Facebook Pixel
Skip to content

Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB
Cyngor i fusnesau adeiladu canolig

Paratoi ar gyfer twf gyda hyd at £25,000 ar gyfer hyfforddiant

Ar gyfer beth y mae’r gronfa hon?

Daliwch ati i ddatblygu eich busnes gyda help Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB. Rydym yn cefnogi busnesau canolig eu maint gyda hyd at £25,000 i uwchsgilio eich staff ar gyfer y dyfodol.

Gellir defnyddio’r arian ar gyfer hyfforddiant arwain a rheoli neu adeiladu a fydd yn diwallu anghenion eich tîm. Yn y pen draw, bydd mabwysiadu sgiliau newydd yn eich galluogi i wneud y gorau o arbedion effeithlonrwydd a pharhau i ehangu eich refeniw, gyda thîm llawn cymhelliant sy’n barod at y dyfodol.

Pwy all wneud cais am gyllid?

Byddwch yn gymwys i wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • Mae gennych rhwng 100 a 250 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol ar eich cyflogres
  • Rydych chi’n gyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB
  • Mae unrhyw brosiect blaenorol y mae’r Gronfa wedi talu amdano wedi cael ei gymeradwyo fel prosiect sydd wedi’i gwblhau.

Faint allwch chi wneud cais amdano?

Gallwch wneud cais am gyllid sy’n ymwneud â faint o weithwyr uniongyrchol sydd gennych chi:

  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 100 a 149 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol dderbyn hyd at £15,000
  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 150 a 199 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol dderbyn hyd at £20,000
  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 200 a 250 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol dderbyn hyd at £25,000.

Pa mor aml allwch chi wneud cais?

Gallwch wneud cais am gyllid unwaith bob 12 mis.

Cyn i chi wneud cais

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y dogfennau hyn:

Dylech hefyd drafod eich cais gyda’ch Cynghorydd CITB lleol. Bydd yn fodlon helpu a sicrhau eich bod wedi llenwi eich ffurflen gais yn gywir.

Sut mae gwneud cais

  1. I wneud cais, llwythwch ffurflen gais y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant (Excel, 375KB) i lawr a’i chadw.
  2. Llenwch bob maes, a chadw’r ffurflen yn rheolaidd i atal colli data.
  3. Cadwch ac anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi at skills.training@citb.co.uk.

Gwnewch yn siŵr bod y gweithgaredd hyfforddi rydych chi’n ei nodi yn digwydd yn y dyfodol, ac nid wedi digwydd yn y gorffennol. Nid ydym yn gallu ariannu gweithgareddau sydd wedi digwydd yn barod.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Asesu ceisiadau

Bydd y tîm Sgiliau a Hyfforddiant yn adolygu pob cais ar ddiwedd pob cyfnod cyflwyno (fel arfer ar ddiwedd pob mis calendr).

Dylech gael penderfyniad gennym drwy e-bost tua’r 15fed o’r mis ar ôl i’ch cais gael ei gyflwyno. Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais unrhyw bryd yn ystod mis Gorffennaf, byddwn yn dweud wrthych am ein penderfyniad tua 15 Awst. Byddem yn gwerthfawrogi pe na baech yn gofyn i ni am ymateb yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad cyn gynted â phosibl.

Penderfyniadau ynghylch ceisiadau

Byddwn yn adolygu ac yn sgorio pob cais yn erbyn meini prawf y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant (fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd (PDF, 193KB)) ac yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad.

Cymeradwyo:

Os bydd eich cais yn bodloni meini prawf y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant, caiff ei gymeradwyo a’i brosesu i’w dalu. Byddwch yn derbyn e-bost gyda rhestr daliadau.

Bydd taliadau’n cael eu gwneud bob chwarter, ar yr amod bod digon o dystiolaeth bod hyfforddiant yn cael ei gwblhau ar garreg filltir pob taliad.

Gwrthod:

Mae’n bosibl y caiff eich cais ei wrthod os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • Nid yw eich cais yn bodloni meini prawf y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant
  • Nid ydych chi wedi cyflwyno eich ffurflen Lefi ddiweddaraf
  • Rydych chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau Lefi

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pam ein bod wedi gwrthod eich cais neu byddwn yn rhoi gwybod i’ch Cynghorydd CITB. Gallwch ail-gyflwyno cais gwell yn y dyfodol.

Monitro a chwblhau hyfforddiant

Ar ôl i’r taliad cyllid gael ei gymeradwyo, gallwch ddechrau eich gweithgaredd hyfforddi.

Byddwch yn cael eich talu bob chwarter, a bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r gwariant cyn y bydd taliad pellach yn cael ei ryddhau.

Mae’n bwysig eich bod yn cadw pob anfoneb, i ddangos bod yr hyfforddiant wedi cael ei gynnal. Fel rhan o’ch cytundeb cyllido, byddwch yn derbyn e-bost atgoffa yn gofyn am dystiolaeth o wariant bob chwarter.

Dylid anfon eich tystiolaeth wedi’i chasglu at skills.training@citb.co.uk cyn pen 28 diwrnod i dderbyn yr e-bost. Os ydych chi’n cael trafferthion cwblhau eich rhaglen hyfforddi, cysylltwch â ni i ofyn am estyniad.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi arolwg i rannu eich adborth â ni.

Bydd eich cyfraniad yn ein helpu i wella’r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant yn barhaus.

Beth fydd yn digwydd os bydd amgylchiadau’n newid?

Os bydd eich anghenion busnes yn newid, cysylltwch â skills.training@citb.co.uk cyn gynted â phosibl a gallwn drafod trefniadau eraill gyda chi. Gallai hyn arwain at ddychwelyd yr arian neu gytuno ar amserlen hyfforddi newydd.

Cyhoeddusrwydd a chyfathrebu

Efallai y byddwn yn dymuno cyhoeddi manylion eich prosiect ar ein gwefan ar ôl i’r cyllid gael ei gymeradwyo a gofyn am gael gweithio gyda chi i ddatblygu datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos neu fideos hyrwyddo sy’n ymwneud â’ch prosiect naill ai yn ystod y cyfnod cyflawni, neu ar ôl cwblhau.