Facebook Pixel
Skip to content

Pam oedd yn werth chweil ar gyfer y Property Care Association

Efallai ei fod yn gorff masnach cymharol fach, ond canfu'r Property Care Association (PCA) fod canlyniadau llwyddiannus cwrs peilot yn drech na'r ymdrech i wneud cais am gyllid CITB. 

Mae'r PCA yn ceisio hyrwyddo'r safonau uchaf o broffesiynoldeb ac arbenigedd ar gyfer arbenigwyr sy'n datrys problemau'n effeithio ar adeiladau. Mae'n gwneud hyn trwy wrando ac ymateb yn gyflym i anghenion y diwydiant a darparu'r hyfforddiant a'r gwasanaethau cymorth eraill sydd eu hangen ar ymarferwyr.

Yn 2016, roedd y corff yn cydnabod bod angen brys i ddatblygu a threialu cwrs mewn Diogelu Llifogydd ar Lefel Eiddo i Syrfewyr i fynd i'r afael â bwlch sgiliau yn y sector, gan wneud cais am gyllid CITB.

Llenwi'r bwlch sgiliau

"Gyda dim ond deg aelod o staff, rydyn ni'n dîm bach yn cefnogi cymdeithas fasnach fawr," esbonia Lisa Holdich, Rheolwraig Cynllun Prentisiaeth y PCA.

"Felly roedd braidd yn frawychus i gasglu'r holl wybodaeth i gyflwyno cais ar fy mhen fy hun."

"Ac oherwydd bod hwn yn ddiwydiant adweithiol a chyflym iawn, rydyn ni bob amser yn hoffi cael cyrsiau ar waith 'ddoe' er mwyn i bobl allu cael yr hyfforddiant sydd arnynt ei angen cyn gynted â phosibl."

"Mewn byd delfrydol, gallai'r broses fod wedi bod ychydig yn gyflymach - ond ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo, roedden ni wrth ein bodd i dderbyn cyllid o £2,300 bron.” 

Helpodd y cyllid i'r PCA ddatblygu cwrs peilot dau ddiwrnod, a fynychwyd gan 16 o gyflogeion o 14 o fusnesau.

Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: 'Newtonsoft.Json.Linq.JValue' does not contain a definition for 'imageObj'
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at System.Dynamic.UpdateDelegates.UpdateAndExecute1[T0,TRet](CallSite site, T0 arg0)
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_simpleblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.simpleblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 16
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage)
   at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer)
   at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData)
   at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20

Ciplun

Cwmni:  Property Care Association
Sector:  Cadw, cynnal a diogelu adeiladau
Yr Her:  Unioni bwlch sgiliau trwy ddatblygu cwrs ar gadernid llifogydd eiddo i syrfewyr
Math o gronfa: Cronfa Arloesi CITB
Swm a ddyfarnwyd: £2,296
Effaith:  Creu rhaglen hyfforddi newydd, llwyddiannus a phoblogaidd ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector.

Roedd y pum modiwl yn y cwrs yn darparu dealltwriaeth fanwl iddynt o'r elfennau allweddol mae angen eu hystyried i asesu'r risg o lifogydd ar gyfer eiddo unigol. Yn ogystal, arddangosodd sut i ymgymryd ag arolygon cynhwysfawr i ddatblygu strategaethau i ddarparu gwydnwch a chadernid yn erbyn llifogydd yn yr amgylchedd adeiledig.

Daeth â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd o feysydd cysylltiedig ond unigrywg o wydnwch yn erbyn llifogydd, fel y gallai pawb ehangu eu gwybodaeth i wneud ymatebion mwy deallus i faterion llifogydd.

"Roedd y cwrs yn llwyddiannus iawn, felly roedd yr ymdrech o wneud y cais am gyllid yn bendant yn werth chweil."

Lisa Holdich, Rheolwraig Cynllun Prentisiaeth y PCA

Adeiladu ar adborth

Yn hollbwysig, roedd hefyd yn gyfle i'r PCA gael adborth ar sut y gellid gwella'r cwrs peilot ar gyfer y dyfodol - gan ei gwneud yn bosibl iddynt ddatblygu rhaglen hyfforddi lawn nad oedd ar gael o'r blaen.

"Roedd y cwrs yn llwyddiannus iawn, felly roedd yr ymdrech o wneud y cais am gyllid yn bendant yn werth chweil," dywed Lisa.

"Fe wnaeth adborth gan y rhai oedd yn bresennol ein helpu i lunio ein cynnig cwrs yn y dyfodol, sydd bellach yn darparu'r sgiliau mae'r diwydiant eu hangen, ac mae'n profi'n boblogaidd iawn.”  

"Fe wnaethon ni benderfynu cyflwyno cyfres o gyrsiau yn 2017 i gyrraedd cymaint o arbenigwyr gwydnwch yn erbyn llifogydd â phosib."

"Dros amser rydyn ni'n gobeithio sefydlu llwybr gyrfaol clir a chymhwyster a fydd yn mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau ac ychwanegu gwerth at y cyflogwr a'r cyflogai.”