Trefnu prawf Iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
Dewch i archebu eich prawf Iechyd, diogelwch a’r amgylchedd (HS&E) yn Gymraeg
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer y rhai hynny sydd am drefnu prawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd (HS ac E) CITB
On this page:
Archebu eich prawf Iechyd a Diogelwch
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y telerau ac amodau archebu safonol telerau ac amodau archebu safonol (PDF, 205KB) cyn i chi archebu.
Gallwch archebu eich prawf HS&E gyda Pearson VUE ar-lein/dros y ffôn neu'n uniongyrchol gyda'ch Canolfan Profi Rhyngrwyd (ITC) leol.
Archebu ar-lein
Mae'r swyddogaeth chwilio sedd newydd yn eich galluogi i gymharu argaeledd canolfannau prawf yn eich ardal leol ar yr un pryd.
Archebu dros y ffôn
I archebu dros y ffôn, ffoniwch 0344 994 4488. Mae'r llinellau ar agor o 8am i 8pm (dydd Llun i ddydd Gwener), ac o 8am i 12pm (dydd Sadwrn). Mae'r lein ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Banc.
Llinell Archebu Cymraeg: 0344 994 4490.
Archebu trwy Ganolfan Brawf Ar-lein (ITC)
I ddod o hyd i'ch Canolfan Brawf Ar-lein leol cliciwch yma.
Nid yw pob ITC yn ymddangos ar y Map ITC ar hyn o bryd, mae croeso i ITCs presennol ychwanegu eu manylion trwy Arolwg Mapiau ITC
Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi wrth archebu
- pa fath o brawf Iechyd, diogelwch a’r Amgylchedd rydych am ei gymryd
- pa ganolfan brawf rydych chi am sefyll y prawf ynddi
- eich cyfeiriad llawn
- eich rhif cofrestru CITB os ydych wedi cymryd prawf HS&E yn flaenorol neu wedi gwneud cais am gerdyn CSCS, CPCS neu CISRS
- y dull talu a ddewiswyd gennych; rydym yn derbyn cardiau debyd a chredyd. Fel arall, gallwch dalu gyda thalebau a brynwyd o’n siop ar-lein (sylwer mai dim ond yng Nghanolfannau Proffesiynol Pearson y gellir defnyddio talebau)
- a oes angen cymorth arbennig arnoch (e.e. cyfieithwyr, ac ati) yn ystod eich prawf.
Beth i’w wneud ar ddiwrnod y prawf
- cyrraedd o leiaf 15 munud cyn i'ch prawf ddechrau
- dewch â'ch e-bost neu lythyr cadarnhau archeb
- dod ag ID sy'n cynnwys eich llun a'ch llofnod; darllenwch y Polisi ID llawn.*
- Ar ôl eich prawf, rhaid i chi gadw'ch Adroddiad Sgorio yn ddiogel gan fod ganddo wybodaeth bwysig amdano sy'n ymwneud â'ch cais cerdyn
* Os ydych yn sefyll eich prawf mewn carchar, anfonwch e-bost at testingservicesfeedback@citb.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am ffurfiau derbyniol o ID.
Os ydych o dan 16:
Bydd angen i chi fynd â ffurflen caniatâd rhieni wedi'i chwblhau (PDF, 120KB) gyda chi i'ch prawf, ynghyd â ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod. Gwiriwch y Polisi ID am fanylion.
Cost y prawf Iechyd, diogelwch a’r Amgylchedd
Cost sefyll y prawf Iechyd a Diogelwch yw £22.50.
Gall cyfanswm y gost sy'n daladwy mewn Canolfan Profi Rhyngrwyd (ITC) gynnwys taliadau ychwanegol megis ffioedd gweinyddol. Rhaid i'r ITC roi dadansoddiad i chi o'r costau.
Cymorth arbennig ar gyfer y prawf
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch wrth sefyll eich prawf, gwiriwch beth sydd ar gael i chi.
Gallwch ail-drefnu neu ganslo prawf:
Ail-drefnu neu ganslo ar-lein
I ganslo neu aildrefnu prawf, mae angen i chi fewngofnodi i'r system archebu profion Pearson VUE. Bydd arnoch angen yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair a ddefnyddioch pan wnaethoch gofrestru i ddefnyddio'r system yn y lle cyntaf.
Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif i reoli eich archeb am brawf.
Aildrefnu'r prawf
Mae'n rhaid i chi aildrefnu eich prawf o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf:
- Mae'n rhad ac am ddim i newid i ddyddiad prawf gwahanol ar-lein os gwnewch hynny o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf
- Ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.
Canslo'r prawf
I ganslo eich prawf a chael ad-daliad llawn o'ch ffi prawf, mae angen i chi wneud hyn ar-lein o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf.
Ni fydd eich ffi prawf yn cael ei had-dalu os byddwch yn canslo'ch prawf lai na 72 awr cyn dyddiad y prawf.
Gwneir ad-daliadau:
- I'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
- Drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.
Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf.
Aildrefnu neu ganslo dros y ffôn
I aildrefnu neu ganslo eich prawf, ffoniwch 0344 994 4488. Mae'r llinell ar agor 8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am i 12pm ar ddyddiau Sadwrn Mae'r llinell ar gau yn ystod Gwyliau Banc.
Aildrefnu'r prawf
- Os byddwch yn aildrefnu dros y ffôn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf, codir tâl o £5 arnoch i newid y dyddiad.
- Ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 72 awr cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.
Canslo'r prawf
- Os byddwch chi'n canslo dros y ffôn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf, byddwch yn cael ad-daliad, llai ffi weinyddol o £10
- Os byddwch yn canslo dros y ffôn llai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf, ni fyddwch yn cael unrhyw ad-daliad o'ch ffi prawf.
