Facebook Pixel
Skip to content

Isgontractwyr CIS a lefi CITB

Mae Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn cael ei redeg gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).

O dan y cynllun, mae contractwyr yn didynnu arian o daliadau isgontractwyr ac yn ei drosglwyddo i CThEM.  Mae CThEM yn dweud wrth y contractwyr beth yw'r cyfraddau didynnu.

Cyfraddau treth CIS

Gallwch ganfod y cyfraddau treth CIS ar GOV.UK. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o isgontractwyr yn cael eu trethu ar gyfradd o 20%. Mae is-gontractwyr sydd heb gofrestru yn cael eu trethu ar 30%.

Sut mae CIS yn effeithio ar y lefi CITB

Cyfrifir y lefi CITB ar daliadau i:

  • Cyflogeion a delir trwy'r gyflogres.
  • Is-gontractwyr CIS rydych yn gwneud didyniadau CIS ganddynt (neu 'dalu net'). Mae'r rhain yn cynnwys isgontractwyr llafur yn unig a chyflenwi a gosod.

Gall isgontractwyr wneud cais i CThEM am ‘statws talu gros’ lle rydych yn eu talu heb ddidyniad. Ni weithredir y lefi CITB i isgontractwyr CIS rydych yn eu talu'n gros.

Ar eich Ffurflen Lefi, mae angen i chi gynnwys swm y didyniadau CIS a wnaethoch o daliadau'ch isgontractwyr.

Gweld y cyfraddau lefi cyfredol

Efallai y bydd angen i chi ofyn i'r person yn eich busnes sy'n gyfrifol am wneud taliadau i isgontractwyr am restr o'r rhai hynny rydych wedi gwneud didyniadau CIS ganddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am CIS, ewch i  GOV.UK