Facebook Pixel
Skip to content

Hawlio grantiau'r Cwrs Byr

Gall cyflogwyr sydd wedi'u cofrestru â lefi hawlio grantiau CITB ar gyfer cyrsiau cyfnod byr cymeradwy (hyfforddiant sy'n para o leiaf 3 awr i 29 diwrnod ar y mwyaf).

Sut i hawlio gyda Grantiau Ar-lein

Os ydych chi'n defnyddio darparwr hyfforddiant nad yw eto wedi cwblhau proses gymeradwyo Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATO), rhaid i chi wneud eich cais am grant trwy Grant ar-lein.

Eithriadau


Os yw'ch dysgwr wedi cyflawni prawf CPCS neu gwrs Diogelwch Safle a Mwy, neu os ydych chi'n defnyddio Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO), nid oes angen i chi wneud cais am grant cyflawniad cwrs cyfnod byr. Byddwn yn gwneud taliad awtomatig, os yw'n gymwys, trwy Bacs gan ddefnyddio'r data a ddarperir wrth archebu'r cwrs.

  1. Cofrestru â CITB ar-lein. (Os mai hwn yw eich ymweliad cyntaf, anfonir e-bost atoch i ddilysu'ch cyfrif a creu eich cyfrinair).
  2. Pan fyddwch ar dudalen gartref porth CITB Ar-lein, cliciwch ar y botwm 'Grant', lle cewch eich annog i fewngofnodi.
  3. Unwaith y byddwch yn y system Grantiau ar-lein, cliciwch ar wybodaeth hawlio hyfforddiant cyfnod hyd byr.
  4. Dewiswch p'un a ydych chi am wneud cais unigol (cwrs unigol / dysgwr) neu hawliad swmp (sawl cwrs / dysgwyr).
  5. Bydd angen i chi gyfeirio at y codau grant fel y dangosir yn y chwiliad safon hyfforddiant cyfno byr pan fyddwch chi'n cwblhau'r naill ffurflen neu'r llall.

Os dewiswch gwblhau hawliad grant unigol:

  • Cliciwch ar y botwm hawlio grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr.
  • Rhowch fanylion y dysgwr yn ôl y gofyn ar y ffurflen.
  • Os nad yw'r dysgwr yn bodoli ar ein cronfa ddata, bydd angen i chi greu proffil dysgwr newydd.
  • Ym mhroffil y dysgwr, cwblhewch fanylion yr hawliad (* yn dynodi maes gorfodol).
  • Cyflwyno'r ffurflen.
  • Telir y swm perthnasol i chi trwy Bacs.

Gwyliwch ein fideo am wneud hawliad grant unigol isod neu ei wylio ar YouTube

Os dewiswch wneud cais swmp:

  1. Mae gan ein system swyddogaeth llwytho sawl cais. Mae hyn yn golygu y gallwch allforio data yn eich system yn gyflym ac yn hawdd i'r ffurflen hawlio grant hyfforddiant cyfnod byr.
  2. Cliciwch ar y botwm hawlio grant hyfforddiant cyfnod byr mewn swmp a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y porth grant.

Gwyliwch ein fideo am wneud hawliadau swmp isod

I gael cymorth wrth wneud cais am y grant hwn gallwch gysylltu â’ch Cynghorydd CITB lleol neu ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0344 994 4455.