CITB yn lansio prosiect diogelwch adeiladau i uwchsgilio gweithwyr ffasadau
Mae’r prosiect gwerth £250,000 yn anelu at uwchsgilio dros 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr.
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio prosiect gwerth £250,000 heddiw i uwchsgilio 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr er mwyn cyflymu’r gwaith adfer sydd ei angen ledled y wlad.
Mae 3B Training Ltd, sydd â’i bencadlys yn Wigan ac yn sefydliad hyfforddi achrededig gan CITB (ATO), ac sydd bellach yn rhan o Grŵp Morson, wedi ennill y contract dwy flynedd i ddarparu’r rhaglen beilot yn unig ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru.
Ym mis Rhagfyr 2024, mewn ymateb uniongyrchol i ganfyddiadau Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun Cyflymu Adfer, gan amlinellu ei huchelgais i gyflymu’r gwaith adfer ar adeiladau yn Lloegr sydd â gorchuddio anniogel.
Yn yr un modd, mae Llywodraeth yr Alban wedi lansio sawl cynllun, gan ddarparu miliynau mewn cyllid i gyflymu’r gwaith o asesu diogelwch adeiladau a’r gwaith adfer. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru hefyd ei Mesur Diogelwch Adeiladau (Cymru) ym mis Gorffennaf 2025 gyda’r nod o sefydlu llinellau cyfrifoldeb cliriach ar gyfer rheoli risgiau diogelwch adeiladau.
Er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn barod i gefnogi mentrau’r Llywodraeth, mae CITB wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr, y Llywodraeth, ac eraill i roi hyfforddiant wedi’i ddiweddaru ar waith ar gyfer archwilio a gosod ffasadau sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch tân gwell.
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targedau llym ar gyfer tynnu deunyddiau anniogel ac ar gyfer gosod systemau ffasâd sgrîn glaw gwell a chydymffurfedig ar adeiladau sy’n peri risg uchel. Mae prosiect CITB yn darparu cyfleoedd hyfforddi i osodwyr a goruchwylwyr yn y sector ffasâd sgrîn glaw i greu llwybrau clir a safonau hyfforddi.
Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Mae angen i bobl ledled y wlad deimlo’n sicr bod gennym weithlu cymwys a medrus i gyflawni’r gwaith adfer brys sydd ei angen i atal trychinebau fel tân Tŵr Grenfell rhag digwydd eto. Mae ein hymchwil yn dangos bod angen buddsoddiad i sicrhau bod gennym y gallu a’r cymhwysedd, felly rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth, y diwydiant, a’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu i gyhoeddi’r safonau newydd hyn ar gyfer darparwyr hyfforddiant ledled y wlad ac i gynyddu nifer y gosodwyr a’r goruchwylwyr cymwys cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG): “Rydym yn falch o gefnogi CITB a’r Grŵp Llywio Cymhwysedd Diwydiannol wrth lansio rhaglen hyfforddiant arloesol byr. Nod y fenter hon yw cynyddu nifer y gosodwyr ffasâd cymwys a’r goruchwylwyr safle, gan sicrhau bod gan y diwydiant y gallu i gyrraedd y targedau a osodwyd gan y Cynllun Cyflymu Adfer. Rydym yn annog rhanddeiliaid y diwydiant i fanteisio ar y cyfle hyfforddi hwn i gefnogi uchelgais y Llywodraeth o wneud adeiladau’n fwy diogel.”
Dywedodd Mathew Bewley, Rheolwr Gyfarwyddwr 3B Training Ltd: “Un o brif argymhellion Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell oedd bod gosodwyr systemau gorchuddio yn derbyn hyfforddiant safonol gorfodol. Yn ogystal â chael ein penodi i ddarparu’r hyfforddiant hwn, byddwn hefyd yn ffurfio grŵp llywio o arbenigwyr i helpu i ddiffinio cynnwys y cwrs.
“Mae’n ffynhonnell o falchder enfawr ac o gyfrifoldeb i gyflawni’r gwaith hwn a fydd yn cyflawni’r argymhelliad hwn ac yn helpu i sicrhau na all trychineb fel Grenfell ddigwydd eto.”
Bydd y cyrsiau hyfforddi ar gyfer gosodwyr a goruchwylwyr yn rhad ac am ddim, ac mae’n debygol y bydd y ddarpariaeth yn dechrau’n gynnar yn 2026 ac yn cael ei chynnal ledled y DU. Dylai partïon sydd am gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru diddordeb cynnar gysylltu â 3B Training drwy ei wefan: www.3Btraining.com.