Mae delweddau gan deledu cylch cyfiyg (CCTV) o unigolyn y gellir ei adnabod yn cael eu trin fel data personol yn ôl cyfraith ddiogelu data.
Sut rydym yn defnyddio CCTV
Rydym yn defnyddio CCTV i:
- Gynnal diogelwch a diogeledd ein heiddo, safleoedd, a phobl
- Atal ac ymchwilio i droseddau
- Monitro staff
- Cynorthwyo gweithdrefnau disgyblu mewn achosion o gamymddygiad difrifol.
Ble rydym yn defnyddio CCTV
Mae CCTV yn cael ei ddefnyddio yn lleoliadau ein swyddfeydd, sef;
- Bircham Newton - Kings Lynn Norfolk PE31 6RH
- Glasgow - 4 Fountain Avenue, Inchinnan, Renfrewshire, PA4 9RQ
- • Pen-y-bont Ar Ogwr - Unedau 4 a 5, Canolfan Fusnes Pen-y-bont Ar Ogwr, David Street, Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont Ar Ogwr Pen-y-bont Ar Ogwr, CF31 3SH
- Caint - Manor Road, Erith, Caint, DA8 2AD
- Birmingham - 83 Lifford Lane, King’s Norton, Birmingham, B30 3JH
- Llundain - 12 Carthusian Street, Llundain, EC1M 6EZ
- Caerlŷr - Unedau 1 a 2, 674 Melton Road, Thurmaston, Swydd Gaerlŷr, LE4 8BB
- Llundain (Waltham forest) - Hollydown Way, Leytonstone, Llundain, E11 4DD
Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth
Gweithredir ein system CCTV o ystafell reoli diogelwch hunangynhaliol, y mae mynediad ati wedi'i gyfyngu i'r goruchwyliwr diogelwch, staff diogelwch contract, Rheolwr Ystadau a Chyfleusterau CITB, Swyddog Cydymffurfio Contractau Ystadau CITB, a Derbynnydd CITB.
Lle bo angen, efallai y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth delwedd CCTV â/ag:
- Yr unigolyn yn y ddelwedd
- Cyflogeion ac asiantau
- Darparwyr gwasanaethau
- Heddluoedd
- Sefydliadau diogelwch
- Unigolion sy'n gwneud ymholiad.
Am faint o amser rydym yn ei chadw
Oni bai fod arnom eu hangen ar gyfer ymchwiliad gweithredol, rydym yn cadw delweddau sydd wedi'u recordio am 30 diwrnod. Wedi hynny, mae'r delweddau'n cael eu trosysgrifio'n awtomatig gan y cyfarpar recordio.
Rydym yn dinistrio recordiadau sy'n rhan o ymchwiliad gweithredol cyn gynted ag nad oes eu hangen mwyach.
Eich hawliau
Gallwch ofyn am gopi o'ch gwybodaeth a recordiwyd gan CCTV, ac eithrio o dan rai amgylchiadau a ddisgrifir gan ddeddfwriaeth berthnasol. Nid oes gennych yr hawl i fynediad di-oed.