Facebook Pixel
Skip to content

Hybiau Profiad ar y Safle - Cymru a Lloegr

Rhwng 2021 a 2025, ein nod yw cynyddu cronfa dalent adeiladu Lloegr drwy Hybiau Profiad ar y Safle, gan greu llif o dalent i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu lleol a galluogi cyfleoedd gyrfa adeiladu i bobl o gymunedau lleol. Mae £9.5m o gyllid wedi’i gymeradwyo i alluogi dros 8,400 o bobl i fod yn barod ar gyfer gwaith a safleoedd, ac o leiaf 4,750 o bobl i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy dros chwe blynedd.

Rhwng 2021 a 2026, ein nod yw cynyddu cronfa dalent adeiladu Cymru, gan greu llif o dalent i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu lleol a galluogi cyfleoedd gyrfa adeiladu i bobl o gymunedau lleol. Mae £4.2m o gyllid wedi’i gymeradwyo i alluogi 2,250 o bobl i fod yn barod ar gyfer gwaith a safleoedd, ac o leiaf 1,500 o bobl, llawer ohonynt mewn cymunedau anghysbell, i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Mae’r comisiwn hwn yn targedu ardaloedd Partneriaeth Menter leol (LEP) nad ydynt wedi elwa o Gronfa Sgiliau Adeiladu’r Llywodraeth.

Beth mae Hybiau Profiad ar y Safle yn ei ddarparu i’r diwydiant adeiladu

Mae Hybiau Profiad ar y Safle wedi’u cynllunio i ddarparu ateb un-stop ar gyfer recriwtio i gyflogwyr adeiladu. Trwy gysylltu cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, awdurdodau lleol, LEPs, asiantaethau cymunedol ac eraill, mae’r hybiau’n galluogi datblygiad pobl o gymunedau lleol sy’n barod ar gyfer gwaith a safleoedd. Gellir cysylltu’r ymgeiswyr addas hyn â swyddi gweigion cyflogwyr, ac oherwydd eu bod wedi cael rhywfaint o brofiad cychwynnol ar safleoedd adeiladu, yn aml gyda’r cyflogwyr sy’n recriwtio, ac wedi cael yr hyfforddiant cychwynnol a’r cymwysterau iechyd a diogelwch angenrheidiol, gallent fod yn gynhyrchiol ar unwaith.

Cysylltu â’ch Hwb Profiad ar y Safle lleol

P’un a ydych yn gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd yn barod ar gyfer safleoedd i lenwi eich swyddi gweigion, neu’n unigolyn yn chwilio am yrfa yn y diwydiant adeiladu, gall eich Hwb Profiad ar y Safle CITB lleol ddarparu cymorth a chyngor i chi.

Mae gan y meysydd Partneriaeth Menter Leol (LEP) canlynol yng Nghymru a Lloegr Hybiau Profiad ar y Safle CITB:

Enw’r Hwb – Hwb Profiad ar y Safle Procure Plus

Lleoliad – Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru

Sefydliad arweiniol – Procure Plus

Cyswllt – Wiktor Morrell 07393 792497, 0303 030 0030, wiktor.morrell@procure-plus.com

Gwefanwww.procure-plus.com

Cyfryngau Cymdeithasolwww.linkedin.com/company/procure-plus-ltd

Enw’r Hwb – Hwb Adeiladu ar y Safle Caerlŷr

Lleoliad – Caerlŷr

Sefydliad arweiniol – Cyngor Dinas Caerlŷr

Cyswllt – Richard Thorpe 07541 612726 Richard.thorpe@leicester.gov.uk

Enw’r Hwb – Hwb Profiad ar y Safle The Skills Centre (Llundain)

Lleoliad – Ardal Partneriaeth Gweithredu Economaidd Llundain (LEAP)

Sefydliad arweiniol – The Skills Centre Ltd

Cyswllt – Maria Richards 0204 531 9020 maria.richards@theskillscentre.co.uk

Gwefanwww.theskillscentre.co.uk

Enw’r Hwb – Constructing Lives Together

Lleoliad – Gorllewin a De Orllewin Lloegr

Sefydliad arweiniol – Greenlight Training Ltd

Cyswllt – Harvey Smith 07891 768425, hsmith@greenlightsc.co.uk

Enw’r Hwb – Academi Adeiladu ar y Safle De Ddwyrain Cymru

Lleoliad – Caerdydd

Sefydliad arweiniol – Cyngor Caerdydd

Cyswllt – 07929 732730 ConstructionAcademy@cardiff.gov.uk

Enw’r Hwb – Hwb ar y Safle De Orllewin Cymru

Lleoliad – Rhydaman, De Orllewin Cymru

Sefydliad arweiniol – Cyfle Building Skills Ltd

Cyswllt – 01554 748181 info@swwrsa.co.uk

Gwefanhttp://cyflebuilding.co.uk

Cyfryngau Cymdeithasolhttps://twitter.com/cyflebuilding?lang=en