Facebook Pixel
Skip to content

Cwrs Hyfforddi Cydlynydd Gwaith Dros Dro (TWCTC)

Cynlluniwyd y cwrs deuddydd hwn i helpu'r rheiny ar safle adeiladu sydd â chyfrifoldeb am reoli pob ffurf o waith dros dro. Cynlluniwyd hefyd i roi hyder i'r uwch-reolaeth ac y rheiny sy'n ymgysylltu â chontractwyr i gyrraedd safon o wybodaeth a aseswyd.

Trosolwg

Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi gan nifer o sefydliadau: Fforwm Gwaith Dros Dro, CECA, UKCG, HSE a'r FMB. Mae cefnogaeth y sefydliadau hyn yn golygu y gellir trosglwyddo'r cwrs o fewn y diwydiant.

Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais drwyddi draw ar bwysigrwydd cyfathrebu, cydlynu, cydweithredu a chymhwysedd (y '4C'), rheoli risg, diogelwch a chysylltiadau busnes.

Gan ganiatáu i'r Cydlynydd Gwaith Dros Dro (TWC):

  • Deall yr angen am a dyletswyddau Cydlynydd Gwaith Dros Dro
  • Deall rôl pobl eraill
  • Cael gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o BS5975 ynghylch y rôl hon

Fel arfer mae gwaith dros dro'n ddiogelwch a busnes-hanfodol ac yn galw am gydlynu gofalus. Dull derbyniol o gyflawni hyn yw trwy fabwysiadu'r broses reoli a amlinellir yn BS5975 sy'n cyflwyno'r Cydlynydd Gwaith Dros Dro fel rhywun allweddol. Mae'r cwrs hwn yn esbonio'r rôl a'r cyd-destun rheoli cyffredinol mae'n sefyll ynddo. Gall risg uchel ddigwydd ar safleoedd bach heblaw am rai mwy, felly mae deall hanfodion rheoli risg ddiogelwch yn dda, fel y'i amlinellir yn BS5975, yn berthnasol ar gyfer prosiectau o bob maint.

Nid yw'r cwrs hwn yn gwrs ymwybyddiaeth gwaith dros dro. Mae'n ymwneud yn unig â'r broses o gydlynu gwaith dros dro, a fynegir fel arfer trwy rôl y Cydlynydd Gwaith Dros Dro. Nid yw presenoldeb ynddo'n rhoi cymhwysedd fel Cydlynydd Gwaith Dros Dro; mae hwn yn dod o gymysgedd o addysg, hyfforddiant a phrofiad a dylid ei farnu gan unigolyn uwch priodol, y cyfeirir ato fel arfer fel yr Unigolyn Dynodedig (DI). Ystyrir bod hyfforddiant yn elfen hanfodol o gymhwysedd Cydlynydd Gwaith Dros Dro.

Mae ardystiad ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I aros ag ardystiad yn y maes hwn, bydd angen ichi ailwneud y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.

Dysgwch ragor am gael cymeradwyaeth i ddarparu'r cwrs hwn

Mae gwybodaeth bellach am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau'r Cynllun.

Canfod cwrs

Defnyddiwch ein adnodd chwilio am leoliad cwrs  i ddod o hyd i ddarparwr cwrs yn eich ardal chi.