Gweithredwr Peiriannau’r DU y flwyddyn 2025: Y Canlyniadau
Cynhaliwyd Gweithredwr Peiriannau’r DU y flwyddyn (UKPO) 2025 yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) CITB yn Bircham Newton, Norfolk, ddydd Sadwrn 6 Medi. Daeth y gystadleuaeth â’r cystadleuwyr gweithredwyr peiriannau gorau, gweithgynhyrchwyr byd-eang, llogwyr peiriannau cenedlaethol a rhanbarthol a chontractwyr o bob cwr o’r DU ynghyd, gyda’r enillydd cyffredinol yn casglu’r brif wobr o £10,000 o gyfanswm pot gwobrau o £20,000.
Dangosodd y cystadleuwyr eu sgiliau mewn deg her categori unigryw. Roedd y categorïau’n cynnwys Cloddwyr, Cloddwyr Mini, Dadlwythwyr Safle, Llwythwyr (Backhoes), Tryciau Dadlwytho Cymalog, Cloddwyr â braich sy’n gogwyddo (Tiltrotators), Bachellau (Grapple Grabs), Atodiadau Fforch, Teirw Dur (Dozers), a Llwythwyr ar Olwynion.
Nid oes unrhyw gystadleuaeth gweithredwr peiriannau arall yn y DU yn cynnig yr amrywiaeth o frandiau i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol gystadlu arnynt ac, yn ogystal â’r brif wobr, dyfarnwyd £250 a thlws i enillwyr categorïau unigol.
Dyma ganlyniadau UKPO 2025:
- Pencampwr – Liam Lambert, Cyfarwyddwr Liam Lambert Construction
- Ail safle – James Covell, Perchennog Kings Lynn Construction
- Trydydd safle – Lewis Jarman o Breheny Civil Engineering
I weld y rhestr lawn o ganlyniadau, cliciwch yma
Dywedodd Gary Cumiskey, Pennaeth NCC CITB:
“Ni wnaeth cystadleuaeth eleni siomi – roedd yn ddigwyddiad brwdfrydig! Ac mae'n atgof mor wych o'r amrywiaeth eang o dalent sydd gennym yn y diwydiant.
“Ar ran CITB hoffwn longyfarch enillydd eleni, Liam Lambert, Cyfarwyddwr Liam Lambert Construction, a'r holl rai a gyrhaeddodd y rownd derfynol am osod safonau mor uchel o fewn y diwydiant. Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol wrth dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gweithredwyr peiriannau’n ei chwarae wrth adeiladu seilwaith y DU yn ddiogel ac yn effeithlon.”
Dywedodd Jeff Schofield, Cyfarwyddwr Cylchgrawn UK Plant Operators:
“Mae Gweithredwr Peiriannau’r DU y Flwyddyn yn mynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn. Eleni cawsom nifer record o geisiadau i gystadlu a chofrestrodd dros 2,000 o bobl i fynychu. Rydym yn ymddiried ein bod wedi gallu ysbrydoli cenhedlaeth nesaf i ystyried gyrfa mewn adeiladu trwy hyfforddi i fod yn weithredwr peiriannau yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol CITB yn Bircham Newton”.
Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr, cefnogwyr a phartneriaid strategol cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau'r Flwyddyn y DU eleni.