Facebook Pixel
Skip to content

Mae AJC Carpentry yn gwerthfawrogi profiad i dyfu ei fusnes  

Mae rhai'n dweud na allwch ddysgu triciau newydd i hen gŵn, ond yn aml mae'n aeddfedrwydd, profiad ac ethig gwaith sefydledig sy'n bwysicaf. 

Roedd angen i'r cwmni gwaith coed AJC Carpentry Southern a leolir yn Hampshire hyfforddi gweithwyr a oedd eisoes yn gwybod beth oedden nhw'n ei wneud, ond a oedd heb y cymwysterau i'w brofi. Roedd cyllid CITB ar gael i'w helpu ar eu ffordd.

 busnes a oedd yn tyfu'n gyflym, roedd angen i AJC Carpentry Southern gael pobl gymwys yn barod i weithio ar y safle cyn gynted â phosibl. Fe wnaethon nhw nodi chwech saer a oedd eisoes â lefel dda o wybodaeth a phrofiad; roedd pedwar ohonynt wedi bod yn y fyddin lle defnyddiwyd eu sgiliau adeiladu'n dda.  

Ond nid oedd gan yr un ohonynt y cymwysterau oedd arnynt eu hangen i fod yn seiri cymwys. 

Cyllid ar gyfer yr hyfforddiant cywir

"Mae prentisiaethau'n wych. Eisoes roeddem wedi cyflogi saith prentis y flwyddyn honno, ond nid oedd y ddull hwn o ddysgu'n addas ar gyfer amgylchiadau'r gweithwyr mwy aeddfed a phrofiadol hyn," meddai'r Cynorthwyydd Gweinyddol, Jane Rose.

"Felly fe wnaethom benderfynu buddsoddi mewn hyfforddiant ar y safle i'w gwneud yn llawn gymwys.” 

Diolch i gysylltiad rheolaidd â'u cynrychiolydd CITB lleol, trenwyd bod y cwmni'n ymwybodol o'r cyllid y gallent ei gael ar gyfer yr hyfforddiant hwn.

"Roedd ein cynrychiolydd CITB o gymorth mawr. Roedd hi'n gyflym i ymateb i'n cwestiynau ac fe wnaeth hi ein harwain drwy'r broses ymgeisio, yn ogystal â'r holl reolau a rheoliadau. "

"Roedd y broses yn syml, ond allen ni ddim fod wedi ymdopi hebddi hi."

Ar ôl i'r ffurflenni gael eu derbyn a'u cymeradwyo, derbyniodd y cwmni gyllid o £5,000, ac fe wnaeth y chwe chyflogai ddilyn Diploma NVQ 2 mewn Galwedigaethau Coed (Gwaith Coed ar y Safle), a aseswyd ar y safle ac mewn dosbarth gyda darparwr hyfforddiant achrededig.

Roedd y cymhwyster yn cwmpasu gwaith allanol, megis gwaith ar doeau, distiau a chodi fframiau pren, yn ogystal â gwaith coed mewnol, fel gwaith coed gosod cyntaf ac ail.

Canlyniadau gweladwy

"Mae'r hyfforddiant wedi helpu ein gweithlu i dyfu a magu hyder," meddai Jane.

Ciplun

Cwmni:  AJC Carpentry Southern Limited
Sector: Gwasanaethau gwaith coed ar safleoedd adeiladu tŷ mawr
Yr Her:  Cael cymwysterau NVQ 2 ar y safle ar gyfer chwe saer oedd yn gwella
Math o gyllid: Cronfa sgiliau a hyfforddiant CITB
Swm a ddyfarnwyd: £5,000 
Effaith:   

  • Gweithlu wedi'i uwchsgilio a mwy hyderus;
  • cyfleoedd gyrfaol newydd ar gyfer unigolion;
  • cynhyrchiant cyffredinol gwell;
  • a chymorth i hyfforddi rhagor o weithwyr bob blwyddyn.

"Maen nhw'n teimlo y gallant gyflawni tasgau sy'n gwella sgiliau, eu diddordeb yn y gwaith ac yn y pen draw, cynhyrchiant; heb y cyllid hwn, ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi digwydd. "

Jane Rose, AJC Carpentry

"Maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u hyfforddi hyd at lefel uchel, a'u bod yn gallu cyflawni tasgau dyddiol sy'n gwella'u sgiliau, eu diddordeb yn y gwaith ac yn y pen draw, cynhyrchiant; heb y cyllid hwn, ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi digwydd. "

Roedd yr holl beth mor llwyddiannus bod y cwmni wedi gwneud cais am, ac wedi derbyn, cyllid ar gyfer y flwyddyn ddilynol hefyd, am bedwar cyflogai ychwanegol.

"Roedd y broses gyfan hyd yn oed yn gyflymach ac yn haws yr ail dro. Ac mae'r hyfforddiant parhaus yn ein helpu i lenwi ein bwlch sgiliau, gwella perfformiad a chadw ein pobl. "

Ac os nad oedd hynny'n ddigon, mae un o'r chwe chyflogai gwreiddiol bellach yn cael ei hyfforddi fel rheolwr contractau. 

"Mae ei yrfa'n symud ymlaen yn gyflym, cyfle a grëwyd yn wreiddiol gan hyfforddiant a gyllidwyd gan CITB."