Cronfa Cyflogwyr Mawr
Gall cyflogwyr mawr sydd wedi cofrestru gyda CITB wneud cais am gyllid i helpu gyda chostau hyfforddiant cymwys.
Ar y dudalen hon
- Pwy all gael mynediad at y Gronfa Cyflogwyr Mawr
- Faint o gymorth sydd ar gael
- Sut i gael mynediad at y cyllid
- Dogfennau pwysig
- Beth sy'n digwydd nesaf
- Beth sy’n gymwys
Trosolwg
Mae’r Gronfa Cyflogwyr Mawr yn gynnig dros dro sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 26/27 yn unig tra bod ateb tymor hwy yn cael ei ddatblygu.
Bwriad y Gronfa hon yw rhoi cymorth ariannol i gyflogwyr mawr (gyda 250 neu fwy o weithwyr TWE) tuag at eu hanghenion hyfforddi.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer unrhyw hyfforddiant o fewn y cwmpas o’ch dewis.
Pwy all gael mynediad at y Gronfa Cyflogwyr Mawr
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid i'ch busnes fod â 250 neu fwy o weithwyr (wedi'u datgan ar eich Ffurflen Lefi ddiweddaraf)
- Rhaid i'ch Ffurflen Lefi a'ch taliadau fod yn gyfredol
Faint o gymorth sydd ar gael?
Gallwch gael hyd at £18,000 i'w wario ar unrhyw hyfforddiant o fewn cwmpas eich dewis. Rhaid i bob hyfforddiant a ariennir ddigwydd rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027.
Gweler yr adran Beth sy’n gymwys isod am ragor o wybodaeth.
Sut i gael mynediad at y cyllid?
Bydd y Gronfa yn agor ar 1 Ebrill 2026. Gallwch gyflwyno Cais am Gyllid unrhyw bryd hyd at 30 Mehefin 2026.
Cwblhewch y Ffurflen Gais am Gyllid (PDF, 302KB) ac anfonwch hon drwy e-bost, ynghyd â'ch cynllun hyfforddi, at LargeEmployerFund@citb.co.uk. Rhaid cyflwyno hyn yn uniongyrchol gan y busnes, nid gan ddarparwr hyfforddiant nac unrhyw gyfryngwyr eraill.
Gellir cyflwyno un Cais am Gyllid (fesul pob rhif cofrestru lefi). Mae cyflogwyr sydd â phrosiect byw o dan y Gronfa Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dal i allu cymryd rhan.
Dogfennau pwysig
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y Telerau ariannu (PDF, 185KB).
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Bydd tîm CITB yn adolygu eich cymhwysedd ac yn cadarnhau bod eich Ffurflen Lefi a'ch taliadau'n gyfredol. Cynhelir adolygiadau cymhwysedd cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich Cais am Gyllid.
- Yna byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich bod wedi cael cyllid (neu'n gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol os oes angen). Bydd yr e-bost yn cynnwys eich dyddiadau adolygu cyllid:
- Bydd y taliad cyntaf o £9,000 yn cael ei drefnu rhwng Gorffennaf-Awst 2026.
- Bydd y taliad olaf o £9,000 yn cael ei drefnu rhwng Chwefror-Mawrth 2027
- Os nad ydych yn gallu rhoi cynllun hyfforddi i ni, gellir cyflwyno anfonebau darparwyr hyfforddiant fel tystiolaeth er mwyn rhyddhau'r taliadau cyllid. Nodwch eich dewis ar y ffurflen Gais am Gyllid yn y blwch a ddarperir.
Beth sy’n gymwys
Hyfforddiant y gellir ei ariannu:
- Hyfforddiant Cwrs Cyfnod Byr (ac eithrio unrhyw beth sy'n dal i gael ei gefnogi drwy'r cynllun Grantiau, fel Gweithrediadau Peiriannau a Sgaffaldiau)
- Hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheolaeth (i'r rhai mewn rolau arweinyddiaeth, goruchwylio neu reoli)
- Hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Hyfforddiant na ellir ei ariannu:
- Cyrsiau Cymorth Cyntaf
- Unrhyw hyfforddiant sydd ar gael drwy'r cynllun Grantiau neu lwybrau ariannu eraill (megis prentisiaethau a chymwysterau)
- Hyfforddiant Mewnol*
- Cymwysterau Lefel 7
- Cyrsiau Microsoft Office
- Ffioedd ymgynghori, cofrestru neu aelodaeth
- Prynu meddalwedd a thrwyddedau
- Teithio, llety a chynhaliaeth
- TAW
*Mae hyn yn golygu darparu hyfforddiant i weithwyr gan ddefnyddio eich adnoddau a'ch arbenigedd eich hun (felly ni fydd unrhyw gostau gan drydydd parti).