Facebook Pixel
Skip to content

Prosiectau A Ariennir Sydd Ar Gael

Enw’r Prosiect: Sesiynau Blasu Rhithiol

Partneriaid Dan Gontract: Careers Collective Ltd

Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo adeiladu fel llwybr gyrfa uchelgeisiol ac yn cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gyrfa da trwy fideo rhagflas tair munud a deunyddiau dysgu ategol.

Gwyliwch y fideo yma: Am Adeiladu a CITB yn Archwilio Adeiladu: Adeiladu Dyfodol Cyffrous
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Careers Collective Ltd

Enw’r Prosiect: Sesiynau Blasu Yr Alban

Partneriaid Dan Gontract: The Edinburgh Chamber of Commerce and Manufactures

Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo adeiladu fel llwybr gyrfa uchelgeisiol mewn modd gadarnhaol ac yn cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gyrfa da trwy gyfres o ddogfennau canllaw i roi eglurder i gyflogwyr ar sut i ddarparu rhagflas o ansawdd da gan gynnwys cynlluniau rhagflas ar gyfer safleoedd adeiladu mawr a bach ac ar draws meysydd sgiliau allweddol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Construction Work Tasters.

Enw’r Prosiect: Dosbarthiadau Meistr mewn Gwaith Brics

Partneriaid Dan Gontract: Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ac Arolygwyr Adeiladau NHBC
Mae’r prosiect hwn yn cyflwyno sesiynau sy’n cynnig arweiniad ymarferol ar wella ansawdd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o arfer da mewn gwaith brics.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch: Dosbarth Meistr mewn Gwaith Brics wedi’i ariannu’n llawn – Siop NHBC

Enw’r Prosiect: Uwchsgilio Gwaith Brics

Partneriaid Dan Gontract: Canolfan Asesu ABC

Cyrsiau hyfforddiant o ansawdd uchel ar y safle ac oddi ar y safle ar gyfer Bricwyr, trwy ddarparu 16 o gyrsiau hyfforddiant byr a gynigir i’r rheiny mewn addysg bellach a gweithwyr medrus. Cefnogi’r hyfforddiant o diwtoriaid addysg bellach i alluogi darpariaeth barhaus wedi i’r cyllid dod i’w ben.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Canolfan Asesu ABC – NVQs Hyfforddiant fel Briciwr y DU ac Adeiladu

Enw’r Prosiect: Creu cyrsiau newydd mewn Gosod Brics yn seiliedig ar Safonau newydd

Partneriaid Dan Gontract: Canolfan Asesu ABC

Creu cyrsiau hyfforddiant o ansawdd uchel ar y safle ac oddi ar y safle ar gyfer Bricwyr, trwy lansio 16 o gyrsiau hyfforddiant byr a gynigir i’r rheiny mewn addysg bellach a gweithwyr medrus.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Creu cyrsiau newydd mewn Gosod Brics neu’r Canolfan Asesu ABC.

Enw’r Prosiect: Cyflenwi Uniongyrchol Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Partneriaid Dan Gontract: The OM Group, Danny Sullivan and Sons Ltd, MKC Training Services Ltd

Bydd y comisiwn Cyflenwi Uniongyrchol Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn rhedeg o fis Rhagfyr 2022 tan 31 Mawrth 2025 a bydd yn darparu 10,500 o gyrsiau arweinyddiaeth a rheolaeth ILM am ddim i reolwyr rheng flaen, goruchwylwyr safle a rheolwyr safle yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae yna becyn wedi’i gynllunio ymlaen llaw o 5 modiwl sy’n ymdrin â’r dysg craidd sydd ei angen i fod yn arweinydd gwych. Â chanlyniadau mesuradwy: mae asesiad yn y gweithle yn sicrhau bod sgiliau newydd yn cael eu trosglwyddo’n effeithiol i’ch busnes.

Mae lleoedd ar gyrsiau cymhwyster ILM am ddim yn cael eu darparu gan y partneriaid hyfforddi canlynol:

The OM Group (Yr Alban, Cymru, Gogledd Lloegr a De Lloegr). Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.

Danny Sullivan and Sons Ltd (De Lloegr). Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.

MKC Training Services Ltd (De Lloegr). Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.

