Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Twnnel (TSTS)
Mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi os ydych chi'n ymwneud â'r diwydiant adeiladu twnnel fel aelod o'r gweithlu, i'ch helpu chi i ddeall amrywiaeth o wahanol agweddau iechyd a diogelwch ar y diwydiant, yr amgylchedd gwaith cysylltiedig a rhai o'r peryglon posib y gallech chi eu hwynebu wrth weithio ar safle twnnel.
Trosolwg
Roedd datblygiad y cwrs hwn yn ddatrysiad a arweiniwyd gan ddiwydiant a gefnogwyd gan CITB, TunnelSkills a Chymdeithas Twnnel Prydain (BTS). O'r cysyniad hyd at gyflawni, ymgynghorwyd â chontractwyr, cleientiaid a darparwyr, yn aml gyda mewnbwn uniongyrchol i ddatblygiad.
Cyn lansio'r cwrs, cynhaliwyd peilot gyda rhanddeiliaid mawr. Darllenwch eu tystlythyrau (331KB, PDF).
Mae'r cwrs un diwrnod hwn yn cwmpasu'r meysydd pwnc canlynol:
- Mynediad i amgylchedd twnnel
- Gwaith wyneb a siafftiau
- adeiladu twnnel
- Peiriannau ac offer twnnel
- Rheoli gwaith tanddaearol yn ystod gweithrediadau twnnel
- Trefniadau brys
- Iechyd Galwedigaethol
Dysgwch ragor am gael cymeradwyaeth i ddarparu'r cwrs hwn
Mae gwybodaeth bellach am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau'r Cynllun