Facebook Pixel
Skip to content

Beth yw Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu (NSAfC)?

Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu (NSAfC) yn ffordd o weithio sy'n eich galluogi i gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar y safle, ar amser.

Wedi'i ddatblygu gan CITB a'i gymeradwyo gan ddiwydiant, mae fframwaith NSAfC yn darparu strwythur a chyfeiriad i'ch helpu chi i ddarparu hyfforddiant cyson o ansawdd uchel yn  amgylchedd safle byw eich prosiect adeiladu.

P'un a ydych chi'n gontractwr neu'n awdurdod sector cyhoeddus, mae'r NSAfC yn cael y sgiliau cywir i'ch pobl - o grefft i sgiliau technegol i sgiliau proffesiynol, ar gyfer unigolion newydd i weithwyr profiadol - lle bynnag y mae eu hangen.

Mae'r NSAfC yn un o 19 Academi Sgiliau Genedlaethol sy'n cefnogi diwydiannau'r DU trwy ddatblygu seilwaith hyfforddi i fynd i'r afael â heriau sgiliau sector-wrth-sector. Lansiwyd yr NSAfC yn 2006 gyda'r nod o ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd sgiliau deinamig ar y safle lle bynnag y mae prosiect addas.

Mae'r NSAfC eisoes wedi llwyddo i ategu mwy na 400 o brosiectau ledled y DU, gan wella sgiliau ledled y diwydiant a helpu sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol yn y gymuned.

Gwnaethom ddatblygu'r NSAfC ar y cyd â'r diwydiant adeiladu i wella cynhyrchiant, hyrwyddo sgiliau a chreu gweithleoedd sy'n perfformio'n dda a all ddatblygu a harneisio talent.

Mae ffordd o weithio NSAfC yn adeiladu ar arferion presennol a derbyniol i:

  • Fodloni anghenion sgiliau cyflogwyr
  • Gwneud y mwyaf o enillion economaidd a chymdeithasol ar fuddsoddiad mewn hyfforddiant a sgiliau
  • Codi safonau hyfforddi ar draws y sector
  • Creu meincnodau cymeradwy a sefydledig ar draws diwydiant
  • Rhoi arweiniad neu gefnogaeth ar fodloni gofynion tendro a rhwymedigaethau cymdeithasol cysylltiedig, megis cytundebau adran 106
  • Galluogi sefydliadau i ddangos cydymffurfiad trwy gydol y broses gaffael
  • Cynhyrchu cyfleoedd newydd a chyraeddadwy mewn dysgu yn y gwaith
  • Sefydlu cyflogaeth leol gynaliadwy i drawsnewid cymunedau
  • Sicrhau etifeddiaeth gymdeithasol barhaol.

A chydag achrediad NSAfC, bydd gennych hefyd farc o ansawdd sy'n eich gwahaniaethu chi oddi wrth eich cystadleuwyr.

Mae tair ffordd gall eich sefydliad gymryd rhan a manteisio i'r eithaf ar ffordd NSAfC o weithio:

  • Heb unrhyw gytundeb ffurfiol a heb achrediad NSAfC, defnyddio'r adnoddau NSAfC ar-lein am fel bo'n addas i chi
  • Gydag achrediad NSAfC, yn dilyn cais llwyddiannus, a chefnogaeth lawn CITB
  • Fel cleient mawr - fel arfer awdurdod sector cyhoeddus gydag achrediad NSAfC sy'n caffael prosiectau adeiladu ar raddfa fawr yn rheolaidd sydd â'r potensial i gael effaith sylweddol ar gyflogaeth a sgiliau ar lefel genedlaethol.

Gweler 'Beth rydyn ni'n ei gynnig i chi' isod i gael mwy o fanylion am y tair ffordd hyn y gallwch chi gymryd rhan yn ffordd NSAfC o weithio.

Mae ein pecyn cymorth NSAfC sy'n cynnwys gwybodaeth, cyngor, arweiniad a holl egwyddorion arfer gorau sy'n sail i ffordd NSAfC o weithio, am ddim, ar-lein ac ar gael yn llawn i unrhyw un gael mynediad ato neu ei lawr lwytho.

Heb gytundeb nac achrediad

Rydym am i'r NSAfC godi safonau ar draws diwydiant. Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gytundeb NSAfC ffurfiol gyda ni, gallwch barhau i:

  • Defnyddio ein pecyn cymorth, cyngor ac arweiniad NSAfC ar-lein am ddim
  • Defnyddio ein KPI a gymeradwywyd gan y diwydiant a gwybodaeth am werth cymdeithasol a buddion cymunedol
  • Cael cefnogaeth ar gyfer datblygu eich cyfraniad at werth cymdeithasol a buddion cymunedol a mynediad at rwydweithiau o sefydliadau o'r un anian
  • Cael cyngor ar gais i gyflwyno cais am achrediad NSAfC
  • Cael cyngor ar ein meysydd arbenigedd eraill, gan gynnwys grantiau CITB, cyllid, prentisiaethau a chynhyrchion a gwasanaethau eraill
  • Cael yr opsiwn o gael ymweliad gan gynrychiolydd CITB i drafod sut y gallwn eich cefnogi orau.

Gydag achrediad NSAfC

Yn ychwanegol at yr uchod, os ydych chi'n ceisio achrediad NSAfC neu eisoes, rydym yn cynnig:

  • Ein cefnogaeth lawn trwy gydol y broses ymgeisio a thu hwnt
  • Achrediad a brandio NSAfC, yn dilyn cymeradwyo'ch cais
  • Eich rhestru fel sefydliad achrededig NSAfC ar ein gwefan
  • Cyfarfod cychwynnol gydag un o'n harbenigwyr, i ddechrau'r broses.

Darganfyddwch sut i wneud cais am achrediad NSAfC.

Fel cleient mawr

Yn ychwanegol at yr uchod, fel cleient mawr rydych chi'n ei gael:

  • Aelodaeth o grŵp ymarferwyr i ddatblygu a rhannu arfer gorau
  • Prif gyswllt CITB i gydlynu cefnogaeth gan ein gwahanol dimau arbenigol
  • Cytundeb partneriaeth wedi'i deilwra'n union i'ch anghenion chi.

Darganfyddwch sut i wneud cais am achrediad NSAfC

Canfod mwy

Darganfyddwch fwy am sut mae NSAfC yn gweithio ac ymgynghorwch â'n hadnodd NSAfC.

Gwnewch gais am achrediad NSAfC neu cysylltwch â ni am fanylion.

Gweld pa gleientiaid a chontractwyr sydd wedi rhedeg prosiectau NSAfC yn llwyddiannus.