Facebook Pixel
Skip to content

Diweddariad: Archebion Rhwydwaith Cyflogwyr a Chronfeydd Wrth Gefn CITB

Yn dilyn erthyglau diweddar sydd wedi’u cyhoeddi, rydym am sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei rhannu.

Mae’n anghywir dweud bod CITB wedi rhoi’r gorau i dderbyn pob archeb ar gyfer hyfforddiant ac nid ydym wedi dweud nad oes mwy o arian ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddi. Mae’r Rhwydwaith Cyflogwyr yn fenter sy'n cael ei harwain gan gyllideb ac oherwydd y cynnydd sylweddol yn y defnydd, mae ein cyllideb bresennol ar gyfer y flwyddyn hon wedi'i hymrwymo'n llawn ac felly ni allwn dderbyn archebion hyfforddiant rhwng 20 Chwefror a 31 Mawrth. Gellir archebu hyfforddiant sy’n digwydd ar ôl 1 Ebrill ac mi fydd unrhyw hyfforddiant sydd eisoes wedi’i archebu cyn 1 Ebrill yn parhau fel y cynlluniwyd.

Rydym yn deall y gall y newyddion hyn fod yn rhwystredig i rai, ond rydym yn ei weld yn gadarnhaol ein bod wedi cefnogi mwy o gyflogwyr gyda’u hanghenion hyfforddi.

Rydym yn parhau i gefnogi hyfforddiant peiriannau ac ysgaffald, prentisiaethau a chyrsiau allweddol eraill drwy ein cynllun grantiau. Yn ogystal â hyn, mae nifer o gyrsiau am ddim ac adnoddau ar gael drwy ein gwahanol brosiectau a ariennir.

Hoffem hefyd fynd i’r afael â’r sylwadau ynghylch ein cronfeydd wrth gefn. Cyhoeddwyd bod cronfeydd wrth gefn CITB ar hyn o bryd yn £78.9m – daw’r ffigur hwn o’n Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025 ac mae’n dangos y cronfeydd wrth gefn ym mis Mawrth 2025. Fel elusen a Chorff Hyd-Braich, mae’n ofynnol i gynnal lefel isafswm o £50m mewn cronfeydd wrth gefn. Mae CITB yn disgwyl bod yn agos at isafswm ei bolisi cronfeydd wrth gefn o £50m erbyn 31 Mawrth 2026.