Facebook Pixel
Skip to content

Skippy Construction

"Bydd staff cymwys yn helpu fy musnes i ehangu"

Gall hyfforddiant gael effaith gadarnhaol sy'n graddol ymledu drwy sefydliad, gofynnwch i Aaron Doonan, Rheolwr Gyfarwyddwr Skippy Construction sydd wedi'i leoli yn Torquay.

“Clywais am gyllid CITB drwy Goleg De Dyfnaint,” meddai Aaron, sydd wedi cyflogi prentisiaid o'r coleg yn ei fusnes adeiladu cyffredinol.

“Dywedodd aelod o staff y coleg fod CITB yn cynnig cyllid sgiliau a hyfforddiant felly penderfynais gyflwyno cais.”

Gwnaeth Aaron, a sefydlodd ei fusnes 10 mlynedd yn ôl, gais am arian fel y gallai dau o'i fricwyr ennill cymwysterau ffurfiol.

“Mae gen i dri phrentis gwaith brics sy'n cael eu goruchwylio gan fricwyr profiadol,” esbonia Aaron.

“Fodd bynnag, gan nad oes gan fy staff profiadol unrhyw gymwysterau ffurfiol, nid ydynt yn ystyried eu bod yn gwbl gymwys i oruchwylio'r prentisiaid ifanc. Drwy gynnal hyfforddiant NVQ ar y safle, gallant wella eu sgiliau a meithrin hyder.”

Yn ogystal â gwella sgiliau ei fricwyr, gwnaeth Aaron gais am gyllid gan CITB i ddarparu hyfforddiant “Streetworks”

“Mae cwrs Streetworks yn golygu y gall tri aelod o staff weithio ar y priffyrdd. Ni fydd llawer o awdurdodau lleol yn caniatáu i chi weithio heb gymhwyster Streetworks felly mae'n hanfodol i'm gwaith.”

“Bydd y ffaith bod gen i staff â chymhwyster Streetworks yn helpu'r busnes i ehangu i farchnad newydd.”

Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: 'Newtonsoft.Json.Linq.JValue' does not contain a definition for 'imageObj'
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at System.Dynamic.UpdateDelegates.UpdateAndExecute1[T0,TRet](CallSite site, T0 arg0)
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_simpleblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.simpleblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 16
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage)
   at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer)
   at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData)
   at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20

Dywed Aaron, a gafodd £5,000 gan CITB i hyfforddi ei staff, fod y broses o wneud cais am arian yn ddidrafferth. Mae hyd yn oed wedi'i ysbrydoli i ystyried cyflwyno cais newydd pan ddaw'r cyllid presennol i ben.

“Roedd y broses o wneud cais am arian yn syml,” meddai. “Gwnaeth y coleg fy helpu gyda'r gwaith papur ac ni chymerodd amser hir i gael yr arian, dim ond pedair wythnos.”

“Mae hyfforddiant wedi rhoi hwb i forâl y staff. Dywedodd dau o'n cyflogeion yr hoffent gael hyfforddiant i'w helpu i wneud eu gwaith felly efallai y bydda i'n gwneud cais am ragor o arian ymhen blwyddyn neu ddwy. Mae hyfforddiant wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith ein staff.”