Facebook Pixel
Skip to content

CITB yn lansio’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant i drawsnewid y ddarpariaeth hyfforddiant adeiladu

Bydd y rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant yn trawsnewid y ffordd y caiff hyfforddiant adeiladu ei ddarparu ledled Prydain Fawr drwy gydweithrediad gwirioneddol, cefnogaeth benodol, a mewnwelediadau wedi’u harwain gan gyflogwyr.

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio ei Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) heddiw – a fydd yn rhwydwaith sengl o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy, wedi’u sicrhau o ran ansawdd, ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru.

Er mwyn dod yn aelod, rhaid i ddarparwyr hyfforddiant ddarparu hyfforddiant sy’n berthnasol i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ac mae’n rhaid iddynt fodloni meini prawf sicrhau ansawdd sy’n benodol i’r math o hyfforddiant a ddarperir.

Bydd aelodau TPN yn gallu cysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr drwy fentrau fel Rhwydweithiau Cyflogwyr, gan gefnogi twf busnes, ac yn meithrin perthnasoedd cryfach â chyflogwyr, gan greu lleoliadau gwaith gwell a chyfleoedd cyflogaeth i rai sy’n newydd i’r diwydiant. Byddant hefyd yn derbyn cefnogaeth uniongyrchol gan dîm o reolwyr perthynas penodedig.

Bydd aelodau’r TPN yn cael eu cydnabod gan ddiwydiant adeiladu Prydain fel darparwyr hyfforddiant sy’n darparu hyfforddiant wedi’i sicrhau o ran ansawdd. Cefnogir y TPN gan Grŵp Arweinyddiaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grŵp amrywiol o ddarparwyr hyfforddiant.

Bydd y fenter newydd yn galluogi dull mwy integredig i CITB a’i chyflogwyr weithio’n agos gyda darparwyr hyfforddiant ac i wella hygyrchedd ac ansawdd hyfforddiant.

Drwy ddod â darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a CITB ynghyd ar lefel genedlaethol a lleol, bydd y TPN yn gallu:

  • Rhagweld anghenion hyfforddiant yn fwy cywir
  • Cynllunio darpariaeth yn strategol
  • Darparu hyfforddiant sy’n wirioneddol diwallu anghenion cyflogwyr
  • Cefnogi cynaliadwyedd a thwf busnes i ddarparwyr

Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol, Ymgysylltu’r Cenhedloedd yn CITB: “Mae popeth a wnawn yn CITB yn ymwneud â diwallu anghenion sgiliau a hyfforddiant y diwydiant.

“Mae darparwyr hyfforddiant yn bartneriaid hanfodol wrth yrru’r newid angenrheidiol, a dyna pam rydym yn lansio’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant. Bydd yn creu llwyfan i ddarparwyr hyfforddiant gael llais cryfach wrth lunio dyfodol hyfforddiant adeiladu.

“Bydd y rhwydwaith hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’n menter Rhwydweithiau Cyflogwyr, sydd wedi cael derbyniad da, fel bod gan gyflogwyr adeiladu fynediad at lwybr dibynadwy i hyfforddiant o ansawdd, pryd a lle mae ei angen.”

Mae datblygiad y TPN yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynlluniau Strategol a Busnes CITB, a lansiwyd yn gynharach eleni, i helpu i wella hyfforddiant a datblygiad yn y diwydiant ac i gadw gweithwyr presennol.