You are here:
Cynlluniau Cenedl
Ar y dudalen hon:
Trosolwg
Yn dilyn ein Cynllun Busnes, mae ein Cynlluniau Cenedlaethol yn nodi pa weithgareddau y bydd CITB yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.
Ac fel ein Cynllun Busnes, mae'r Cynlluniau Cenedlaethol yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thri maes blaenoriaeth:
- Hysbysu a galluogi pobl amrywiol a medrus i mewn i adeiladu
- Datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion presennol a'r dyfodol
- Cefnogi'r diwydiant i hyfforddi, datblygu a chadw ei weithlu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr heriau hyn trwy ymweld â’n Cynllun Busnes.
Byddwn yn hysbysu ac yn galluogi pobl amrywiol a medrus i mewn i'r diwydiant adeiladu drwy:
- Rhoi cyfle i dros 800 o ddysgwyr amser llawn ddysgu am sut mae adeiladu'n gweithio'n ymarferol trwy ein digwyddiadau mewnwelediad i'r diwydiant a ddarperir gan bartneriaid, gan gynnwys Open Doors, Gweld Eich Safle, Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol a digwyddiadau merched mewn adeiladu
- Parhau i ariannu a chefnogi ein tri Hwb Profiad ar y Safle yng Nghymru i ddarparu profiad Gwaith ymarferol a chyfleoedd porth i oedolion sy'n edrych i gael cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu
- Hwyluso a chefnogi Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol, gan gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Medr, colegau addysg bellach, cyflogwyr, a rhanddeiliaid ehangach i hyrwyddo adeiladu fel gyrfa o ddewis.
Byddwn yn datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion presennol a rhai’r dyfodol drwy:
- Sicrhau bod yr holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, safonau cyfnod byr, NVQs a Phrentisiaethau yng Nghymru yn gyfredol ac yn addas at y diben. Byddwn yn ymgysylltu â Medr i sicrhau bod y gwaith hwn wedi'i alinio, lle bo modd, â datblygu Fframweithiau Cymhwysedd
- Parhau i weithio'n agos gyda Medr, Cymwysterau Cymru, colegau, darparwyr hyfforddiant, a chyflogwyr yn archwilio newidiadau posibl I gymwysterau prentisiaeth gyda'r nod o wella dechreuadau, cadw a chanlyniadau o'r rhaglen
- Datblygu Fframweithiau Prentisiaeth Lefel 4 a Lefel 5 newydd ar gyfer peirianneg sifil a thirfesur
Byddwn yn cefnogi'r diwydiant i hyfforddi, datblygu a chadw ei weithlu drwy:
- Sicrhau bod ein tri Rhwydwaith Cyflogwyr Cymru yn darparu dros £1 miliwn o hyfforddiant wedi'i ariannu wrth y ffynhonnell sy'n diwallu anghenion sgiliau diwydiant lleol
- Ail-gydbwyso cymhellion grant a chyllid i annog cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu i gymhwysedd a datblygu cofrestr hyfforddi, gan ddal cofnodion manwl o gyflawniadau cymhwysedd a hyfforddiant unigolion
- Parhau i hyrwyddo a chyflwyno ein Safon Mentora newydd ar gyfer cyflogwyr sy’n cyflogi prentis