Mae CITB yn gofyn am eich barn, fel cyflogwyr, ar y cymwysterau Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig newydd yng Nghymru.
Bydd y cymwysterau newydd yn sicrhau bod y gweithlu’n cael ei gefnogi gan ddysgwyr mwy medrus a mwy parod am waith.
Mae City & Guilds ac Excellence Achievement and Learning, fel consortiwm, yn datblygu’r cymwysterau. Maent yn gofyn i chi, fel cyflogwyr, gyfrannu at ddatblygiad a chwmpas ‘cymeradwyaeth y cyflogwr’.
Fel rhan o’r cymwysterau newydd, bydd cyflogwyr yn ‘cymeradwyo’ cymhwysedd eu prentisiaid pan fyddant yn teimlo bod eu prentisiaid yn gymwys ac yn gallu gweithio’n gyson i safonau’r diwydiant yn ei grefft.
Bydd ‘cymeradwyaeth y cyflogwr’ yn arwain at asesu prentisiaid yn derfynol yng Nghymru.
Mae’n hanfodol cael hyn yn gywir a rhoi’r system fwyaf priodol a dichonadwy ar waith, a fydd yn gyfundrefn gadarn ac effeithiol o asesu prentisiaid y gall cyflogwyr fod yn rhan ohoni.
Dweud eich dweud
Er mwyn cael dweud eich dweud, cysylltwch ag ian.roberts@cityandguilds.com neu llenwch y ffurflen gofrestru isod.