn gliriach.  

  2. Cytunwyd bod angen i CITB ddarparu diffiniad clir o'r hyn a olygir gan weithgareddau mewn cwmpas. Er y gellid cyrchu sgiliau trosglwyddadwy generig megis Rheolaeth ac Arweinyddiaeth o fewn llwybrau hyfforddi, byddai angen i feysydd megis gwerthu a marchnata ddangos eu bod yn benodol i adeiladu. 

  3. Trafodwyd sut y byddai meysydd eraill sy'n cyd-fynd ag amcanion CITB, megis y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Women in Construction and Construction Youth Trust, yn cael eu hariannu.  Awgrymodd y pwyllgor fod CITB yn ymchwilio ymagwedd gomisiynu/tendro â ffocws ar yr hyn yr oedd am ei gyflawni ac yn gwahodd ceisiadau gan y rhai hynny a hoffai gyflenwi.  

  4. Cafwyd adborth cadarnhaol ynghylch y bwriad i gefnogi cyflogwyr i hyfforddi ar draws eu cadwyn gyflenwi.  Cytunwyd bod prentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol yn flaenoriaethau ar gyfer ariannu.  Byddai ymchwil CITB yn gallu adnabod sgiliau cyfredol y diwydiant, yr hyn a oedd ar y gweill a pha sgiliau newydd fyddai'n ofynnol.  Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i gytuno ar flaenoriaethau a chyllid â'r diwydiant. 

  5. Byddai cael mynediad at wybodaeth ar sgiliau, trwy'r Gofrestr Hyfforddiant Cenedlaethol, yn helpu i nodi bylchau mewn sgiliau ac felly'n arwain at ymagwedd fwy strategol o ran cynllunio a chyllido.  Byddai llwybrau hyfforddi yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, a byddai'n rhoi gwybodaeth i gyflogwr ar sgiliau gweithiwr ac felly eu hanghenion hyfforddi.  Cytunwyd ar yr prifsymiau dylunio.  Roedd adolygiad yn cael ei gynnal gan edrych ar sut y darperir cyllid i'r hyn a enwir Rhaglenni Prentisiaeth Arbenigol ar hyn o bryd. Ar y bryd, roedd prosiect ar waith i adolygu cyllid Rhaglen Brentisiaeth Arbenigol ag amcan i ddod â thryloywder i'r modd yr ariennir yr hyfforddiant.  Y nod oedd alinio cyllid â'r cynigion Moderneiddio Grantiau.  Pan oedd hyfforddiant yn cael ei gwmpasu gan lwybr hyfforddi, byddai cyllid yn cyd-fynd â'r Cynllun Grantiau, gan gyfrif am gydrannau hyfforddi arbenigol.  Roedd yr arian cyfredol yn cynnwys taliad ymlaen llaw i gyflogwyr er mwyn cefnogi darpariaeth.  Nid oedd y grant hwn yn cyd-fynd â phrifsymiau newydd y Cynllun Grantiau.  Cynigiwyd mai ffordd arall o gefnogi darpariaeth arbenigol oedd i CITB weithio'n uniongyrchol gyda darparwyr arbenigol i gaffael darpariaeth.  Dywedwyd bod y gyfradd NVQ wedi'i chodi ar gyfer NVQau y tu allan i brentisiaethau.  Roedd gwaith yn cael ei wneud i gael dealltwriaeth gliriach o faint o ddiwrnodau oedd dysgwyr oddi ar y safle.

  6. Trafododd y pwyllgor y tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer cyllid prentisiaeth ac opsiynau.  Roedd angen gwneud gwaith pellach i ystyried effaith newid mewn meintiau ond rhagwelwyd y byddai hyn yn fach iawn.