Facebook Pixel
Skip to content

Mae CITB yn cyhoeddi Rhagolwg y Gweithlu Adeiladu 2025-29

Mae’r rhagolwg newydd yn tynnu sylw at y sgiliau sydd eu hangen i ateb galw diwydiant yn y dyfodol.

Heddiw, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio ei Rhagolwg y Gweithlu Adeiladu 2025–29, adroddiad blaengar wedi'i adnewyddu sy'n nodi anghenion gweithlu sector adeiladu'r DU dros y pum mlynedd nesaf.

A elwid gynt yn adroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN), mae'r Rhagolwg Gweithlu yn adlewyrchu dealltwriaeth ehangach o anghenion y sector. Mae'r rhagolygon yn dangos bod cyfleoedd o'n blaenau. Mae cyflawni'r cyfleoedd hynny'n llwyddiannus yn gofyn am ymrwymiad hirdymor gan gyflogwyr, y llywodraeth, darparwyr hyfforddiant a CITB. Er mwyn i'r diwydiant adeiladu gael y gweithlu sydd ei angen arno yn y dyfodol, mae buddsoddi mewn hyfforddiant sy'n cefnogi pobl i gael swyddi yn hanfodol. Mae hyn wrth wraidd Cynlluniau Strategol a Busnes CITB.

Mae CITB wedi bod yn cynhyrchu rhagolygon gweithlu ers 2006/2007 i ddarparu tystiolaeth a mewnwelediadau i nifer y gweithwyr sydd eu hangen i gwrdd â'r galw a ragwelir. Dyma'r unig adroddiad o'r math hwn ar gyfer y diwydiant adeiladu o hyd ac mae'n cael ei lunio gan ddefnyddio ystod o ddata sy'n edrych yn ôl ac i’r dyfodol. Mae cael barn ar newidiadau yn y gweithlu adeiladu a'r angen am weithwyr ychwanegol yn rhan greiddiol o helpu CITB i ddeall anghenion hyfforddi yn y dyfodol yn well.

Gellir gweld a lawrlwytho adroddiad Rhagolwg y Gweithlu Adeiladu 2025-29 – ynghyd ag offeryn rhyngweithiol newydd ar y we.