Facebook Pixel
Skip to content

Grantiau cymwysterau cyfnod hir

Rydym yn talu grantiau am gymwysterau cymeradwy lefel uwch sy'n cymryd mwy na blwyddyn i'w cwblhau ac sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant.

Ar y dudlaen hon, gallwch weld y canlynol

Trosolwg

Rydym yn talu grantiau am fynychu a chyflawni cymwysterau cymeradwy lefel uwch sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant. Rydym yn cefnogi cyrsiau a wneir trwy ddysgu o bell ac e-ddysgu. Mae cymwysterau lefel uwch yn cynnwys:

  • Diploma a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs and HNDs)
  • Gradd
  • Cymwysterau ôl-raddedig

Nid yw'r grantiau hyn ar gyfer cymwysterau cyfnod hir yn cefnogi prentisiaethau. Gweler grantiau prentisiaeth am fanylion y gefnogaeth sydd ar gael.

Pwy all wneud cais am y grant hwn?

Gallwch wneud cais os ydych yn gyflogwr cofrestredig CITB ac yn gyfredol â’ch Ffurflenni Lefi. Yn ogystal â chyflawni telerau ac amodau ein Polisi Cynllun Grantiau a gofynion penodol ar gyfer y grant hwn.

Gallwch wneud cais am y grant hwn ar gyfer yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol ar y gyflogres a phob is-gontractwr.

Rhaid i’r dysgwr fod yn cwblhau’r cwrs yn rhan amser. Nid yw’r grant hwn ar gael i fyfyrwyr llawn amser neu fyfyrwyr ar leoliad.

Rhaid i chi allu cynnig y lefel briodol o brofiad gwaith i ddysgwr, fel y dylent dreulio o leiaf 16 awr yr wythnos yn gwneud y swydd y maent yn datblygu sgiliau ynddi. Gellir cyfrifo’r oriau hyn ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o bedair wythnos.

Os nad ydym yn fodlon eich bod yn darparu hyfforddiant digonol, gallwn leihau, atal neu adennill y grant.

Rhaid i chi hefyd ddweud wrthym ar unwaith os bydd eich dysgwr yn gadael ei raglen hyfforddi neu gyflogaeth. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at gamau i adennill gordaliadau.

Pa gyrsiau sy'n gymwys am grant?

Gweler restr lawn o'r cymwysterau sy'n gymwys am grant.

Faint yw'r grant?

£1,125 y flwyddyn am bresenoldeb wrth gwblhau’r cymhwyster, hyd at uchafswm o chwe blynedd. Mae’r grant hwn yn daladwy bob 13 wythnos.

Grant cyflawniad o £1,875 ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais am y grant hwn drwy borth Gwasanaethau Ar-lein CITB. Cofrestrwch neu fewngofnodwch i ddechrau arni.

Gwnewch gais ar-lein nawr

Dysgwch fwy am y porth Gwasanaethau Ar-lein, gan gynnwys:

  • sut i gofrestru a chael mynediad at eich cyflogwr
  • beth sydd ar gael yn y porth
  • canllawiau defnyddwyr a fideos yn dangos cam wrth gam sut i wneud cais am grant.

Ar gyfer grantiau presenoldeb:

  • Rhaid i chi wneud cais o fewn 52 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs er mwyn i'r grant gael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad hwnnw
  • Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 52 wythnos, dim ond hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y byddwn yn derbyn eich cais y gellir ôl-ddyddio'r grant.

Ar gyfer grantiau cyflawniad:

  • Gwnewch gais o fewn 52 wythnos i'r dyddiad cyflawniad.

Os na allwch ddefnyddio'r porth Gwasanaethau Ar-lein, gallwch wneud cais am grant drwy e-bost. Lawrlwythwch y ffurflen gais unigol i wneud cais am un cwrs, neu'r ffurflen gais swmp os ydych chi am wneud cais am sawl cwrs, a'i hanfon atom ni yn y cyfeiriad e-bost isod.

Ceisiadau presenoldeb

Cadwch ac e-bostiwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i grant.claimforms@citb.co.uk.

Atodwch gopi o'r dystiolaeth ategol gan y darparwr hyfforddiant. Ni ellir prosesu eich cais heb hyn.

Rhaid i'r dystiolaeth hon fod gan y darparwr hyfforddiant (megis o gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk) a chynnwys y canlynol:

  • Enw llawn y dysgwr
  • Teitl llawn y cwrs
  • Dyddiad cychwyn y cwrs

Ceisiadau cyflawniad

Cadwch ac e-bostiwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i grant.claimforms@citb.co.uk

Atodwch gopi o'r dystysgrif cyflawniad neu dystiolaeth arall o gyflawniad gan y corff dyfarnu. Rhaid i unrhyw dystiolaeth o'r fath gynnwys enw llawn y dysgwr, teitl y cyflawniad a dyddiad y cyflawniad. Ni ellir prosesu eich cais heb hyn.

I gael cymorth ar wneud cais am y grant hwn, gallwch gysylltu â'ch Cynghorydd CITB lleol neu ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0344 994 4455.

Taliadau grant presenoldeb

Byddwn yn anfon ffurflen neu hysbysiad e-bost atoch bob 13 wythnos i gadarnhau bod y dysgwr yn dal i fod mewn hyfforddiant a chyflogaeth. Rhaid i chi wneud y cadarnhad o fewn 3 mis i'r dyddiad cyhoeddi er mwyn parhau i dderbyn taliadau.

Os yw'r dysgwr yn gadael eich cyflogaeth, rhaid i chi roi gwybod i ni, a byddwn yn talu grant presenoldeb hyd at y dyddiad y gwnaethant adael.

Os yw dysgwr yn symud o un cyflogwr i'r llall yn ystod y cymhwyster, rhennir taliadau grant rhwng cyflogwyr yn ôl nifer y dyddiau o gyflogaeth y maent wedi'u treulio gyda phob un wrth gwblhau'r cymhwyster.

Ar ôl cyflawni'r cymhwyster, byddwn yn talu grant presenoldeb hyd at y dyddiad dysgu olaf.

Newid lefelau neu grefftau

Gallwch wneud cais am y grant hwn os yw dysgwr yn symud ymlaen i lefel uwch o fewn crefft neu'n gwneud ail gymhwyster cyfnod hir mewn maes galwedigaethol gwahanol. Gallwch wneud cais am grant ar gyfer hyd at ddau gymhwyster cyfnod hir fesul unigolyn.

Grantiau eraill

Ni allwch dderbyn grant cymhwyster byr ar gyfer NVQ yn yr un alwedigaeth ag y mae eich dysgwr yn cyflawni ei gymhwyster cyfnod hir.

A ydych wedi anfon eich manylion banc atom?

Telir grantiau trwy drosglwyddiad banc. Os nad oes gennym eich manylion banc cyfredol, cwblhewch a chyflwynwch y Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol Bacs ddiogel ar-lein i dderbyn taliadau grant.