Facebook Pixel
Skip to content

Didynnu lefi o gyflogau (PAYE a CIS Net)

Er bod Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn caniatáu didynnu o enillion o dan amgylchiadau penodol, o dan Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982, CITB yw'r unig sefydliad sydd wedi'i awdurdodi i osod a chasglu lefi CITB gan gyflogwyr yn y diwydiant. 

Nid yw prif gontractwyr wedi eu hawdurdodi i ddidynnu arian o gyflogau gweithwyr (PAYE a CIS Net) ar ran CITB.

Trosglwyddo'r lefi

Mae “trosglwyddo'r lefi” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pan fydd cyflogwyr yn didynnu arian o gyflogau isgontractwyr neu weithwyr eraill (PAYE a CIS Net) heb eu cytundeb, er mwyn codi arian i dalu eu lefi eu hunain.

Ym mis Rhagfyr 2011, fe gyhoeddodd CITB a'r ffederasiynau consensws y datganiad dilynol am drosglwyddo'r lefi:

Trosglwyddo'r Lefi: Datganiad ar y cyd

Didynnu lefi o gyflogau isgontractwyr neu weithwyr eraill

CITB yw'r corff a benodwyd gan y Senedd i godi a chasglu lefi gan bob cyflogwr adeiladu gyda'r nod o ddefnyddio'r lefi hwnnw i ddarparu hyfforddiant i'r diwydiant. Nid oes gan unrhyw sefydliad arall y pŵer statudol hwn i godi lefi ar gyflogwyr adeiladu ac ni awdurdodir unrhyw gyflogwr arall gan CITB i'w gasglu ar ei ran.

Caiff y lefi ei asesu yn unol â fformiwla a bennir yn y ddeddfwriaeth Hyfforddiant Diwydiannol ar 0.5% o daliadau i weithwyr yn ogystal ag 1.5% o daliadau i isgontractwyr llafur yn unig mewn perthynas â darparu gwasanaethau llai 1.5% o'r holl daliadau a dderbynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu am waith a wneir fel isgontractwr llafur yn unig.*

Er mai CITB yw'r unig gorff a awdurdodir i gasglu'r lefi, mae rhai cyflogwyr yn y diwydiant yn didynnu arian gan eu hisgontractwyr llafur yn unig fel ffordd o godi arian i dalu eu hasesiadau lefi eu hunain, gan ei alw'n ‘ddidyniad ar gyfer lefi CITB’, neu ‘swm sy'n gysylltiedig â lefi CITB’ neu honiad tebyg o'r fath. Yn aml, gall y didyniadau hyn fod ar gyfraddau uwch na'r hyn a nodir yn y ddeddfwriaeth Hyfforddiant Diwydiannol ac a gesglir gan CITB.

Nid yw'r lefi'n gweithio yn yr un ffordd â TWE, lle mae gan gyflogwr awdurdod cyfreithiol i ddidynnu arian gan ei weithiwr ac yna ei dalu i Gyllid a Thollau EM. Y sefydliad a aseswyd ar gyfer y lefi gan CITB sy'n gyfrifol, ac yn parhau i fod yn gyfrifol, am dalu'r lefi.

Nid taliadau lefi yw'r didyniadau hyn a wneir gan gyflogwyr eraill. Yn syml, ffordd i'r cyflogwr perthnasol leihau'r swm sy'n ddyledus ar daliad is-gontract ydyw. Nid yw'r ddeddfwriaeth Hyfforddiant Diwydiannol yn awdurdodi cyflogwyr i basio eu rhwymedigaethau lefi eu hunain ymlaen i'w hisgontractwyr.

Mae'r rhan fwyaf o gontractwyr yn deall ac yn derbyn eu cyfrifoldeb o ran talu unrhyw lefi ac nid ydynt yn ceisio cael isgontractwyr i dderbyn didyniadau camarweiniol o'r symiau cywir sy'n ddyledus am eu gwaith.

Mae'r Ffederasiynau Consensws sy'n ymwneud â'r gwaith o adolygu'r lefi wedi cytuno ar y datganiad hwn, sydd er gwybodaeth yn unig. Efallai y bydd unrhyw isgontractwr y mae taliadau o'r math hwn wedi cael eu didynnu ganddo yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol.

* Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn adlewyrchu'r cyfrifiadau lefi ar adeg y datganiad.