Datganiad cais
Mae hon yn ddogfen gyfreithiol ategol y dylech ei darllen cyn llenwi ffurflen gais ar gyfer y gronfa hyfforddi arloesi Cydweithredol neu gronfa prosiectau a gomisiynwyd gan CITB.
Pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen gais, bydd gofyn i chi gadarnhau y gallwch ateb YDW i bob cwestiwn Lefi CITB a chyllid craidd, gofynion gorfodol, gwybodaeth ariannol a gofynion polisi a systemau rheoli.
Cwestiynau 1 a 2 - yn berthnasol i bawb sy'n gwneud cynnig sy'n gyflogwr adeiladu cofrestredig Lefi'n unig
Cwestiynau 3, 4, 5, 6 a 7a - yn berthnasol i bawb sy'n gwneud cynnig yn ychwanegol at yr uchod
Cwestiwn 7b - dim ond yn berthnasol i gynigwyr pob opsiwn dros
£50,000
Pob cyflogwr adeiladu cofrestredig y Lefi sy'n cynnig i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r ddau gwestiwn canlynol
Pob cyflogwr adeiladu cofrestredig y Lefi sy'n cynnig i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r ddau gwestiwn canlynol |
Cwestiwn | Ateb |
C1: Lefi CITB | Rwyf / rydym yn cadarnhau fy mod i / ni yn gyflogwr cofrestredig â Lefi CITB. |
C2:Lefi CITB | Rwyf / rydym yn cadarnhau fy mod i / ni yn gyfoes â'n taliadau Lefi CITB a'n Ffurflenni Lefi. |
Pawb sy'n gwneud cynnig sy'n gofyn am unrhyw swm o gyllid dros £10,000 i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r cwestiynau canlynol
Pawb sy'n gwneud cynnig sy'n gofyn am unrhyw swm o gyllid dros £10,000 i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r cwestiynau canlynol
Cwestiwn | Ateb |
C3: Meini Prawf cyllid craidd | Rwyf / rydym yn cadarnhau fy mod i / ni yn bodloni'r meini prawf cyllid craidd fel y nodir yn y nodiadau canllaw.. |
C4:Gwaharddiadau gorfodol | Rwyf / rydym yn cadarnhau nad oes unrhyw un o'r collfarnau neu'r seiliau a nodir yn adran 1 isod, yn gymwys i'r cynigydd nac unrhyw un o'i gyfarwyddwyr neu unigolion eraill y cyfeirir atynt yn adran 1. |
C5: Yswiriant | Rwyf / rydym yn cadarnhau y gallaf / gallwn ddarparu'r lefelau isaf o yswiriant a nodir yn adran 2 isod, neu ddarparu tystiolaeth o'n parodrwydd i gael y sicrwydd gofynnol pe byddem yn llwyddiannus. |
C6: Polisiau | Rydw i / rydym yn cadarnhau y gallaf i / gallwn ateb YDW i'r holl ofynion polisi a restrir yn adran 3 isod. |
C7a: Ariannol | Rwyf / rydym yn cadarnhau y gallaf / gallwn ddarparu ar gais, un o'r eitemau a ganlyn a restrir yn adran 4a isod i ddangos ein statws economaidd / ariannol. |
Pawb sy'n gwneud cynnig sy'n gofyn am dros £50,000 o gyllid yn unig, i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r cwestiwn canlynol
Pawb sy'n gwneud cynnig sy'n gofyn am dros £50,000 o gyllid yn unig, i gadarnhau y gallant ateb YDW i'r cwestiwn canlynol |
C7b: Ariannol | Rwyf / rydym yn cadarnhau y gallaf / gallwn gyrraedd y trothwy isaf ar gyfer meini prawf ariannol fel y nodir yn adran 4b isod. |
Adran 1: gwaharddiadau gorfodol (Ch4 uchod)
Pawb sy'n gwneud cynnig
A fyddech cystal â chadarnhau, yn y pum mlynedd diwethaf (neu, yn achos treth, y tair blynedd diwethaf), nad yw eich sefydliad (nac aelod o gonsortiwm arfaethedig), nac unrhyw unigolyn ag awdurdod ar gyfer y naill na'r llall, unrhyw le yn y byd, wedi ei gael yn euog o, yn atebol am neu dan fygythiad:
(a) Llwgrwobrwyo, cynllwynio, llygredd, twyll, masnachu pobl, llafur gorfodol, cael arian drwy dwyll, enillion trosedd / masnachu cyffuriau neu drosedd treth, terfysgaeth, lladrad neu debyg
(b) Peidio â thalu treth, cyfraniadau nawdd cymdeithasol na'u cyfwerth
(c) Gweithredu'n wrth-gystadleuol, torri telerau neu ysbryd cais neu gontract cyhoeddus, camymddwyn proffesiynol difrifol, unrhyw fath o fethdaliad, torri Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 neu fod â gwrthdaro rhwng buddiannau na ellir ei ddatrys oddi tanynt
(ch) Troseddau treth, cosb sifil am dwyll neu osgoi talu, ffurflenni y canfuwyd eu bod yn anghywir o dan yr egwyddorion cam-drin neu gyfwerth, neu fethiant cynllun osgoi.
