You are here:
Ein dulliau gweithredu i reoli ATOs
Mae CITB yn gyfrifol am helpu i ddatblygu a chynnal safonau a chymwysterau yn y diwydiant adeiladu. Rydym am sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir gennych yn cael ei gyflwyno a'i asesu i safon y cytunwyd arni gan y diwydiant.
Rydym hefyd am wneud yn siŵr bod yr holl Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy (ATOs) CITB yn gyson yn y modd y maent yn trin dysgwyr ac yn darparu eu gwasanaethau.
Mae gennym nifer o bolisïau yr ydym yn disgwyl i ATOs eu defnyddio a'u dilyn wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn. Mae ein tîm sicrhau ansawdd yn ategu'r dull hwn gydag ymweliadau achlysurol i wirio safle hyfforddi ATO.
Dysgwch am ein:
- Polisi gwrthdaro rhwng buddiannausy’n amlinellu sut y bydd CITB yn ymdrin â gwrthdaro rhwng buddiannau gydag ATO, cyflogwr neu ddysgwr, a chyrff dyfarnu eraill
- Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth. sy’n nodi ein gofynion i ATOs ddarparu cyfle cyfartal, amrywiaeth ac ystyriaethau ar gyfer anghenion mynediad ac asesu arbennig dysgwr
- Polisi gwrth-dwyll, camymddwyn a chamweinyddu. sy’n anelu at ddiogelu uniondeb, dibynadwyedd ac enw da ATOs CITB a'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hyfforddi cysylltiedig
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau hyn, e-bostiwch ctdservices@citb.co.uk