Facebook Pixel
Skip to content

Tocynnau cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau y Flwyddyn y DU nawr ar gael

Mae tocynnau ymwelwyr am ddim bellach ar gael i'w archebu ar gyfer cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau y Flwyddyn y DU (UKPOOTY) gan ddefnyddio'r ddolen yma. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Cylchgrawn UK Plant Operators (UKPO) tra'n gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), gan roi cyfle i ymwelwyr weld talent gweithredol peiriannau gorau'r DU yn cystadlu mewn amrywiaeth o heriau medrus iawn.

Bydd y digwyddiad, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, yn mwynhau ei drydedd rownd derfynol yn olynol yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol CITB (NCC) yn Bircham Newton, Norfolk.

Bydd cystadleuaeth UKPOOTY eleni – y digwyddiad gweithredwr peiriannau annibynnol mwyaf yn y DU – yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 6ed o Fedi a bydd yn cynnwys deg her unigryw i weithredwyr peiriannau arddangos eu sgiliau. Mae'r enillydd cyffredinol yn casglu'r brif wobr o £10,000, gyda gwobrau ariannol pellach yn cael eu dyfarnu i'r ail safle, yn ogystal â dyfarnu tlws a £250 i enillwyr pob her. Mae'r digwyddiad yn dwyn ynghyd y cystadleuwyr gweithredwyr peiriannau gorau, gweithgynhyrchwyr byd-eang, llogwyr peiriannau rhanbarthol a chenedlaethol a chontractwyr. Mae'r 'ŵyl adeiladu' hefyd yn cael ei mynychu gan weithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid y diwydiant, y rhai sydd eisiau ymuno â'r diwydiant, a'u teuluoedd.

Mae'r deg her categori unigryw yn cael eu cynnal ar yr un pryd i ddod o hyd i enillydd priodol, mae'r heriau'n cynnwys: Cloddwyr, Cloddwyr-Mini, Dadlwythwyr Safle, Llwythwyr â Bwced (Backhoes), Tryciau Dadlwytho Cymalog, Cylchdrowyr Gogwyddo (Tiltrotators), Bachellau (Grapple Grabs), Atodiadau Fforch, Teirw Dur ac Ymlusgwyr Dur (Dozers), a Llwythwyr ar Olwynion. Nid oes unrhyw gystadleuaeth weithredwr peiriannau arall yn y DU yn cynnig yr amrywiaeth o frandiau i gystadlu arnynt.

Mae gweithredwyr peiriannau yn un o'r galwedigaethau â’r mwyaf o alw yn y diwydiant adeiladu. Mae ymchwil ddiweddar gan CITB yn amcangyfrif bod angen dros 2,000 yn fwy o weithredwyr peiriannau ar y sector dros y pedair blynedd nesaf i gwrdd â'r twf adeiladu a ragwelir.

Mae diwrnod y rowndiau terfynol yn ddathliad o adeiladu, a bydd gan y brandiau sy'n noddi'r heriau stondinau i groesawu a rhyngweithio ag ymwelwyr, gan helpu i dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

Mae tocynnau ymwelwyr ar gyfer UKPOOTY ar gael nawr ar Eventbrite tan 6 Medi gan ddefnyddio'r ddolen yma.