Facebook Pixel
Skip to content

Sut i lwytho cyflawniadau mewn swmp ar y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu (CTR)

Un o'r tasgau sydd gan Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy CITB (ATO) yw ychwanegu cyflawniad dysgwr at ei gofnod hyfforddiant pan fydd wedi cwblhau'r hyfforddiant neu gwrs.

Pan fydd ATO CITB yn ychwanegu cyflawniad dysgwr, mae hyn yn sbarduno'r broses ar gyfer y taliad grant awtomataidd i'r cyflogwr. Mae'n bwysig iawn i ATO wneud hyn cyn pen 10 diwrnod ar ôl i ddysgwr gwblhau'r cwrs.

Sut i ychwanegu cyflawniad ar y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu

  1. Cyn i chi fewngofnodi i'r system, mae angen i chi gael y darnau gwybodaeth canlynol:
    - enw'r dysgwr
    - ID unigryw'r dysgwr (a allai gynnwys Rhif Dysgwr Unigryw (ULN), Yswiriant Gwladol (Gogledd Iwerddon), neu ID Unigol / Rhif Cofrestru)
    - rhif cofrestru'r cyflogwr, a
    - teitl y cwrs y mae'r dysgwr newydd ei gwblhau.
  2. Mewngofnodi i borth gwasanaethau ar-lein CITB. Fe fydd arnoch chi angen y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei ddefnyddio pan wnaethoch chi greu'ch cyfrif ATO a'ch cyfrinair am y tro cyntaf.
  3. Ar ôl i chi fewngofnodi, mae angen i chi ddewis a ydych chi'n ychwanegu cyflawniad unigol neu cyflawniadau mewn swmp.
    - I ychwanegu cyflawniad unigol, yn gyntaf mae angen i chi chwilio am gofnod y dysgwr.
    Ar ôl ichi ddod o hyd i'r cofnod hwnnw, dewiswch Cyflwyno Cyflawniad Unigol a cwblhewch y meysydd gofynnol.
    - I ychwanegu cyflawniadau mewn swmp, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y nodiadau canllaw sydd wedi'u cysylltu yn y cyfarwyddiadau ar y sgrin cyn i chi wneud lwytho unrhyw  swmp.
    - Defnyddiwch y templed ffeil CSV a ddarperir ar y porth i lwytho cyflawniadau - ni dderbynnir unrhyw fformatau ffeil eraill.
  4. Mae gennych 2 ddiwrnod i wneud unrhyw newidiadau terfynol ar ôl i chi ychwanegu'r cyflanwiad, cyn iddo gael ei gyflwyno ar gyfer taliad grant. Gallwch ddod o hyd i'r rhain trwy glicio ar y tab Gweld Cyflawniadau.
  5. Gwyliwch y fideo uchod i gael canllaw cam wrth gam ar sut i ddefnyddio'r system i ychwanegu cyflawniadau unigol neu mewn swmp.