Facebook Pixel
Skip to content

Fframweithiau Cymhwysedd

Cymerwch ran yn y gwaith o lunio dyfodol adeiladu

I ymuno â gweithgor neu ganfod mwy e-bostiwch standards.qualifications@citb.co.uk

Beth yw Fframweithiau Cymhwysedd?

Bydd Fframwaith Cymhwysedd yn nodi ac yn diffinio’r gofynion cymhwysedd ar gyfer unigolion ar draws yr Amgylchedd Adeiledig. Maent yn cynnwys Llwybr i Gymhwysedd a dogfen SKEB (Sgiliau, Gwybodaeth, Profiad ac Ymddygiad) a Chynllun Gweithredu.

  • Bydd y Llwybr i Gymhwysedd yn amlygu’r llwybrau cymhwyster sydd ar gael i unigolion gyflawni lefel o gymhwysedd.
  • Mae’r datganiad SKEB yn rhestru’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r ymddygiadau (SKEB) sydd eu hangen i gael cymhwysedd yn y rôl(rolau) a gwmpesir gan y fframwaith ac yn dangos yr hyfforddiant sydd ar gael i gefnogi’r cymwyseddau hynny ac unrhyw ofynion ail-ddilysu.
  • Mae Cynllun Gweithredu yn rhaglen ac yn amserlen ar gyfer pob galwedigaeth er mwyn cydymffurfio’n llawn â gofynion y fframwaith cymhwysedd, gan gynnwys darparu’r seilwaith hyfforddi ac asesu angenrheidiol.

Pam fod angen Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y diwydiant adeiladu?

Wrth i’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu ddod i rym, bydd yn ofynnol i unigolion brofi eu bod yn gymwys i wneud y gwaith maent yr y safle i’w wneud, felly mae’n hollbwysig bod gennym gymhwysedd wedi’i ddiffinio ar gyfer pob rôl (o fewn cwmpas).

Er bod y Ddeddf Diogelwch Adeiladau ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y rhai sy’n gweithio ar adeiladau risg uwch (HRBs), bydd CITB yn cefnogi Sectorau Uwch Cymhwysedd Gosodwyr WG2, is-grŵp o Grŵp Llywio Cymhwysedd y Diwydiant (ICSG), i ymgynghori â diwydiant i ddatblygu Fframweithiau Cymhwysedd.

Bydd Fframweithiau Cymhwysedd yn helpu i wella cymhwysedd trwy ddarparu eglurder a chysondeb ar draws y diwydiant gyda chysylltiadau â chymwysterau achrededig a hyfforddiant cymeradwy, gan gefnogi’r strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r galw am sgiliau hefyd.

O safoni cymhwysedd a nodi’r dirwedd gymwysterau, bydd cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau a nodir gan y broses ymgynghori a diffinio’r Fframwaith Cymhwysedd.

Datblygu Fframwaith Cymhwysedd

Bydd dull cydweithredol CITB ag Uwch Sectorau Cymwyseddau Gosodwyr WG2 yn cefnogi’r strategaeth ar gyfer datblygu Fframwaith Cymhwysedd safonol, gan wella cydgysylltu rhwng y sectorau er mwyn osgoi bylchau a dyblygu ar draws yr Amgylchedd Adeiledig.

Bydd CITB yn cynnig cyfle i ddiwydiant fod yn rhan o ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd, naill ai drwy fod yn rhan o weithgor neu gyfrannu drwy arolygon ar-lein.

Gofynion Gweithgorau (WGs) ac amserlenni nodweddiadol:

  • Arbenigwyr yn y diwydiant sy’n gyfarwydd â’r alwedigaeth
  • tua unwaith neu ddwywaith y mis (ar-lein)
  • Cyfarfodydd wyneb yn wyneb os yw’n well gan weithgorau
  • Gall cyfarfodydd fod rhwng un a thair awr (mewn cytundeb â’r gweithgor)
  • Rhaid gwneud rhai arolygon, rhag-ddarllen neu adolygu dogfennau ar ôl cyfarfodydd

Bydd ymgynghoriad 30 diwrnod arall ar y gwaith datblygu ar gael ar gyfer adborth gan y sector ehangach.

Beth mae’r Tîm Safonau’n ei wneud?

Mae’r Tîm Safonau yn cydweithio i ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd ochr yn ochr ag Uwch Sectorau Cymwyseddau Gosodwyr WG2 drwy gyflawni’r canlynol:

  • cynnal adolygiadau galwedigaethol
  • cynnal gwaith ymchwil cychwynnol
  • trefnu cyfarfodydd
  • hwyluso cyfarfodydd
  • crynhoi nodiadau cyfarfodydd a’r camau gweithredu a nodwyd
  • paratoi dogfennau i aelodau’r gweithgor eu hadolygu
  • casglu adborth
  • gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau bod cynnwys y safonau'n diwallu anghenion y diwydiant adeiladu
  • annog ymgynghori ac adborth ehangach 4 gwlad

Mae ymroddiad ac angerdd aelodau’r gweithgor yn galluogi CITB i ddatblygu’r Fframweithiau Cymhwysedd, sydd yn eu tro yn helpu’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol – nawr ac yn y dyfodol.

