Facebook Pixel
Skip to content

Canllaw i gofrestru ar SAP

Rhaid i gyflogwyr sy'n dymuno cofrestru hyfforddai newydd ar raglen sgiliau cymhwysol arbenigol (SAP) sicrhau eu bod yn gallu bodloni rheolau'r rhaglen. Mae angen iddynt hefyd sicrhau bod yr hyfforddai y maent yn cofrestru ar y rhaglen yn bodloni'r meini prawf ar gyfer unigolion sy'n newydd i'r diwydiant.

Rheolau sylfaenol

  • Mae'n rhaid i'r unigolyn newydd fod â chontract cyflogaeth uniongyrchol llawn amser (PAYE) gyda chyflogwr sydd wedi'i gofrestru â'r Lefi.
  • Ni ddylai’r unigolyn  fod wedi cofrestru ar brentisiaeth arall gyda chymorth grant CITB ar gyfer yr un lefel cymhwyster galwedigaethol (VQ).
  • Er mwyn i’r cyflogwr hawlio elfen cyflawniad fframwaith y grant, rhaid iddo ganiatáu i’r unigolyn fynychu pob modiwl ‘i ffwrdd o’r gwaith’.
  • Ni all y cyflogwr osod terfyn oedran uchaf ar gyfer unigolion newydd, er y gallant nodi oedran dewisol unigolion newydd wrth eu cyflogi. Yr oedran lleiaf ar gyfer unigolion newydd yw 16 oed.
  • Rhaid i’r cyflogwr wneud yn siŵr bod yr unigolyn newydd yn gwneud cais ac yn cael Cerdyn Hyfforddai CSCS yn ystod mis cyntaf ei hyfforddiant
  • Rhaid i'r cyflogwr ddarparu dwywaith cymaint o ddiwrnodau hyfforddi dan oruchwyliaeth yn y gwaith na diwrnodau hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith. Rhaid cofnodi'r diwrnodau hyfforddi hyn yn llyfr log y dysgwr
  • Ni chaniateir i'r cyflogwr gyflwyno is-gontractwyr neu weithwyr hunangyflogedig hyd yn oed os cyfeirir atynt yn Ffurflen Lefi'r cyflogwr.

Mae'r rhaglenni'n agored i'r rhai nad ydynt yn aelodau yn ogystal ag aelodau o gymdeithas fasnach arbenigol.

Meini prawf unigolion newydd

Gall ymgeisydd newydd fod yn:

  • Unigolyn sy'n newid gyrfa (h.y. unigolyn newydd i’r sector):
    Efallai bod yr unigolyn eisoes wedi cwblhau prentisiaeth ac wedi ennill VQ ar gyfer galwedigaeth wahanol. Os bu iddynt ymgymryd â phrentisiaeth cymorth grant CITB yn flaenorol, nid ydynt yn gymwys i gofrestru ar gyfer SAP.
  • Yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd ond heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol:
    Gall yr unigolyn fod yn gyflogedig yn y sector am y 12 mis diwethaf, ond nid yw wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol yn y sgiliau arbenigol ac nid yw wedi cofrestru ar gyfer VQ yn yr alwedigaeth honno.
  • Unigolyn sy'n datblygu yn ei yrfa:
    Gall yr unigolyn fod yn datblygu'n ei gwmni presennol neu'n symud o un cwmni i'r llall i gymryd rôl uwch. Er enghraifft, labrwr i weithiwr medrus.

Cost

Er bod y darparwyr hyfforddiant hyn wedi'u contractio a'u talu gan CITB i ddarparu'r hyfforddiant, mae'n rhaid i gyflogwyr dalu rhywfaint o'r costau hyfforddi ac asesu o hyd. Mae'r rhain yn daladwy i'r darparwr hyfforddiant partner.