Gwneir ad-daliadau:
- I'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
- Drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.
Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf (gweler aildrefnu'r prawf dros y ffôn uchod).
Mae manylion llawn y telerau ac amodau archebu ar gael i'w lawrlwytho (PDF, 205KB)
Archeb grŵp bach (1 i 3 ymgeisydd)
I archebu a thalu am grŵp bach o ddim mwy na 3 ymgeisydd, ffoniwch 0344 994 4488.
Archebion grŵp mawr (4 neu fwy o ymgeiswyr)
Gellir gwneud archebion ar gyfer grwpiau mwy â 4 neu fwy o ymgeiswyr ar-lein gan ddefnyddio'r system Offeryn Archebu Grŵp Scheduler.
Ar ôl i chi greu eich cyfrif, anfonir dolen we atoch i'r system i fewngofnodi fel y gallwch:
- Greu rhestr o'r holl ymgeiswyr a fydd yn sefyll y prawf
- Dewis lle rydych am iddynt sefyll y prawf - mae 168 o ganolfannau prawf ledled y wlad i ddewis rhyngddynt
- Dewis dyddiad ac amser ar gyfer y prawf (mae hyn yn amodol ar argaeledd)
- Gofyn am gymorth arbennig* ar gyfer ymgeisydd(wyr)
- Talu am yr holl brofion gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Fel arall gallwch dalu gyda thalebau a brynwyd o'n siop ar-lein.
* Gallwch ofyn am drosleisiau ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL) drwy'r system. Ar gyfer mathau eraill o gymorth arbennig, e-bostiwch citb.additionalsupport@pearson.com neu ffoniwch 0344 994 4488 i ofyn am hyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y telerau ac amodau archebu (PDF, 157KB) cyn gwneud yr archeb.
Beth yw'r gwasanaeth profion symudol?
Mae'r gwasanaeth profion symudol yn cynnwys sefydlu canolfan brawf dros dro mewn lleoliad neu safle gwaith o'ch dewis unrhyw le yn y DU, gan gynnwys Gogledd Iwerddon.
Gall y gwasanaeth hwn fod yn fwy buddiol i chi a'ch gweithlu oherwydd:
- Mae'n arbed amser a chostau teithio eich gweithwyr gan na fydd rhaid iddynt deithio i ganolfan brawf disymud
- Gallwch ddewis dyddiad ac amser i'r prawf sy'n addas i chi a'ch gweithwyr
Os oes gennych anghenion parhaus am brofion, gallwch ofyn am sefydlu canolfan brawf lled-barhaol (caban cludadwy) ar y safle.
Archebu'r gwasanaeth profion symudol
- Cyn i chi trefnu’r gwasanaeth, darllenwch a deallwch delerau ac amodau’r profi symudol yn llawn (PDF, 143KB)
- Yna mae angen i chi lenwi’r ffurflen gais i archebu, gan sicrhau eich bod:
- yn llenwi pryd a ble rydych chi eisiau’r gwasanaeth, a hefyd y dull darparu sydd orau gennych
- yn rhoi enw’r ymgeisydd (ymgeiswyr) sy’n sefyll y prawf – gwnewch yn siŵr bod yr enwau yn union fel y dangosir ar yr ID y mae’n rhaid iddynt ddod gyda nhw i’r prawf
- rhoi eich rhif cyfrif credyd CITB, os oes gennych un
- yn nodi eich dull talu dewisol yn yr e-bost eglurhaol – os nad ydych yn defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd i dalu am y gwasanaeth, byddwn yn trefnu galwad yn l i gymryd taliad
- yn llenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl, fel arall bydd eich archeb yn cael ei gwrthod a bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.
- Unwaith y bydd y ffurflen wedi ei chwblhau mae angen i chi ei he-bostio at citb.mobiletesting@pearson.com
- Sicrhewch fod y ffurflen wedi’i diogelu gan gyfrinair cyn anfon e-bost i ddiogelu unrhyw ddata personol.
- Am arweiniad ar sut i ddiogelu dogfennau â chyfrinair – Everyday Life Hacks (Microsoft.com)
- Bydd angen i chi hefyd anfon e-bost ar wahân at citb.mobiletesting@pearson.com gyda’r cyfrinair.
- Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen a thalu am y gwasanaeth, byddwch yn derbyn cadarnhad ar gyfer eich archeb drwy e-bost diogel
- Gofynnwn am daliad o leiaf 10 diwrnod cyn dyddiad y prawf
- Rhaid i'r taliad fod wedi'i glirio i'n cyfrif banc o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf cyn i ni anfon cadarnhad archebu.
Bydd ymgeisydd(wyr) a fydd yn sefyll y prawf yn cael e-bost/llythyr o gadarnhad yn cadarnhau eu slot prawf. Os ydych wedi gofyn i'ch ymgeisydd(wyr) gael eu hatgoffa o'u slot prawf, byddant yn derbyn neges e-bost neu neges destun 24 awr cyn y dyddiad.
Newid y rhestr o ymgeiswyr
Os oes angen i chi newid pwy fydd yn sefyll y prawf, rhaid i chi wneud hyn o leiaf 6 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf. Ni allwn wneud unrhyw newidiadau i'r rhestr ar ôl y cyfnod hwn.
Ymholiadau a chymorth pellach
E-bostiwch citb.mobiletesting@pearson.com neu ffoniwch 0344 994 4492 os oes arnoch angen cymorth ychwanegol ag archebion profi symudol.