I gael rhagor o fewnwelediad a gwybodaeth am y comisiwn hwn, gweler sleidiau CITB ac ILM (PowerPoint, 4.72MB) neu gwrandewch ar weminar a wneir ar y cyd rhwng CITB ac ILM. Yn y gweminar hwn, rhannodd ILM a CITB newyddion am y mudiad sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector adeiladu, gan gynnwys:

  • Pam mae CITB yn buddsoddi mewn hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer y sector adeiladu
  • Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym
  • Nodweddion a manteision y cymhwyster ILM
  • Hyblygrwydd y cynnig
  • Tystiolaeth dysgwyr
  • Cyllid a chymhwysedd
  • Cyflwyniad i’r darparwyr
  • Beth nesaf? Sut i gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ar gael?

Enw’r Prosiect: Arweinyddiaeth Ddigidol

Partneriaid Dan Gontract: Grŵp Hyfforddi Adeiladu Swydd Gaerloyw, Prifysgol Leeds Beckett, Setting out for Construction ac Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi

Mae’r ymyriad hwn yn cynnwys 4 prosiect sy’n canolbwyntio ar roi’r sgiliau i arweinwyr adeiladu ysgogi newid digidol.

I gael rhagor o wybodaeth am bob prosiect ewch i’r dolenni isod:

Grŵp Hyfforddi Swydd Gaerloyw

Prifysgol Leeds Beckett neu Arweinyddiaeth Ddigidol LBU

Setting Out for Construction

Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi neu Lawrlwytho Modiwl Hyfforddi Meddylfryd Digidol

Enw’r Prosiect: Comisiwn Hyfforddiant GIRI

Partneriaid Dan Gontract: BAM Nuttall Ltd, Vinci PLC, Kie Infrastructure & Overseas Ltd a VolkerStevin Infrastructure Ltd

Mae comisiwn hyfforddiant GIRI (Get It Right Initiative) i gefnogi ac i gyflogwyr ddod yn Ddarparwyr Hyfforddiant Cymeradwy GIRI gan felly arfogi hyfforddwyr mewnol priodol â’r sgiliau, y wybodaeth a’r offer i gyflwyno hyfforddiant achrededig GIRI i tua 5,000 o unigolion o fewn eu gweithlu a’u cadwyn gyflenwi eu hunain. Bydd y comisiwn hefyd yn rhoi cyfle i gynhyrchu a chasglu tystiolaeth o fanteision yr hyfforddiant o ran yr effaith ar gynhyrchiant a chost ac amlder gwallau ar brosiectau a sefydliadau.

Mae cynllun hyfforddi achrededig GIRI yn targedu achosion sylfaenol gwallau yn uniongyrchol ac yn grymuso cwmnïau, timau prosiect ac unigolion i wneud pethau’n gywir y tro cyntaf. Mae cyrsiau GIRI yn galluogi gweithwyr i ddatblygu’r sgiliau cywir i ddeall ar y cyd, rhagdybio ac osgoi gwallau yn eu gwaith bob dydd.

Y tair ffrwd o hyfforddiant yw:

  1. Hyfforddiant arweinyddiaeth – Strategaethau i ddileu gwallau, ar gyfer arweinwyr sefydliadau ac arweinwyr prosiectau adeiladu
  2. Hyfforddiant ar draws rhyngwynebau – Technegau i osgoi gwallau rhyngwyneb mewn dylunio ac adeiladu, ar gyfer rheolwyr a dylunwyr
  3. Sgiliau goruchwylio a rheoli – Sgiliau goruchwylio a chynllunio i atal gwallau yn ystod y gwaith adeiladu, ar gyfer goruchwylwyr a rheolwyr safle.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Comisiwn Hyfforddiant GIRI - Vinci PLC, neu Comisiwn Hyfforddiant GIRI - BAM Nuttall Ltd.

Enw’r Prosiect: Iechyd Meddwl ar gyfer Prentisiaid Adeiladu

Partneriaid Dan Gontract: Optima UK Inc Ltd

Bydd y cynllun peilot hwn yn darparu tystiolaeth sy’n cyfrannu at fynd i’r afael â phroblemau allweddol y diwydiant o ran cyfraddau cwblhau prentisiaethau ac atal colli talent trwy ddarparu cymorth iechyd meddwl a hyfforddiant ymwybyddiaeth i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant adeiladu. Byddai hyn yn helpu i ddeall sut y gall addysg a chymorth iechyd meddwl gyfrannu at wella cyfraddau cadw unigolion yn ystod eu prentisiaethau adeiladu, yn ogystal â lleihau eu tebygolrwydd o argyfwng iechyd meddwl pan fyddant yn y gweithle.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: ARE-U-OK-UK (optima-uk.com) neu Iechyd Meddwl.

