Facebook Pixel
Skip to content

Y Pwyllgor Cyllid Diwydiant

Mae'r pwyllgor Cyllid Diwydiant yn cynghori Bwrdd CITB ynghylch gweithredu strategaeth a pholisi Cyllid Diwydiant CITB ac yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fod y cyllid buddsoddi yn cael ei weithredu'n effeithiol.

Yn arbennig, bydd y Pwyllgor Cyllid diwydiant y cynghori'r Bwrdd ar gyfeiriad y strategaeth yn y dyfodol, gan gynnwys diwygio'r Cynllun Grantiau trwy asesu effaith penderfyniadau ynghylch ariannu a thrwy achosion eithrio y gofynnir amdanynt gan Dîm Rheoli Gweithredol CITB.

Aelodau presennol y pwyllgor (ym mis Tachwedd 2024) yw:

Holly Price - Ymddiriedolwr CITB

Stephen Gray - Ymddiriedolwr CITB

Sophie Seddon - Ymddiriedolwr CITB

Sarah Garry – Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Gofal Eiddo

Mae Sarah wedi bod yn Brif Weithredwr y Gymdeithas Gofal Eiddo (PCA) ers mis Tachwedd 2023. Y PCA yw prif sefydliad cynrychioliadol y DU ar gyfer diogelu adeiladau ac mae’n gweithredu ar draws y sectorau domestig, masnachol a sifil ym meysydd atgyweirio strwythurol, diddosi strwythurol, cadwraeth bren, amddiffyn rhag lleithder, adfer llifogydd, awyru eiddo preswyl a diwydiannau rheoli chwyn ymledol.

Mae Sarah wedi treulio 20 mlynedd yn gweithio gydag aelodaeth a chymdeithasau masnach; gan gynnwys ar gyfer cyrff masnach adeiladu ac yn y sector meddygol rhyngwladol.

Cyn y PCA, bu Sarah yn arwain Cymdeithas Gwyddor Pridd Prydain (BSSS) lle bu’n Ysgrifennydd y Cwmni ac yn gyfrifol am reoli ei gweithgareddau o ddydd i ddydd gan gynnwys cyflawni’r strategaeth flynyddol, rheolaeth weithredol a staff. Hi fu’n arwain y gwaith o gyflwyno Cyngres Gwyddor Pridd y Byd 2022 sydd wedi ennill sawl gwobr, ac roedd yn ymddiriedolwr y cwmni a sefydlwyd i reoli’r gwaith o gynnal y digwyddiad.

Mewn rolau blaenorol, bu Sarah yn weithgar yn ymateb y diwydiant adeiladu i fater cymhwysedd yn dilyn trasiedi Grenfell Towers a chynrychiolodd y diwydiant adeiladu fel aelod o Banel Lefel T Adeiladu Ar Safle’r Adran Addysg, Pwyllgor Rheoli Cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a Grŵp Sgiliau Adeiladu Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA).

Mae gan Sarah ddiddordeb mawr mewn sgiliau, hyfforddiant a pholisi ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu prentisiaeth Gwyddor Pridd ac mae wedi gweithio gyda sefydliadau i ymgysylltu â llunwyr polisi a darparu tystiolaeth, sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau. Tra gyda BSSS, roedd hyn yn cynnwys cofrestru BSSS fel Sefydliad Anllywodraethol gyda'r Cenhedloedd Unedig a chymryd rhan weithredol yn Uwchgynadleddau COP UNFCCC.

Hannah O’Sullivan - Pennaeth Dysgu a Datblygu, VolkerWessels

Hannah yw Pennaeth Dysgu a Datblygu VolkerWessels UK, contractwr amlddisgyblaethol blaenllaw sy’n darparu datrysiadau peirianneg arloesol ar draws y sectorau peirianneg sifil ac adeiladu gan gynnwys rheilffyrdd, priffyrdd, maes awyr, morol, ynni, dŵr, a seilwaith amgylcheddol. Ynghyd â’i thîm, mae Hannah yn gweithio i gynnig cyfleoedd i bawb ddatblygu i’w potensial eu hunain – er eu budd eu hunain a’r cwmni.

Mae Hannah yn strategydd dysgu a thalent angerddol, arloesol a deinamig, gyda hanes o ychwanegu gwerth gwaelodlin i fusnes. Mae hi'n feddyliwr strategol sy'n defnyddio rhwydwaith eang o gyfoedion i herio'r norm.

Dros ei gyrfa 26 mlynedd, ar draws nifer o ddiwydiannau gwahanol, mae Hannah wedi hogi ei sgiliau fel arbenigwr rheoli perfformiad, gydag enillion profedig ar fuddsoddiad, ac mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni newid diwylliant sy’n cynnwys strategaethau datblygu pobl a’u rhoi ar waith.

Mae Hannah yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (FCIPD) ac mae’n ymwneud yn arbennig â datblygiad cymheiriaid allanol – yn enwedig mewn hyfforddi a mentora. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd pwyllgor Hyfforddi a Datblygu CECA, ac yn aelod o grŵp Diwygio CITB Build UK.

Clare Smithson – Pennaeth Adnoddau Dynol, Lovell Partnerships

Clare Smithson yw Pennaeth Adnoddau Dynol Lovell Partnerships. Mae Lovell yn arbenigwr tai partneriaeth ac yn ddarparwr blaenllaw o ddatblygiadau adeiladu preswyl ac adfywio arloesol. Maent yn adeiladu cartrefi i'w gwerthu a'u rhentu, gan gyrchu tir a buddsoddi mewn cymunedau ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a phartneriaid eraill. Mae Clare yn gofalu am tua 1200 o bobl fedrus iawn, sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol, ar bob cam o’r prosiect, o benseiri a dylunwyr i grefftau adeiladu a thimau gofal cwsmeriaid. Mae Lovell yn ymgymryd ag ystod eang o hyfforddeion a phrentisiaethau bob blwyddyn ac yn cynnig y cyfle i symud o fewn y sefydliad fel y gall pobl symud ymlaen o fewn y cwmni. Ategir hyn oll gan lefel uchel o fuddsoddiad mewn hyfforddiant.

Mae gan Clare gyfoeth o arbenigedd rheoli adnoddau dynol, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr AD yn Weston Group a chyn hynny ar ôl treulio 7 mlynedd fel Pennaeth Grŵp AD yn Hill Group, lle bu ei gwaith yn helpu'r busnes i ennill Gwobr Adeiladwr Tai am eu partneriaeth â Menywod mewn Adeiladu. Mae Clare hefyd wedi gweithio mewn uwch rolau adnoddau dynol yn DS Smith plc, NEST Corporation a BT plc.

Mae gan Clare ddiddordeb mawr mewn denu a chadw talent yn y diwydiant adeiladu tai ac yn arbennig buddsoddi yn sgiliau a gyrfaoedd y genhedlaeth nesaf.

2024 Cyfarfodydd

  • 6 Chwefror
  • 14 Mai
  • 1 Awst
  • 31 Hydref