I gysylltu â’r Tîm Safonau, anfonwch e-bost atom: standards.qualifications@citb.co.uk.

Datblygiadau Fframwaith Cymhwysedd Presennol

  • Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â’r Diwydiant:
    • Jetio Dŵr
    • Cadw Ffasadau
    • Trwsio difrod ac ail-wynebu
    • Cotio amddiffynnol
  • Galwedigaethau Cladin
    • Dalennu To a Chladin
  • Adeiladu Gan Ddefnyddio Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Oddi Ar Y Safle
    • Ffrâm Dur Wedi'i Ffurfio'n Oer - Cydosod
    • Ffrâm Dur Wedi'i Ffurfio'n Oer - Codi
    • Ffrâm Dur Wedi’i Ffurfio’n Oer- Cydosod/Codi
    • Codi Ffrâm Concrit Aeredig Awtoclafio
    • Adeilad Modiwlaidd/Cludadwy
    • Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Lloriau
    • Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Cladin
    • Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Strwythurol
    • Cladin Ffabrig a Chroen
  • Cynnal a Chadw Peiriannau neu offer Adeiladu
  • Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladu
    • Cadw Pren a Gwrthleithder
    • Amnewid Tei Wal
    • Inswleiddio Waliau Allanol - Byrddiwr
    • Inswleiddio Waliau Allanol - Gorffennwr
    • Inswleiddio Waliau Allanol – Byrddiwr a Gorffennwr
    • Inswleiddio Waliau Ceudod
    • Inswleiddio To Oer
    • Inswleiddio Mewnol
    • Inswleiddio Adrannau Fframiedig o Adeiladau
    • Wal Hybrid
    • Cartrefi Parc
    • Ystafell yn y To
    • Inswleiddiad o dan y Llawr
    • Inswleiddiad Llawr Solet
  • Systemau Mewnol
    • Gosodiad Nenfwd
    • Pared Symudol Modiwlaidd
    • Systemau Pared Gweithredadwy
    • Pared Gwydr/Sgrin Fewnol
    • Lloriau Mynediad
    • Systemau Nenfwd ar Grog
    • Gosodiad Nenfwd Estynedig
  • Asffalt Mastig
  • Decin Metal a Weldio Stydiau
    • Gosodwr Deciau Metal
    • Weldiwr Stydiau
  • Plastro Ffibraidd
  • Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff Nad yw’n Beryglus
    • Asbestos Trwyddedig
    • Gwaredu Gwastraff Peryglus
    • Gwaredu Gwastraff Nad yw’n Beryglus
  • Galwedigaethau Concrit Arbenigol
    • Atgyweirio Concrit
    • Concrit wedi’i Chwistrellu
    • Arolwg Concrit
    • Gosod systemau atgyfnerthu cyfansawdd
    • Gosod Amddiffyniad Rhag Cyrydiad i Goncrit
    • Concrit Addurniadol
    • Paratoi a Phroffilio Swbstrad
    • Drilio Concrit
    • Llifio Concrit
    • Drilio a Llifio Concrit
    • Llorio yn y Fan a’r Lle – Screed
    • Llorio yn y Fan a’r Lle – Resin
    • Llorio yn y Fan a’r Lle – Gosodwr Concrit
    • Llorio yn y Fan a’r Lle – Gorffennwr Concrit
    • Llorio yn y Fan a’r Lle – Gweithredwr Peiriant Concrit
    • Gosod Concrit ar Lawr Arnofiol
    • Adeiladu Concrit Wedi’i Inswleiddio
  • Galwedigaethau Gosod Arbenigol
    • Bleindiau a Chysgodion Solar
    • Gosodiad Seliwr Uniadau
    • Systemau Storio Diwydiannol – Gosod ac Archwilio
    • Gosodwr Cynnyrch, offer a pheiriannau
    • Gwaith Metel Pensaernïol
  • Gwaith is-strwythur
    • Waliau Cynnal
  • Gwaith Uwch-strwythur
    • Atgyweirio Strwythurol – Atgyfnerthu
    • Atgyweirio Strwythurol - Amnewid
    • Cryfhau Strwythurol Polymer wedi'i Atgyfnerthu â Ffibr
  • Profi, Arolygu ac Archwilio Trylwyr o Alwedigaethau
    • Profi, Arolygu ac Archwilio Offer, Peiriannau, Offer neu Ategolion yn drylwyr
    • Canfod Gollyngiadau mewn Systemau Dal dŵr
    • Profi Seilbyst Dynamig
    • Gosod Angorau Adeiladu a Phrofi Safle o Osodiadau Adeiladu
    • Systemau toi â chroen gwrth-ddŵr
    • Toi â chroen bitwmen wedi’i atgyfnerthu
    • Toi ag un haen o groen
    • Toi â chroen wedi’i osod ag hylif