Canlyniadau Chwilio
Canfuwyd 40 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Canolfan Profiad ar y Safle yn gweddnewid bywyd Daniel
“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau.” Dyna argraffiadau saer dan hyfforddiant o’r enw Daniel Skelly. Maent yn enghraifft dda iawn o sut gall hyfforddiant ar gyfer gyrfa newydd fod yn bleserus – a thrawsnewid bywyd.

Canolfannau Profiad ar y Safle yn helpu Willow i roi sgiliau ar waith
Pan gollodd darpar saer Willow Kehily ei swydd ym maes manwerthu, gwnaeth benderfyniad beiddgar. Penderfynodd y fam o Aberteifi ail-sgilio a dilyn ei diddordeb mewn gwaith coed. Roedd yn symudiad fentrus tu hwnt. Ond fe dalodd ar ei ganfed. O fewn dyddiau o ddechrau hyfforddiant adeiladu ar y safle roedd Willow yn gwybod ei bod wedi gwneud y dewis cywir.

Mae Talentview Construction yn siarad ag arbenigwyr cynaliadwyedd ar gyfer Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd
Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni (Tachwedd 7-12), gan dynnu sylw at swyddi sero net a llwybrau gyrfa gwyrdd ar draws pob sector, gan gynnwys adeiladu. Fel rhan o’r ymgyrch, siaradodd y llwyfan gyrfaoedd, Talentview Construction (TVC) ag arbenigwyr cynaliadwyedd o bob rhan o’r sector ynghylch beth mae eu gwaith yn ei olygu.

Rhoi mwy o lais i gyflogwyr ar sgiliau
Ni all un sefydliad ddatrys holl heriau sgiliau adeiladu. Er mwyn denu gweithwyr newydd, mae angen i randdeiliaid fod yn bartner ar gyfer sgiliau a mabwysiadu ymagwedd gyson at hyfforddiant. Dyna’r ffordd orau o gefnogi pobl i gael swyddi adeiladu sy’n talu’n dda. Rwy’n falch o ddweud bod agwedd newydd, gydgysylltiedig at sgiliau ar y gweill: Cynlluniau Gwella Sgiliau Lleol (CGSLl).

Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd – Mae pob swydd yn swydd werdd
Cynhelir yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd gyntaf erioed y mis yma. Nod yr ymgyrch, sy’n rhedeg o fis Tachwedd 07-12, yw tynnu sylw at lwybrau gyrfa gwyrdd. Mae CITB newydd gyhoeddi Cynllun Gweithredu Sero Net deinamig sy’n edrych ar anghenion sgiliau adeiladu’r dyfodol.

Marlène yn cael blas ar amrywiaeth wrth gyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau
Ennill sgiliau’n gyflym ym mhob agwedd ar grefft yw hanfod bod yn brentis. Mae Marlène Lagnado, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau, yn enghraifft wych o fanteision prentisiaethau – a’r cyfleoedd mae adeiladu’n eu cynnig.

Gemau rygbi a gwaith coed – cyfuniad buddugol i Oliver
Dychwelodd y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf yn y DU yn gynharach eleni. Darperir SkillBuild gan CITB ar y cyd â WorldSkills UK, ac wrth i baratoadau ar gyfer y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol gychwyn, clywn gan Oliver Tudor, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Courtney, a gyrhaeddodd rownd derfynol SkillBuild, yn llawn canmoliaeth i gymuned crefftau LHDTC+
Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu yw hyrwyddo amrywiaeth. Mae annog pobl o bob cefndir i ymuno â diwydiant wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd lawer.

Safonau a grantiau peiriannau newydd CITB “wedi’u hysbrydoli gan ddiwydiant”
Bydd mewnbwn y diwydiant ar safonau a grantiau peiriannau newydd CITB yn helpu pawb yn ôl Emily Tillling o CITB. Bydd y newidiadau, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn dod i rym ym mis Ionawr 2023 a byddant yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y diwydiant adeiladu.

Arweinyddiaeth gref yn allweddol er mwyn cyrraedd nodau cynaliadwyedd
Clywais unwaith fod 80% o’r allyriadau carbon sy’n cael eu creu ar draws y byd yn dod o fusnesau. Dyna ystadegyn syfrdanol. Mae’n dangos pam mae’n rhaid i arweinwyr busnes a gwleidyddol fod yn gyfrifol a helpu i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd a diogel.