Facebook Pixel
Skip to content

CITB yn lansio hyfforddiant recriwtio cynhwysol am ddim ar gyfer BBaChau

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio modiwlau hyfforddi digidol newydd, am ddim sydd wedi’u cynllunio i wneud recriwtio’n fwy cynhwysol, hygyrch ac effeithiol.

Sefydlodd CITB y Comisiwn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i helpu i ysgogi newid parhaol ar draws y diwydiant adeiladu trwy wella tegwch a sicrhau y gall pobl o bob cefndir ffynnu. Yn rhedeg tan fis Mawrth 2026, mae’r Comisiwn yn dwyn ynghyd arweinwyr a phartneriaid y diwydiant i ymgorffori arferion cynhwysol sy’n helpu adeiladu i ddenu talent newydd a chadw gweithwyr medrus.

Cynhelir yr hyfforddiant ar Hwb Cymunedol BBaChau, platfform ar-lein gan ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi (SCSS). Mae’r Hwb yn cynnal adnoddau wedi’u teilwra, hawdd eu llywio ar gyfer cyflogwyr BBaChau sy’n helpu i wneud hyfforddiant yn hygyrch i fusnesau nad oes ganddynt rôl fewnol bwrpasol ar gyfer y maes hwn. Mae’r hwb hefyd yn cynnig cyngor, canllawiau a deunyddiau hyfforddi ar draws amrywiaeth o bynciau fel cynaliadwyedd, caffael a Thegwch, Cynhwysiant a Pharch (FIR). At ei gilydd, mae ganddo dros 5,000 o adnoddau a 550 yn benodol ar gyfer FIR.

Bydd lansiad y modiwlau hyfforddi newydd yn helpu pobl sydd eisoes yn y diwydiant, ond mae CITB eisiau sicrhau bod y gweithlu adeiladu ehangach yn fwy amrywiol hefyd. Gyda chwe mis o hyd i fynd ar Gomisiwn EDI, mae nifer y cwmnïau unigryw a hyfforddwyd ar ddeunyddiau EDI eisoes wedi rhagori ar darged terfynol y prosiect o dros 36%. Mae nifer y cyflogwyr hynny sy’n fusnesau bach a chanolig / micro hefyd wedi rhagori ar y targed terfynol o 42%, gyda 1,985 o gyflogwyr bach a chanolig / micro unigryw wedi’u hyfforddi ar y deunyddiau. Hyd yn hyn mae 22,459 o unigolion unigryw wedi cael eu hyfforddi, gan ragori ar y targed o 14,800 o 52%.

Dywedodd Nadine Pemberton Jn Baptiste, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfreithiol, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth yn CITB:

“Ar draws y diwydiant, mae angen i ni sefydlu diwylliant sy’n sicrhau ei fod yn ceisio deall a diwallu anghenion pobl o bob cefndir. Rhaid i ni hefyd sefydlu norm newydd trwy ddangos y gallwn gadw pobl o wahanol gefndiroedd trwy gynnig gweithleoedd hyblyg ac amodau gwaith cynhwysol.

“Bydd lansiad y modiwlau hyfforddi digidol newydd, am ddim hyn yn helpu’r diwydiant i gyflawni hyn. Mae angen dros 47,000 o weithwyr newydd bob blwyddyn i fodloni’r galw a ragwelir. Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i’r afael â’r bwlch yn y gweithlu mewn gwirionedd yw drwy ddenu mwy o bobl o gefndiroedd mwy amrywiol i yrfaoedd mewn adeiladu.”

Dywedodd Christina Scant, Pennaeth Grŵp Adnoddau Dynol (AD), Core Highways:

“Fel busnes llai, yn aml nid oes gennym fynediad at dimau AD mawr nag arbenigwyr EDI, felly mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi mynediad i fusnesau llai fel ni at gyngor arbenigol, canllawiau, deunyddiau hyfforddi, templedi a phwynt cyswllt ar gyfer popeth sy’n ymwneud â thegwch, cynhwysiant a pharch.”

“Mae fy nhîm wrth eu bodd â’r adnoddau FIR i helpu i gefnogi, arwain ac uwchsgilio.”