Coronavirus notice - Check for latest on CITB’s position
Mae gan Cynghorau'r Gwledydd rôl allweddol i helpu i lunio dyfodol adeiladu ledled Prydain Fawr a rhoi cyngor strategol i'r Bwrdd i ddiwallu anghenion sgiliau'r diwydiant yn well.
Mae pob un o Gynghorau'r Gwledydd yn gyfrifol am wella'r sylfaen dystiolaeth o ble mae CITB yn llunio a datblygu ei Gynllun Strategol, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwybod am faterion, cysyniadau a chyfleoedd allweddol y diwydiant sy'n effeithio ar y Genedl unigol a'r Cenhedloedd ar y cyd. O'r sylfaen dystiolaeth gasgliadol hon, bydd CITB yn adlewyrchu a blaenoriaethu'r materion, fel sy'n briodol, wrth lunio a gweithredu'r Cynllun ar gyfer cyflwyno Gyrfaoedd, Safonau a Chymwysterau a Hyfforddiant a Datblygu ledled y tair Cenedl.
Bydd canllawiau'r Llywodraeth, mandadau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn llywio ac arwain gwaith Cynghorau'r Gwledydd.
Gan gyfeirio'n benodol at y Genedl unigol, bydd y Cyngor yn:
Darparu cipolwg ar yr heriau a chyfleoedd i'r Genedl mae'n ei chynrychioli
Llywio a dylanwadu ar y Bwrdd ar ddatblygu a chyflwyno'r Cynllun Strategol yn effeithiol gan annog addasiadau i'r ddarpariaeth er mwyn adlewyrchu digwyddiadau/newidiadau nas rhagwelwyd sy'n effeithio ar y Genedl/diwydiant yn fwy cyffredinol
Dadlau a chynnig her adeiladol mewn perthynas â'r cynllun arfaethedig o ddyrannu adnoddau yn ôl blaenoriaethau'r diwydiant sy'n cystadlu ledled Prydain Fawr
Darparu persbectif cenedlaethol ar fylchau sgiliau adeiladu yn ôl anghenion rhagolwg cytunedig.
Cadeirydd, Tony Elliott, Cyfarwyddwr AD y Grŵp, Robertson Group
Zeshan Afzal – Rheolwr Safle, BAM Construction UK
Nicola Barclay – Prif Weithredwr, Homes for Scotland
Mark Bramley – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Pat Munro (Alness) Cyf
Craig Bruce – Cyd-reolwr Gyfarwyddwr, Pert Bruce Construction Cyf
Marion Forbes, Cyfarwyddwr, Mactaggart and Mickel Homes Cyf
Richard Steedman – Rheolwr Gyfarwyddwr, Cameron Drywall Contractors Cyf
Jim Young – Cyfarwyddwr Adeiladu, Chap Group (Aberdeen) Cyf
Penodiad i'w wneud.
Cadeirydd, Leigh Hughes, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Gwerth Cymdeithasol, Bouygues Cyf
Robert Williams - Chairman, WRW and CITB Trustee
Terry Edwards - Managing Director, John Weaver Contractors
Gareth Davies, Cyfarwyddwr Adeiladu, Knox & Wells Cyf
Nick Evans - Managing Director, EvaBuild Ltd
Andrea Green – Cyfarwyddwr Profiad Cwsmer, Costain Cyf
Simon Jehu – Rheolwr Gyfarwyddwr Datblygu, Jehu Group Cyfyngedig
Owain Jones – Cyfarwyddwr y Cwmni, T Richard Jones (Betws) Cyf
Richard Owen, Rheolwr Hyfforddi a'r Gweithlu, Jones Bros
Neal Stephens – Rheolwr Gyfarwyddwr Adeiladu De Cymru, Willmott Dixon
Paul Tedder – Cyfarwyddwr a chyd-berchennog, Atlantic Dwellings Cyf
About CITB Apprenticeships - CITB
http://citb-uat2.stimulize.co.uk/courses-and-qualifications/take-on-an-apprentice/about-apprenticeships/#
Thank you, your email has been sent