Enw’r Prosiect: Tegwch, Cynhwysiant a Pharch

Partneriaid Dan Gontract: Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) ac Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi

Mae'r prosiect hwn yn darparu ystod o hyfforddiant sy'n hyrwyddo diwylliant o degwch, cynhwysiant a pharch (FIR). Mae’r prosiect hwn hefyd yn helpu arweinwyr a rheolwyr yn y diwydiant adeiladu i wella cynhwysiant ac i hyfforddi Llysgenhadon FIR i ledaenu’r manteision ar draws y diwydiant.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Prosiect FIR neu SCS - FIR.

Enw’r Prosiect: Lles mewn Adeiladu

Partneriaid Dan Gontract: Laing O’Rourke, Clwb Lighthouse a Samariaid

Paratoi’r diwydiant adeiladu’n well i reoli materion iechyd meddwl, lles a gwytnwch y maent yn dod ar eu traws yn y gweithle, trwy ddatblygu a darparu hwb dysgu digidol iechyd meddwl a lles. Â ffocws ar ficro-sefydliadau anodd eu cyrraedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Lles mewn Adeiladu.

Enw’r Prosiect: Cyfleoedd Adeiladu yn Lloegr

Partneriaid Dan Gontract: Abbey Access Centre Ltd, Barking Riverside Ltd, Gement, Cyngor Sir Hampshire, Landau Ltd, NFRC, WMCA, Merched mewn Adeiladu

Bydd y comisiwn hwn yn canolbwyntio ar y cymorth a ddarperir yn y gweithle yn ystod blwyddyn gyntaf newydd-ddyfodiaid yn y diwydiant adeiladu. Gwneir hyn trwy goetsio swydd, mentora, ymgysylltu â chyflogwyr, cynlluniau cyfeillio neu fesurau cymorth priodol eraill i wella ansawdd a chadw newydd-ddyfodiaid.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Enw’r Prosiect: Academi Cyfleoedd Adeiladu’r Alban

Partneriaid Dan Gontract: Barnardo’s, Comhairle Nan Eilean Siar

Diben y comisiwn hwn ar gyfer yr Alban yw darparu cymorth i unigolion sy’n ymuno â’r gweithlu adeiladu i oresgyn unrhyw heriau cychwynnol y gallent eu hwynebu a darparu cymorth parhaus yn y gwaith dros gyfnod y comisiwn i wella ansawdd a hirhoedledd canlyniadau gwaith i gyfranogwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Enw’r Prosiect: Gyrfaoedd mewn Llogi

Partneriaid Dan Gontract: Hire Association Europe

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau mynediad a chodi ymwybyddiaeth o’r sector i bobl nad oeddent erioed wedi ystyried llogi fel opsiwn gyrfa hyfyw, gan gynnwys dylanwadu ar benderfynwyr trwy ymgyrch farchnata/hyrwyddo gynhwysfawr.

I gael rhagor o wybodaeth am Yrfaoedd mewn Llogi, ewch i: Hyfforddiant a Phrentisiaethau (hae.org.uk)

Enw’r Prosiect: Hybiau Profiad ar y Safle

Yn 2019 lansiodd CITB yr Hybiau Profiad ar y Safle i helpu i fynd i’r afael â’r heriau recriwtio cymhleth sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Nod yr Hybiau yw darparu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant sy’n barod am swydd ac sydd wedi cael profiad ar y safle.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dolenni isod:

Partneriaid Lloegr

Hybiau Profiad ar y Safle yn Lloegr – Mae naw Hwb Profiad ar y Safle yn weithredol.

Partneriaid Cymru

Hybiau Profiad ar y Safle yng Nghymru – Mae pedwar Hwb Profiad ar y Safle yn weithredol.

Enw’r Prosiect: Dosbarthiadau Meistr mewn Toi

Partneriaid Dan Gontract: Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ac Arolygwyr Adeiladau NHBC

Bydd y prosiect hwn yn datblygu ac yn cyflwyno sesiynau dosbarth meistr sy’n cynnig arweiniad ymarferol ar wella ansawdd a hybu ymwybyddiaeth o arfer da ym maes toi.

Enw’r Prosiect: RoofCERT

Partneriaid Dan Gontract: NFRC

Mae’r prosiect hwn wedi sefydlu ac yn hyrwyddo safonau ar draws y diwydiant ar gyfer yr holl ddisgyblaethau toi trwy raglen “Töwr Achrededig”, o’r enw RoofCERT, a fydd yn gweithredu fel llinell sylfaen sgiliau ar gyfer y sector a bydd yn proffesiynoli’r diwydiant.

Am ragor o wybodaeth, ewch yma neu wefan RoofCERT.