Adran 2: yswiriant (C5 uchod)
Pawb sy'n gwneud cynnig
Atebwch OES i ardystio a oes gennych eisoes, neu a allwch ymrwymo i sicrhau, cyn dechrau'r Gytundeb, y lefelau yswiriant a nodir isod:
- Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr (Gorfodol) = £5 miliwn (lleiafswm)
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus = £1 miliwn (lleiafswm)
Sylwer: nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i unig fasnachwyr.
Os yw'n berthnasol i'ch prosiect, efallai y gofynnir i chi hefyd am Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch cyn cyhoeddi Cytundeb Cyllid a / neu Yswiriant Indemniad Proffesiynol.
Adran 3: gofynion polisi (C6 uchod)
Pawb sy'n gwneud cynnig
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o bolisïau neu ardystiad cyn cyhoeddi Cytundeb Cyllid.
Gallwch ardystio bod gan eich sefydliad bolisi iechyd a diogelwch sy'n cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol cyfredol.
Gallwch gadarnhau bod gan eich sefydliad ardystiad rheoli ansawdd cydnabyddedig, e.e. BS / EN / ISO 9000 neu system rheoli ansawdd amgen ar waith.
Gallwch gadarnhau bod gennych bolisi neu system rheoli amgylcheddol ar waith.
Gallwch gadarnhau bod gennych bolisi diogelu ar waith.
Gallwch ddarparu copi o unrhyw bolisïau neu ddatganiadau cyfle cyfartal rydych chi'n eu gweithredu (e.e. yn ymwneud â hil, rhyw, anabledd, crefydd, oedran a chyfeiriadedd rhywiol) sy'n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth.
Os ydych chi'n defnyddio isgontractwyr / cyflenwyr trydydd parti, gallwch gadarnhau bod gennych brosesau ar waith i wirio a yw unrhyw un o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol i'r sefydliadau hyn.
Adran 4: gwybodaeth ariannol (C7a a 7b uchod)
4a Pawb sy'n gwneud cynnig (dros £5,000)
A fyddech cystal â chadarnhau y gallech ddarparu un o'r canlynol i ddangos eich statws economaidd / ariannol:
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich statws economaidd / ariannol cyn cyhoeddi Cytundeb Cyllid.
(a) Copi o'r cyfrifon (a archwiliwyd lle bo hynny'n berthnasol) am y ddwy flynedd ddiweddaraf
(b) Datganiad o'r cyfrif trosiant, elw a cholled, rhwymedigaethau ac asedau cyfredol, a llif arian ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf o fasnachu ar gyfer y sefydliad hwn
(c) Datganiad o'r rhagolwg llif arian ar gyfer y flwyddyn gyfredol a llythyr gan y banc yn amlinellu'r sefyllfa arian a chredyd gyfredol yn nodi unrhyw forgeisi / lien ac ati.
(ch) Dulliau amgen o ddangos statws ariannol os nad oes unrhyw un o'r uchod ar gael (e.e rhagolwg trosiant ar gyfer y flwyddyn gyfredol a datganiad cyllid a ddarperir gan y perchnogion a / neu'r banc, cyfrifon croniadau elusennol neu ddull arall o arddangos statws ariannol).
4b Pawb sy'n gwneud cynnig £50,000 yn unig yn ychwanegol at yr uchod
Cadarnhewch eich bod yn gallu dangos y gallwch gyflawni'r trothwyon canlynol:
(a) Nid oes unrhyw Gyfarwyddwr yr ymgeisydd wedi'i anghymhwyso naill ai gan y Gwasanaeth Methdaliad, Tŷ'r Cwmnïau, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Llysoedd Prydain Fawr neu ymarferydd methdaliad yn ystod y pum mlynedd diwethaf (mae hyn yn cynnwys gwaharddiad awtomatig am gael ei ddatgan yn fethdalwr, cael Gorchymyn Rhyddhad Dyled neu fod yn destun rhyddhad rhyddhad dyled neu gyfyngiadau rhyddhad methdaliad)
(b) Rhaid i farn yr Archwilwyr yn yr Adroddiad i’r Cyfrifon a ffeiliwyd ddiwethaf fod yn ddiamod ac wedi eu paratoi ar sail busnes gweithredol
(c) Rhaid peidio â bod yn hwyr wrth ffeilio cyfrifon a ffurflenni gofynnol eraill yn Nhŷ'r Cwmnïau neu lle nad yw'r ymgeisydd yn Gwmni Cyfyngedig rhaid i'r cyfrifon cwmni a ddarperir beidio â bod yn fwy na 18 mis oed
(ch) Bod yr ymgeisydd a holl aelodau'r consortiwm yn gyflogwr / cyflogwyr cofrestredig â Lefi (os yw'n berthnasol) ac yn gyfoes â'r holl daliadau Lefi a Ffurflenni Lefi
(d) Nid oes gan yr ymgeisydd unrhyw symiau dyledus i CITB
(dd) Nid yw'r ymgeisydd wedi torri neu ddiffygio ar unrhyw drefniant cytundebol gyda CITB yn ystod y tair blynedd diwethaf.